Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016

Erthyglau 8 a 9(5)

ATODLEN 1Cyhoeddusrwydd ac ymgynghori cyn gwneud cais am ganiatâd cynllunio

Erthygl 9(5)

ATODLEN 2Ymgynghori cyn gwneud cais am ganiatâd cynllunio

Erthygl 16

ATODLEN 3Hysbysiadau o dan erthygl 16

Erthygl 18

ATODLEN 4Cyhoeddusrwydd i geisiadau

Erthygl 22

ATODLEN 5Dyletswydd i ymgynghori cyn rhoi caniatâd

Tabl

ParagraffDisgrifiad o’r DatblygiadYmgynghorai Arbenigol
(a)Datblygiad o fewn ardal yr hysbyswyd Gweinidogion Cymru yn ei chylch gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch at ddibenion y ddarpariaeth hon oherwydd bod sylweddau gwenwynig, tra adweithiol, ffrwydrol neu fflamadwy yn bresennol yn y cyffiniau (ac eithrio ar safle niwclear perthnasol), a’r datblygiad yn cynnwys darparu—Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
(i) mwy na 500 metr sgwâr o arwynebedd llawr swyddfa; neu
(ii) mwy na 750 metr sgwâr o arwynebedd llawr sydd i’w ddefnyddio ar gyfer proses ddiwydiannol, neu rywfodd arall yn debygol o achosi cynnydd materol perthnasol yn nifer y personau sy’n gweithio o fewn yr ardal yr hysbyswyd yn ei chylch, neu sy’n ymweld â’r ardal honno.
(b)Datblygiad o fewn ardal yr hysbyswyd Gweinidogion Cymru yn ei chylch gan y Swyddfa Rheoleiddio Niwclear at ddibenion y ddarpariaeth hon oherwydd bod sylweddau gwenwynig, tra adweithiol, ffrwydrol neu fflamadwy yn bresennol yn y cyffiniau ar safle niwclear perthnasol, a’r datblygiad yn cynnwys darparu—Y Swyddfa Rheoleiddio Niwclear
(i) mwy na 500 metr sgwâr o arwynebedd llawr swyddfa; neu
(ii) mwy na 750 metr sgwâr o arwynebedd llawr sydd i’w ddefnyddio ar gyfer proses ddiwydiannol, neu rywfodd arall yn debygol o achosi cynnydd materol perthnasol yn nifer y personau sy’n gweithio o fewn yr ardal yr hysbyswyd yn ei chylch, neu sy’n ymweld â’r ardal honno.
(c)Datblygiad sy’n debygol o achosi cynnydd materol perthnasol ym maint y traffig, neu newid materol berthnasol yng nghymeriad y traffig—
(i) sy’n ymuno neu’n ymadael â chefnffordd; neuGweinidogion Cymru
(ii) yn defnyddio croesfan dros reilfforddGweithredwr y rheilffordd neu’r rhwydwaith sy’n cynnwys y rheilffordd dan sylw, a Gweinidogion Cymru
(d)Datblygiad sy’n debygol o achosi cynnydd materol perthnasol ym maint y traffig, neu newid materol berthnasol yng nghymeriad y traffig sy’n ymuno neu’n ymadael â ffordd ddosbarthiadol neu briffordd arfaethedigYr awdurdod priffyrdd lleol perthnasol
(e)Datblygiad sy’n debygol o amharu ar wella neu adeiladu ffordd ddosbarthiadol neu briffordd arfaethedigYr awdurdod priffyrdd lleol perthnasol
(f)Datblygiad sy’n cynnwys darparu adeilad neu biblinell mewn ardal o weithfeydd glo, yr hysbyswyd Gweinidogion Cymru yn ei chylch gan yr Awdurdod GloYr Awdurdod Glo
(g)Datblygiad sy’n cynnwys neu sy’n ymwneud â gweithrediadau mwyngloddioCorff Adnoddau Naturiol Cymru
(h)Datblygiad sy’n debygol o effeithio ar safle heneb gofrestredigGweinidogion Cymru
(i)Datblygiad sy’n ymwneud â chyflawni gwaith neu weithrediadau ar wely neu ar lannau afon neu ffrwdCorff Adnoddau Naturiol Cymru
(j)Datblygiad at y diben o buro neu storio olewau mwynol a’u deilliadauCorff Adnoddau Naturiol Cymru
(k)Datblygiad sy’n ymwneud â defnyddio tir ar gyfer dyddodi sbwriel neu wastraffCorff Adnoddau Naturiol Cymru
