RHAN 1Rhagarweiniol

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Mawrth 2016.

3

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys pan wneir cais neu pan fwriedir gwneud cais i Weinidogion Cymru o dan adran 62D o Ddeddf 1990 (datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol: ceisiadau sydd i’w gwneud i Weinidogion Cymru)12.

Dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “asesydd” (“assessor”) yw person a benodir i eistedd gyda pherson penodedig mewn gwrandawiad neu ymchwiliad neu wrandawiad neu ymchwiliad a ailagorwyd, i gynorthwyo’r person penodedig;

  • ystyr “awdurdod cynllunio lleol” (“local planning authority”) yw’r awdurdod cynllunio lleol y byddid, oni bai am adran 62D o Ddeddf 1990, wedi gwneud cais iddo am ganiatâd cynllunio;

  • mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 200013;

  • ystyr “cyfnod sylwadau” (“representation period”) yw’r cyfnod y darperir ar ei gyfer yn erthygl 4 o Orchymyn 201614;

  • ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;

  • ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ŵyl Banc nac yn ddydd gŵyl gyhoeddus arall yng Nghymru;

  • mae “dogfen” (“document”) yn cynnwys ffotograff, map neu blan;

  • ystyr “Gorchymyn 2016” (“the 2016 Order”) yw Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 201615;

  • ystyr “hysbysiad derbyn” (“notice of acceptance”) yw hysbysiad o dan erthygl 6 o Orchymyn 2016 bod y cais wedi ei dderbyn;

  • ystyr “person penodedig” (“appointed person”) yw’r person a benodir yn unol â rheoliad 10 i arfer y swyddogaethau a bennir yn rheoliad 11;

  • mae “sylw” (“representation”) yn cynnwys tystiolaeth, esboniad, gwybodaeth a sylwadaethau; ac

  • mae “sylwadau ysgrifenedig” (“written representations”) yn cynnwys dogfennau ategol.

Cyfathrebiadau electronig3

1

Yn y Rheoliadau hyn, ac mewn perthynas â defnyddio cyfathrebiadau electronig at unrhyw ddiben o’r Rheoliadau hyn y gellir ei gyflawni yn electronig—

a

mae’r ymadrodd “cyfeiriad” (“address”) yn cynnwys unrhyw rif neu gyfeiriad a ddefnyddir at ddibenion cyfathrebiadau o’r fath;

b

mae cyfeiriadau at hysbysiadau, sylwadau neu ddogfennau eraill, neu at gopïau o ddogfennau o’r fath, yn cynnwys cyfeiriadau at y cyfryw ddogfennau neu gopïau ohonynt mewn ffurf electronig.

2

Mae paragraffau (3) i (7) yn gymwys pan ddefnyddir cyfathrebiad electronig gan berson at y diben o gyflawni unrhyw ofyniad yn y Rheoliadau hyn i roi neu anfon unrhyw ddatganiad, hysbysiad neu ddogfen arall i neu at unrhyw berson arall (“y derbynnydd”).

3

Ystyrir bod y gofyniad wedi ei gyflawni pan fo’r hysbysiad neu ddogfen arall a drawsyrrir ar ffurf cyfathrebiad electronig—

a

yn un y gall y derbynnydd gael mynediad iddi;

b

yn ddarllenadwy ym mhob modd perthnasol; ac

c

yn ddigon parhaol i’w ddefnyddio neu i’w defnyddio i gyfeirio ato neu ati yn ddiweddarach.

4

Ym mharagraff (3), ystyr “darllenadwy ym mhob modd perthnasol” (“legible in all material respects”) yw fod yr wybodaeth a gynhwysir yn yr hysbysiad neu ddogfen arall ar gael i’r derbynnydd i’r un graddau, o leiaf, ag y byddai pe bai’r wybodaeth wedi ei hanfon neu ei rhoi gan ddefnyddio dogfen brintiedig.

5

Pan fo’r derbynnydd yn cael y cyfathrebiad electronig y tu allan i oriau busnes y derbynnydd, ystyrir ei fod wedi cael y cyfathrebiad electronig ar y diwrnod gwaith nesaf.

6

Mae unrhyw ofyniad yn y Rheoliadau hyn y dylai unrhyw ddogfen fod mewn ysgrifen, wedi ei gyflawni pan fo’r ddogfen honno’n bodloni’r meini prawf ym mharagraff (3), a rhaid dehongli “ysgrifenedig” (“written”) ac ymadroddion cytras yn unol â hynny.

7

Bodlonir unrhyw ofyniad yn y Rheoliadau hyn i anfon mwy nag un copi o ddatganiad neu ddogfen arall drwy anfon un copi yn unig o’r datganiad neu ddogfen arall o dan sylw mewn ffurf electronig.

Caniatáu amser ychwanegol4

Caiff Gweinidogion Cymru, mewn unrhyw achos penodol, roi cyfarwyddydau sy’n estyn y terfynau amser a ragnodir gan y Rheoliadau hyn.

RHAN 2Cyn-ymgeisio

Ceisiadau cymwys5

1

Mae’r canlynol yn geisiadau cymwys at ddibenion adran 61Z1(4) o Ddeddf 1990 (Cymru: gwasanaethau cyn-ymgeisio)—

a

cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygu tir yng Nghymru pan fo’r datblygiad y mae’r cais yn ymwneud ag ef yn ddatblygiad o arwyddocâd cenedlaethol16; a

b

cais neu ofyniad am gydsyniad eilaidd17 y tybia’r ceisydd y dylai Gweinidogion Cymru wneud penderfyniad mewn cysylltiad ag ef.

