- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
6. Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)—
(a)yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—
(i)yn is-baragraff (1) yn lle “£151.20” a “£166.05” rhodder “£155.60” a “£168.70” yn y drefn honno;
(ii)yn is-baragraff (2) yn lle “£230.85” a “£248.30” rhodder “£237.55” a “£252.30” yn y drefn honno;
(iii)yn is-baragraff (3) yn lle “£230.85” a “£79.65” rhodder “£237.55” a “£81.95” yn y drefn honno;
(iv)yn is-baragraff (4) yn lle “£248.30” a “£82.25” rhodder “£252.30” a “£83.60” yn y drefn honno;
(b)ym mharagraff 6 (premiwm anabledd difrifol)—
(i)yn is-baragraff (3), yn lle “hwnnw’n ddall neu’n cael ei drin fel pe bai’n ddall”, rhodder “hwnnw’n ddall neu â nam difrifol ar ei olwg neu’n cael ei drin fel y cyfryw”;
(ii)yn lle is-baragraff (4) rhodder—
“(4) At ddibenion is-baragraff (3), mae person yn ddall neu â nam difrifol ar ei olwg os yw—
(a)wedi ei gofrestru fel person dall mewn cofrestr a gedwir o dan adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (gwasanaethau lles);
(b)wedi ei gofrestru fel person â nam difrifol ar ei olwg mewn cofrestr a lunnir ac a gynhelir gan awdurdod lleol o dan adran 18(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
(c)wedi ei gofrestru fel person â nam difrifol ar ei olwg mewn cofrestr a lunnir ac a gynhelir gan awdurdod lleol o dan adran 77(1) o Ddeddf Gofal 2014; neu
(d)yn yr Alban, wedi ei ardystio’n ddall ac, o ganlyniad, wedi ei gofrestru fel person dall mewn cofrestr a gynhelir gan, neu ar ran, cyngor a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol etc. (Yr Alban) 1994.”;
(iii)yn is-baragraff (5) ar ôl “fel person dall”, mewnosoder “neu fel person â nam difrifol ar ei olwg” ac ar ôl “fel pe bai’n ddall” mewnosoder “neu’n berson â nam difrifol ar ei olwg”;
(iv)yn is-baragraff (6)(b) yn lle “sy’n ddall neu a drinnir fel pe bai’n ddall”, rhodder “sy’n ddall neu â nam difrifol ar ei olwg neu a drinnir fel y cyfryw.”;
(c)ym mharagraff 8(b) (premiwm plentyn anabl) yn lle “yn ddall” rhodder “yn ddall neu â nam difrifol ar ei olwg”, ac yn lle “fel pe bai’n ddall” rhodder “fel y cyfryw”.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: