Search Legislation

Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) 2016

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Cyfleusterau storio nwy tanddaearol

5.—(1Nid yw datblygiad sy’n ymwneud â chyfleusterau storio nwy tanddaearol o fewn rheoliad 3(1)(b) ac eithrio pan fo’r datblygiad o fewn paragraffau (2), (3), (4) neu (6) o’r rheoliad hwn.

(2Mae datblygiad o fewn y paragraff hwn os y datblygiad yw cyflawni gweithrediadau at y diben o greu cyfleusterau tanddaearol ar gyfer storio nwy mewn ceudodau neu mewn strata mân-dyllog naturiol, ac os bodlonir un o’r amodau ym mharagraff (5).

(3Mae datblygiad o fewn y paragraff hwn os—

(a)y datblygiad yw dechrau defnyddio cyfleusterau tanddaearol ar gyfer storio nwy ac eithrio mewn strata mân-dyllog naturiol;

(b)trawsgludwr nwy yw’r datblygwr arfaethedig; ac

(c)bodlonir un o’r amodau ym mharagraff (5).

(4Mae datblygiad o fewn y paragraff hwn os —

(a)y datblygiad yw dechrau defnyddio cyfleusterau tanddaearol ar gyfer storio nwy mewn ceudodau neu mewn strata mân-dyllog naturiol;

(b)nad trawsgludwr nwy yw’r datblygwr arfaethedig; ac

(c)bodlonir un o’r amodau ym mharagraff (5).

(5Yr amodau yw—

(a)bod cynhwysedd gweithredol disgwyliedig y cyfleusterau yn 43 miliwn metr ciwbig safonol, o leiaf;

(b)bod cyfradd llif uchaf ddisgwyliedig y cyfleusterau yn 4.5 miliwn metr ciwbig safonol y diwrnod, o leiaf.

(6Mae datblygiad o fewn y paragraff hwn os —

(a)y datblygiad yw cyflawni gweithrediadau at y diben o addasu cyfleusterau tanddaearol at y diben o storio nwy mewn ceudodau neu mewn strata mân-dyllog naturiol, a

(b)effaith ddisgwyliedig yr addasu yw—

(i)cynyddu cynhwysedd gweithredol y cyfleusterau o 43 miliwn metr ciwbig safonol, o leiaf, neu

(ii)cynyddu cyfradd llif uchaf y cyfleusterau o 4.5 miliwn metr ciwbig safonol y diwrnod, o leiaf.

(7Yn y rheoliad hwn—

ystyr “cyfradd llif uchaf” (“maximum flow rate”) yw’r gyfradd uchaf y gall nwy lifo allan o’r cyfleusterau yn unol â hi, gan ragdybio—

(a)

bod y cyfleusterau wedi eu llenwi hyd at eu cynhwysedd mwyaf, a

(b)

y mesurir y gyfradd ar ôl unrhyw brosesu sy’n ofynnol ar y nwy wrth ei adfer o’r storfa;

ystyr “cynhwysedd gweithredol” (“working capacity”) yw cynhwysedd y cyfleusterau ar gyfer storio nwy yn danddaearol, gan ddiystyru unrhyw gynhwysedd sydd ar gyfer storio nwy clustogi; ac

ystyr “nwy clustogi” (“cushion gas”) yw nwy a gedwir mewn cyfleusterau tanddaearol at y diben o alluogi adfer o’r storfa nwy arall a storiwyd ynddi.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources