Diwygiadau i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013

25.  Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)

(a)yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—

(i)yn is-baragraff (1) yn lle “£151.20” a “£166.05” rhodder “£155.60” a “£168.70” yn y drefn honno;

(ii)yn is-baragraff (2) yn lle “£230.85” a “£248.30” rhodder “£237.55” a “£252.30” yn y drefn honno;

(iii)yn is-baragraff (3) yn lle “£230.85” a “£79.65” rhodder “£237.55” a “£81.95” yn y drefn honno;

(iv)yn is-baragraff (4) yn lle “£248.30” a “£82.25” rhodder “£252.30” a “£83.60” yn y drefn honno;

(b)ym mharagraff 6 (premiwm anabledd difrifol)—

(i)yn is-baragraff (3) yn lle “hwnnw’n ddall neu’n cael ei drin fel pe bai’n ddall” rhodder “hwnnw’n ddall neu â nam difrifol ar ei olwg neu’n cael ei drin fel y cyfryw”;

(ii)yn lle is-baragraff (4) rhodder—

(4) At ddibenion is-baragraff (3), mae person yn ddall neu â nam difrifol ar ei olwg os yw—

(a)wedi ei gofrestru fel person dall mewn cofrestr a gedwir o dan adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (gwasanaethau lles);

(b)wedi ei gofrestru fel person â nam difrifol ar ei olwg mewn cofrestr a lunnir ac a gynhelir gan awdurdod lleol o dan adran 18(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;

(c)wedi ei gofrestru fel person â nam difrifol ar ei olwg mewn cofrestr a lunnir ac a gynhelir gan awdurdod lleol o dan adran 77(1) o Ddeddf Gofal 2014; neu

(d)yn yr Alban, wedi ei ardystio’n ddall ac, o ganlyniad, wedi ei gofrestru fel person dall mewn cofrestr a gynhelir gan, neu ar ran, cyngor a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol etc. (Yr Alban) 1994.;

(iii)yn is-baragraff (5) ar ôl “fel person dall”, mewnosoder “neu fel person â nam difrifol ar ei olwg” ac ar ôl “fel pe bai’n ddall”, mewnosoder “neu’n berson â nam difrifol ar ei olwg”;

(iv)yn is-baragraff (6)(b) yn lle “sy’n ddall neu a drinnir fel pe bai’n ddall” rhodder “sy’n ddall neu â nam difrifol ar ei olwg neu a drinnir fel y cyfryw”;

(c)ym mharagraff 8(b) (premiwm plentyn anabl) yn lle “yn ddall” rhodder “yn ddall neu â nam difrifol ar ei olwg”, ac yn lle “fel pe bai’n ddall” rhodder “fel y cyfryw”.