- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Rheoliad 15
1. Cydsyniad o dan adran 2(3) o Ddeddf Henebion a Mannau Archeolegol 1979(1) (rheoli gwaith sy’n effeithio ar henebion rhestredig).
2. Cydsyniad o dan adran 178(1) o Ddeddf Priffyrdd 1980(2) (cyfyngu ar osod rheiliau, trawstiau etc dros briffyrdd).
3. Cydsyniad o dan adran 8(1) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (3) (awdurdodi gwaith: cydsyniad adeilad rhestredig).
4. Cydsyniad o dan adran 74(1) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (4) (rheoli dymchwel mewn ardaloedd cadwraeth).
5. Cydsyniad o dan adran 4(1) o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990(5) (gofyniad am gydsyniad sylweddau peryglus).
6. Cydsyniad o dan adran 13 o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 (6) (cais am gydsyniad sylweddau peryglus heb amod a osodwyd ar gydsyniad blaenorol ).
7. Cydsyniad o dan adran 17 o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 (7) (dirymu cydsyniad sylweddau peryglus pan newidir rheolaeth tir).
8. Caniatâd cynllunio o dan adran 57(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (caniatâd cynllunio yn ofynnol ar gyfer datblygiad) ac eithrio caniatâd cynllunio amlinellol(8).
9. Awdurdodiad o dan adran 247(1) o Ddeddf 1990(9) (gorchymyn yn awdurdodi cau neu ailgyfeirio priffordd).
10. Awdurdodiad o dan adran 248(2) o Ddeddf 1990(10) (gorchymyn yn awdurdodi cau neu ailgyfeirio priffordd sy’n croesi neu’n ymuno â llwybr priffordd newydd arfaethedig).
11. Gorchymyn o dan adran 251(1) o Ddeddf 1990(11) (gorchymyn yn diddymu hawliau tramwy cyhoeddus dros dir a ddelir at ddibenion cynllunio).
12. Cydsyniad y gofynnir amdano o dan adran 16(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006(12) (dadgofrestru a chyfnewid: ceisiadau).
13. Cydsyniad sy’n ofynnol gan adran 38(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 (gwahardd gwneud gwaith heb gydsyniad).
1979 p. 46. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) (“Gorchymyn 1999”) ac Atodlen 1 i’r Gorchymyn hwnnw. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (“Deddf 2006”) a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 i’r Ddeddf honno (“Atodlen 11”).
1980 p. 66. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn 1999, ac Atodlen 1 i’r Gorchymyn hwnnw. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf 2006 a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 i’r Ddeddf honno.
1990 p. 9. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn 1999, ac Atodlen 1 i’r Gorchymyn hwnnw. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf 2006 a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 i’r Ddeddf honno.
Diwygiwyd adran 74(1) gan adran 63 o Ddeddf Menter a Diwygio Rheoleiddio 2013 (p. 24) a pharagraffau 7, 12(1) and (2) o Atodlen 17 i’r Ddeddf honno.
1990 c.10. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn 1999, ac Atodlen 1 i’r Gorchymyn hwnnw. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf 2006 a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11.
Diddymwyd adran 13(7) gan adrannau 144 a 162 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 (p. 43), paragraff 6 o Ran I o Atodlen 13 a Rhan VII o Atodlen 16 i’r Ddeddf honno.
Mewnosodwyd 17(3) gan adran 79(4) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5) and pharagraff 20 o Atodlen 3 i’r Ddeddf honno.
Gweler adran 92(1) o Ddeddf 1990 ar gyfer y diffiniad o “outline planning permission” (“caniatâd cynllunio amlinellol”).
Diwygiwyd adran 247(1) gan erthygl 5(b) o O.S. 2006/1281. Gwnaed diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Gwnaed diwygiadau i adran 248(2) nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Mae adran 251(1) yn cael effaith fel pe bai Awdurdod Parc Cenedlaethol yn awdurdod lleol at ddibenion Deddf 1990, yn rhinwedd adran 65 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25) a pharagraff 2(3) o Atodlen 8 i’r Ddeddf honno.
2006 p. 26. Gweler adran 61(1) ar gyfer y diffiniad o “appropriate national authority”.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: