RHAN 7Penderfynu a hysbysu ynghylch cychwyn datblygiad

Hysbysiad ysgrifenedig o benderfyniad mewn perthynas â chais29.

(1)

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), pan fo Gweinidogion Cymru yn derbyn cais yn unol ag erthygl 15, rhaid iddynt roi hysbysiad o’u penderfyniad i’r ceisydd ac i’r awdurdod cynllunio lleol.

(2)

Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn achos pan fo’r cais wedi ei dynnu yn ôl neu pan dybir ei fod wedi ei dynnu’n ôl26.

(3)

Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad o benderfyniad ar gais, a naill ai caniatâd cynllunio yn cael ei roi yn ddarostyngedig i amodau neu’r cais yn cael ei wrthod, rhaid i’r hysbysiad ddatgan yn eglur ac yn fanwl y rhesymau llawn am y gwrthodiad neu am unrhyw amod a osodir, gan bennu’r holl bolisïau a chynigion yn y cynllun datblygu sy’n berthnasol i’r penderfyniad.

(4)

Pan fo—

(a)

y ceisydd wedi cyflwyno datganiad amgylcheddol; a

(b)

Gweinidogion Cymru (ar ôl cymryd gwybodaeth amgylcheddol i ystyriaeth) wedi penderfynu rhoi caniatâd (pa un ai’n amodol neu’n ddarostyngedig i amodau),

rhaid i’r hysbysiad a roddir i’r ceisydd yn unol â’r erthygl hon gynnwys datganiad bod yr wybodaeth amgylcheddol wedi ei chymryd i ystyriaeth gan Weinidogion Cymru.

(5)

Yn yr erthygl hon, mae i “gwybodaeth amgylcheddol” (“environmental information”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau AEA.