- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
22.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru, o fewn y cyfnod sylwadau, ymgynghori ag unrhyw ymgynghorai arbenigol, ac eithrio pan fo ymgynghorai arbenigol wedi rhoi gwybod i Weinidogion Cymru nad yw’n dymuno iddynt ymgynghori ag ef.
(2) Nid yw’r eithriad ym mharagraff (1) yn gymwys pan fo’r datblygiad, ym marn Gweinidogion Cymru, yn dod o fewn paragraff (t) o’r Tabl yn Atodlen 5.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru, mewn unrhyw achos neu ddosbarth o achosion, ymgynghori hefyd ag unrhyw awdurdod, corff neu berson yn ychwanegol i’r rhai a bennir yn Atodlen 5.
(4) Os gwneir yn ofynnol, gan neu o dan yr erthygl hon, fod Gweinidogion Cymru yn ymgynghori ag unrhyw ymgynghorai arbenigol cyn rhoi caniatâd cynllunio—
(a)rhaid iddynt roi hysbysiad o’r cais i’r ymgynghorai arbenigol hwnnw; a
(b)rhaid iddynt beidio â phenderfynu’r cais tan o leiaf 21 diwrnod ar ôl y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad o dan is-baragraff (a).
(5) Rhaid i Weinidogion Cymru, wrth benderfynu’r cais, gymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a gânt gan ymgynghorai arbenigol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: