6.—(1) Pan fo ceisydd yn rhoi hysbysiad i Weinidogion Cymru ynghylch cais arfaethedig yn unol ag erthygl 5, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd a’r awdurdod cynllunio lleol eu bod wedi derbyn yr hysbysiad hwnnw, yn unol â darpariaethau canlynol yr erthygl hon.
(2) Rhaid iddynt hysbysu felly mewn ysgrifen o fewn 10 diwrnod gwaith, sy’n dechrau gyda’r diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn cael yr hysbysiad (neu pa bynnag gyfnod hwy y caiff Gweinidogion Cymru ei bennu mewn unrhyw achos penodol).
(3) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi hysbysu felly yn unol â’r erthygl hon, a’r ceisydd heb wneud cais o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau gyda’r dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad, ystyrir bod yr hysbysiad wedi darfod, ac mewn amgylchiadau o’r fath rhaid i’r ceisydd roi hysbysiad newydd o ddatblygiad arfaethedig yn unol ag erthygl 5, cyn y caniateir gwneud unrhyw gais.
(4) Pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn eu bod wedi cael hysbysiad o ddatblygiad arfaethedig nad yw’n cydymffurfio ag erthygl 5, rhaid iddynt, o fewn cyfnod o 10 diwrnod gwaith, sy’n dechrau gyda’r diwrnod y cawsant yr hysbysiad (neu pa bynnag gyfnod hwy y caiff Gweinidogion Cymru ei bennu mewn unrhyw achos penodol), roi gwybod i’r canlynol mewn ysgrifen nad yw’r cyfryw hysbysiad wedi ei dderbyn—
(a)y ceisydd;
(b)yr awdurdod cynllunio lleol; ac
(c)unrhyw bersonau eraill a ystyrir yn briodol gan Weinidogion Cymru.