(l)Datblygiad mewn perthynas â chadw, trin neu waredu carthion, gwastraff masnachol, slyri neu slwtsh (ac eithrio gosod carthffosydd, adeiladu tai pwmpio mewn llinell o garthffosydd, adeiladu tanciau carthion neu garthbyllau sy’n gwasanaethu tai annedd sengl neu garafannau sengl neu adeiladau sengl lle na fydd mwy na deg o bobl fel arfer yn preswylio, gweithio neu ymgynnull, a gwaith sy’n ategol i hynny)Corff Adnoddau Naturiol Cymru
(m)Datblygiad sy’n effeithio ar ddefnyddio tir fel mynwentCorff Adnoddau Naturiol Cymru
(n)Datblygiad sydd—Corff Adnoddau Naturiol Cymru
(i) mewn neu’n debygol o effeithio ar safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig; neu
(ii) mewn ardal yr hysbyswyd Gweinidogion Cymru yn ei chylch gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru ac sydd o fewn dau gilometr i safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig y rhoddwyd hysbysiad ohoni, neu sy’n cael effaith fel pe bai hysbysiad ohoni wedi ei roi i Weinidogion Cymru gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru, yn unol ag adran 28 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig)(1)
(o)Datblygiad sy’n ymwneud ag unrhyw dir sydd â theatr arno.Yr Ymddiriedolaeth Theatrau
(p)Datblygiad nad yw at ddibenion amaethyddol, nad yw’n unol â darpariaethau cynllun datblygu, ac sy’n golygu—Gweinidogion Cymru
(i) colli dim llai nag 20 hectar o dir amaethyddol graddau 1, 2 neu 3a a ddefnyddir ar y pryd (neu a ddefnyddiwyd diwethaf) at ddibenion amaethyddol; neu
(ii) colli llai nag 20 hectar o dir amaethyddol graddau 1, 2 neu 3a a ddefnyddir ar y pryd (neu a ddefnyddiwyd diwethaf) at ddibenion amaethyddol, mewn amgylchiadau pan fo’r datblygiad yn debygol o arwain at golled bellach o dir amaethyddol a fyddai’n peri bod y golled gronnus o dir amaethyddol yn 20 hectar neu’n fwy.
(q)Datblygiad sydd o fewn 250 metr i dir—Corff Adnoddau Naturiol Cymru
(i) a ddefnyddir, neu sydd wedi ei ddefnyddio ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 30 mlynedd cyn y cais perthnasol, ar gyfer dyddodi sbwriel neu wastraff ; a
(ii) yr hysbyswyd Gweinidogion Cymru yn ei gylch gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru at ddibenion y ddarpariaeth hon
(r)Datblygiad—Cyngor Chwaraeon Cymru(2)
(i) sy’n debygol o amharu ar ddefnyddio tir, neu arwain at golli’r defnydd o dir, a ddefnyddir fel maes chwarae; neu
(ii) sydd ar dir—
(aa) a ddefnyddiwyd fel maes chwarae ar unrhyw adeg yn ystod y 5 mlynedd cyn gwneud y cais perthnasol ac sy’n parhau heb ei ddatblygu; neu
(bb) a ddyrannwyd ar gyfer ei ddefnyddio fel maes chwarae mewn cynllun datblygu neu mewn cynigion ar gyfer cynllun o’r fath neu ar gyfer ei addasu neu ei amnewid; neu
(iii) sy’n golygu gosod arwyneb artiffisial, arwyneb o wneuthuriad dynol neu arwyneb cyfansawdd ar lain chwarae ar faes chwarae yn lle arwyneb o laswellt
(s)Datblygiad sy’n debygol o effeithio ar—The Canal & River Trust
(i) unrhyw ddyfrffordd fewndirol (boed naturiol neu artiffisial) neu gronfa ddŵr sy’n eiddo i’r Canal & River Trust neu a reolir ganddi; neu
(ii) unrhyw sianel gyflenwi, cwrs dŵr, dihangfa
dŵr neu gwlfert ar gyfer camlas, sydd o fewn ardal yr hysbyswyd Gweinidogion Cymru yn ei chylch at ddibenion y ddarpariaeth hon gan yr Canal & River Trust
(t)Datblygiad—

