Diwygiadau i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 201319
Ym mharagraff 41 (enillion enillwyr hunangyflogedig: pensiynwyr)—
a
yn is-baragraff (2)(b)(i) ar ôl “o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995” mewnosoder “, neu adran 81 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014”;
b
yn is-baragraff (2)(d)—
i
ar ddiwedd paragraff (iv) hepgorer “neu”;
ii
ar ôl paragraff (v) mewnosoder—
vi
y person dan sylw pan fo’r taliad ar gyfer darparu llety i ddiwallu ei anghenion am ofal a chymorth a drefnir yn unol ag adran 35 neu 36 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014; neu
vii
y person dan sylw pan fo’r taliad ar gyfer darparu llety i ddiwallu ei anghenion am ofal a chymorth a drefnir yn unol ag adran 18 neu 19 o Ddeddf Gofal 2014;