8.—(1) Nid yw datblygiad mewn perthynas â maes awyr o fewn o fewn rheoliad 3(1)(e) ac eithrio pan y datblygiad yw—
(a)adeiladu maes awyr o fewn paragraff (2),
(b)addasu maes awyr o fewn paragraff (3), neu
(c)gwneud cynnydd, sydd o fewn paragraff (4), yn y defnydd a ganiateir o faes awyr.
(2) Nid yw adeiladu maes awyr o fewn y paragraff hwn ac eithrio pan ddisgwylir y gall y maes awyr (ar ôl ei adeiladu) ddarparu—
(a)gwasanaethau cludiant teithwyr awyr ar gyfer o leiaf un filiwn o deithwyr bob blwyddyn, neu
(b)gwasanaethau cludiant nwyddau awyr ar gyfer o leiaf 5,000 o symudiadau cludiant awyr gan awyrennau nwyddau bob blwyddyn.
(3) Nid yw addasu maes awyr o fewn y paragraff hwn ac eithrio pan ddisgwylir i’r addasiad gynyddu—
(a)nifer y teithwyr y gall y maes awyr ddarparu gwasanaethau cludiant teithwyr awyr iddynt, o un filiwn y flwyddyn, o leiaf, neu
(b)nifer y symudiadau cludiant awyr gan awyrennau nwyddau y gall y maes awyr ddarparu gwasanaethau cludiant nwyddau awyr ar eu cyfer, o 5,000 y flwyddyn, o leiaf.
(4) Nid yw cynnydd yn y defnydd a ganiateir o faes awyr o fewn y paragraff hwn ac eithrio pan fo’n gynnydd o—
(a)un filiwn y flwyddyn, o leiaf, yn nifer y teithwyr y caniateir i’r maes awyr ddarparu gwasanaethau cludiant teithwyr awyr iddynt, neu
(b)5,000 y flwyddyn, o leiaf, yn nifer y symudiadau cludiant awyr gan awyrennau nwyddau y caniateir i’r maes awyr ddarparu gwasanaethau cludiant nwyddau awyr iddynt.
(5) Yn y rheoliad hwn—
mae “addasu”/“addasiad” (“alteration”) yn cynnwys adeiladu, estyn neu addasu—
rhedfa yn y maes awyr,
adeilad yn y maes awyr, ac
mast radar neu radio, antena neu gyfarpar arall yn y maes awyr;
ystyr “awyren nwyddau” (“cargo aircraft”) yw awyren sydd—
wedi ei chynllunio i gludo nwyddau ond nid teithwyr, a
sy’n ymgymryd â chludo nwyddau ar delerau masnachol;
ystyr “gwasanaethau cludiant nwyddau awyr” (“air cargo transport services”) yw gwasanaethau ar gyfer cludo nwyddau drwy’r awyr;
ystyr “gwasanaethau cludiant teithwyr awyr” (“air passenger transport services”) yw gwasanaethau ar gyfer cludo teithwyr drwy’r awyr;
mae “nwyddau” (“cargo”) yn cynnwys post;
ystyr “symudiad cludiant awyr” (“air transport movement”) yw glaniad neu esgyniad awyren.