(a) Yr awdurdod cymwys rheoli peryglon damweiniau mawr ; a

(b) mewn perthynas â datblygiad sy’n dod o fewn paragraff (iii), unrhyw berson sy’n berson â rheolaeth o’r tir y lleolir arno unrhyw sefydliad presennol dan sylw, naill ai—

(i) yn ôl y gofrestr a gedwir gan yr awdurdod sylweddau peryglus o dan reoliad 22 o Reoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015(3); neu

(ii) pan fo’r awdurdod cymwys rheoli peryglon damweiniau mawr wedi hysbysu’r awdurdod cynllunio lleol yn unol â rheoliad 34(3)o’r Rheoliadau hynny

(i) sy’n ymwneud â lleoli sefydliadau newydd;
(ii) sy’n cynnwys addasiadau i sefydliadau presennol sydd o fewn cwmpas Erthygl 11 o Gyfarwyddeb 2012/18/EU(4); neu
(iii) sydd yn newydd, gan gynnwys llwybrau trafnidiaeth, lleoliadau a ddefnyddir gan y cyhoedd ac ardaloedd preswyl yng nghyffiniau sefydliadau presennol, lle y gallai lleoli neu ddatblygu achosi neu gynyddu’r risg o ddamwain fawr, neu ychwanegu at ganlyniadau damwain fawr.

Dehongli’r Tabl

Yn y Tabl uchod—

(a)ym mharagraffau (a) a (b)—

ystyr “arwynebedd llawr” (“floor space”) yw cyfanswm yr arwynebedd llawr mewn adeilad neu adeiladau;

ystyr “proses ddiwydiannol” (“industrial process”) yw proses sydd ar gyfer neu sy’n ategu unrhyw un o’r dibenion canlynol—

(i)

gwneud unrhyw wrthrych neu ran o unrhyw wrthrych (gan gynnwys llong neu gwch, neu ffilm, fideo neu recordiad sain);

(ii)

newid, atgyweirio, cynnal, addurno, gorffen, glanhau, golchi, pacio, canio, addasu ar gyfer gwerthu, datgymalu neu ddymchwel unrhyw wrthrych; neu

(iii)

cael, naddu neu drin mwynau yng nghwrs unrhyw fasnach neu fusnes ac eithrio amaethyddiaeth, a chan eithrio proses a gyflawnir ar dir a ddefnyddir fel mwynglawdd, neu sy’n cydffinio ac yn cael ei feddiannu ar y cyd â mwynglawdd (ac yn yr is-baragraff hwn, ystyr “mwynglawdd” (“mine”) yw unrhyw safle y cyflawnir gweithrediadau mwyngloddio ynddo);

ystyr “safle niwclear perthnasol” (“relevant nuclear site”) yw safle sydd yn—

(i)

safle niwclear Prydain Fawr (o fewn yr ystyr a roddir i “GB nuclear site” gan adran 68 o Ddeddf Ynni 2013)(5);

(ii)

safle amddiffyn awdurdodedig ( yn yr ystyr a roddir i “authorised defence site” gan reoliad 2(1) o Reoliadau Iechyd a Diogelwch (Awdurdod Gorfodi)1998(6)); neu

(iii)

safle niwclear newydd-adeiledig (yn yr ystyr a roddir i “new nuclear build site” gan reoliad 2A(1) o’r Rheoliadau hynny)(7).

(b)

ym mharagraff (c), mae i “rhwydwaith” a “gweithredwr”, yn eu trefn, yr ystyron a roddir i “network” ac i “operator” yn adran 83(1) o Ddeddf Rheilffyrdd 1993 (darparu gwasanaethau rheilffordd)(8);

(c)

ym mharagraffau (d) ac (e), ystyr “ffordd ddosbarthiadol” (“classified road”) yw priffordd neu briffordd arfaethedig sydd—

(i)

yn ffordd ddosbarthiadol neu’n brif ffordd yn yr ystyr, yn eu trefn, o “classified road” neu “principal road” at ddibenion adran 12(1) o Ddeddf Priffyrdd 1980 (darpariaeth gyffredinol o ran prif ffyrdd a ffyrdd dosbarthiadol)(9); neu

(ii)

yn ddosbarthiadol at ddibenion unrhyw ddeddfiad gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 12(3) o’r Ddeddf honno;

(d)

ym mharagraff (h), mae i “heneb gofrestredig” yr ystyr a roddir i “scheduled monument” gan adran 1(11) Ddeddf Henebion a Mannau Archeolegol 1979 (rhestr o henebion)(10);

