Diwygiadau i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 201331
Yn Atodlen 9 (diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
a
yn lle paragraff 23 rhodder—
23
Unrhyw daliad a wneir gan awdurdod lleol yn unol â’r canlynol
a
adran 17, 23B, 23C neu 24A o Ddeddf Plant 1989;
b
adran 12 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968;
c
adran 22, 29 neu 30 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995; neu
d
adran 37, 38, 109, 110 neu 114 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ond gan eithrio unrhyw daliadau uniongyrchol a wnaed o dan y Ddeddf honno.
b
yn lle paragraff 47 rhodder—
47
1
Unrhyw daliad a wneir gan awdurdod lleol o dan adran 3 o Ddeddf Personau Anabl (Cyflogaeth) 1958 i weithwyr gartref a gynorthwyir o dan gynllun gweithwyr gartref dall.
2
Unrhyw daliad a wneir gan awdurdod lleol o dan Ran 4 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 i weithwyr gartref a gynorthwyir o dan gynllun gweithwyr gartref dall.
c
yn lle paragraff 60 rhodder—
60
Unrhyw daliad a wneir
a
o dan reoliadau a wnaed o dan adran 57 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (taliadau uniongyrchol);
b
fel taliad uniongyrchol fel y diffinnir “direct payment” yn adran 4(2) o Ddeddf Gofal Cymdeithasol (Cymorth Hunangyfeiriedig) (Yr Alban) 2013;
c
o dan adrannau 12A i 12D o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd);
d
o dan reoliadau a wnaed o dan adrannau 50 i 53 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (taliadau uniongyrchol); neu
e
o dan reoliadau a wnaed o dan adran 33 o Ddeddf Gofal 2014 (taliadau uniongyrchol).