(e)

ym mharagraff (l)—

nid yw “tŷ annedd” (“dwellinghouse”) yn cynnwys adeilad ag ynddo un neu ragor o fflatiau, nac ychwaith fflat sy’n gynwysedig mewn adeilad o’r fath (ac yn y paragraff hwn, ystyr “fflat” (“flat”) yw set o fangreoedd arwahanol ac annibynnol a adeiladwyd neu a addaswyd at y diben o breswylio ac yn ffurfio rhan o adeilad, ac wedi ei rhannu yn llorweddol oddi wrth ran arall o’r adeilad;

ystyr “slyri” (“slurry”) yw carthion a throeth anifeiliaid (pa un a ychwanegwyd dŵr ai peidio ar gyfer ei drin); ac

mae i “carafán” yr ystyr a roddir i “caravan” gan adran 29(1) o Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 (safleoedd carafannau)(11);

(f)

ym mharagraff (n), ystyr “safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig” (“site of special scientific interest”) yw tir y mae adran 28(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig) yn gymwys iddo;

(g)

ym mharagraff (o), mae i theatr” yr ystyr a roddir i “theatre” yn adran 5 o Ddeddf Ymddiriedolaeth Theatrau 1976 (dehongli)(12);

(h)

ym mharagraff (r)—

(i)

ystyr “maes chwarae” (“playing field”) yw’r cyfan o safle sy’n cynnwys o leiaf un llain chwarae;

(ii)

ystyr “llain chwarae” (“playing pitch”) yw arwynebedd wedi ei amlinellu yn benodol sydd, ynghyd ag unrhyw arwynebedd ymylol, yn 0.2 hectar neu’n fwy, ac a ddefnyddir ar gyfer pêl-droed y gymdeithas, pêl-droed Americanaidd, rygbi, criced, hoci, lacrós, rownderi, pêl fas, pêl feddal, pêl-droed Awstralaidd, pêl-droed Gwyddelig, bando, hyrli, polo neu polo beic;

(i)

ym mharagraff (t)—

(i)

mae i’r ymadroddion sy’n ymddangos yn y paragraff hwnnw ac y mae eu cyfystyron Saesneg yn ymddangos yng Nghyfarwyddeb 2012/18/EU yr un ystyron ag y sydd i’r cyfystyron Saesneg hynny yn y Gyfarwyddeb honno; a

(ii)

ystyr “awdurdod cymwys rheoli peryglon damweiniau mawr” (“control of major accident hazards competent authority”) yw—

(aa)

mewn perthynas â safle niwclear perthnasol, y Swyddfa Rheoleiddio Niwclear a Chorff Adnoddau Naturiol Cymru, yn gweithredu ar y cyd;

(bb)

fel arall, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a Chorff Adnoddau Naturiol Cymru, yn gweithredu ar y cyd.

Erthygl 31(2)

ATODLEN 6Hysbysiad o gychwyn datblygiad ac arddangos hysbysiad

Erthygl 31(3)

ATODLEN 7Hysbysiad i’w arddangos drwy gydol yr amser tra cyflawnir y datblygiad

(1)

1981 (p. 69); gweler adran 27AA o’r Ddeddf honno. Amnewidiwyd adran 28 gan adran 75(1) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (p. 37) a pharagraff 1 o Atodlen 9 i’r Ddeddf honno, a diwygiwyd hi gan adran 148 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23) a pharagraffau 2(2), (3) a (7) o Atodlen 13 i’r Ddeddf honno. Gwnaed diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

(2)

Adwaenir Cyngor Chwaraeon Cymru fel Chwaraeon Cymru.

(4)

O.J. L 197, 24.7.2012, t. 1.

(6)

O.S. 1998/494; Mewnosodwyd y diffiniad o “authorised defence site” gan erthygl 6(2) o Orchymyn Deddf Ynni 2013 (Swyddfa Rheoleiddio Niwclear) (Diwygiadau Canlyniadol, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2014 (O.S. 2014/469) a pharagraffau 70 a 72(a) o Atodlen 3 i’r Gorchymyn hwnnw.

(7)

Mewnosodwyd rheoliad 2A gan erthygl 6(2) o’r Gorchymyn hwnnw a pharagraffau 70 a 73 o Atodlen 3 iddo.

(8)

1993 p. 43; Gwnaed diwygiadau i adran 83 nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

(11)

1960 p. 62; Gwnaed diwygiadau i adran 29 nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.