2

Yn y Rhan hon, ystyr “ceisydd” (“applicant”) yw’r person sy’n bwriadu gwneud cais cymwys.

Deisyfiad am wasanaethau cyn-ymgeisio6

1

Rhaid i unrhyw ddeisyfiad am wasanaethau cyn-ymgeisio mewn cysylltiad â chais cymwys fod—

a

yn ysgrifenedig i’r awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru, ar ffurflen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru (neu ffurflen sydd, o ran sylwedd, yn cael yr un effaith);

b

yn cynnwys y manylion a bennir neu y cyfeirir atynt yn y ffurflen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru; ac

c

wedi ei gyflwyno ynghyd ag—

i

unrhyw blaniau neu luniadau a bennir neu y cyfeirir atynt yn y ffurflen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru; a

ii

unrhyw ffi benodedig sy’n daladwy am wasanaethau cyn-ymgeisio18.

2

Rhaid i unrhyw blaniau neu luniadau y mae’n ofynnol eu darparu yn rhinwedd paragraff (1)(c)(i) fod wedi eu lluniadu ar raddfa a nodir, ac yn achos planiau rhaid iddynt ddangos cyfeiriad y gogledd.

3

Yn y Rhan hon, ystyr “deisyfiad dilys am wasanaethau cyn-ymgeisio” (“valid request for pre-application services”) yw deisyfiad am wasanaethau cyn-ymgeisio mewn cysylltiad â chais cymwys sy’n cydymffurfio â gofynion y rheoliad hwn.

4

Pan fo awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru yn cael cais dilys am wasanaethau cyn-ymgeisio, rhaid i’r awdurdod neu Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, anfon cydnabyddiaeth o’r deisyfiad at y ceisydd, gan ddatgan erbyn pa ddyddiad y mae’n rhaid darparu gwasanaethau cyn-ymgeisio o dan reoliad 7(3) neu, yn ôl y digwydd, reoliad 8(3).

Dyletswydd i ddarparu gwasanaethau cyn-ymgeisio: awdurdodau cynllunio lleol7

1

Pan fo awdurdod cynllunio lleol yn cael deisyfiad dilys am wasanaethau cyn-ymgeisio, rhaid i’r awdurdod ddarparu’r gwasanaethau cyn-ymgeisio a bennir ym mharagraff (2) o fewn y cyfnod a bennir neu y cyfeirir ato ym mharagraff (3).

2

Y gwasanaethau cyn-ymgeisio a bennir yn y paragraff hwn yw darparu i’r ceisydd wybodaeth mewn perthynas â’r canlynol—

a

hanes cynllunio’r tir y bwriedir cyflawni’r datblygiad arfaethedig arno, i’r graddau y mae’n berthnasol i’r cais arfaethedig;

b

darpariaethau’r cynllun datblygu, i’r graddau y maent yn faterol berthnasol i’r cais arfaethedig;

c

unrhyw ganllawiau cynllunio atodol, i’r graddau y maent yn faterol berthnasol i’r cais arfaethedig;

d

unrhyw ystyriaethau eraill sydd, neu a allai fod yn faterol berthnasol ym marn yr awdurdod;

e

pa un a yw’n debygol ai peidio y bydd rhwymedigaethau cynllunio (yn yr ystyr a roddir i “planning obligations” gan adran 106 o Ddeddf 1990 (rhwymedigaethau cynllunio)19) yn ofynnol, ac os byddant, dylid nodi cwmpas tebygol y cyfryw rwymedigaethau cynllunio, gan gynnwys nodi unrhyw swm y gallai fod yn ofynnol ei dalu i’r awdurdod; ac

f

unrhyw grwpiau cymunedol lleol perthnasol sy’n hysbys i’r awdurdod, y gallai’r ceisydd ymgynghori â hwy fel rhan o’r ymgynghoriad cyn-ymgeisio.

3

Y cyfnod a bennir yn y paragraff hwn yw—

a

28 diwrnod sy’n dechrau gyda’r diwrnod y ceir deisyfiad dilys am wasanaethau cyn-ymgeisio, neu pa bynnag gyfnod arall a gytunir mewn ysgrifen rhwng y ceisydd a’r awdurdod; neu

b

pan fo’r ffi sy’n ofynnol mewn cysylltiad â deisyfiad am wasanaethau cyn-ymgeisio wedi ei thalu â siec, a’r siec honno wedyn yn cael ei dychwelyd heb ei thalu, y cyfnod fel a bennir yn is-baragraff (a) wedi ei gyfrifo gan ddiystyru’r cyfnod rhwng y dyddiad yr anfonodd yr awdurdod hysbysiad ysgrifenedig at y ceisydd ynghylch dychwelyd y siec heb ei thalu a’r dyddiad pan fodlonir yr awdurdod ei fod wedi cael swm llawn y ffi.

4

Rhaid i unrhyw wybodaeth a roddir i’r ceisydd fod mewn ysgrifen.

Dyletswydd i ddarparu gwasanaethau cyn-ymgeisio: Gweinidogion Cymru8

1

Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael deisyfiad dilys am wasanaethau cyn-ymgeisio, rhaid i Weinidogion Cymru ddarparu pa bynnag rai o’r gwasanaethau cyn-ymgeisio a bennir ym mharagraff (2) y gofynnir amdanynt gan y ceisydd, o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (3).

2

Y gwasanaethau cyn-ymgeisio a bennir yn y paragraff hwn yw—

a

gwybodaeth a chymorth mewn perthynas ag unrhyw rai o’r canlynol—

i

ffurf a chynnwys y cais;

ii

ffurf a chynnwys unrhyw adroddiadau technegol a allai fod yn ofynnol;

iii

y gweithdrefnau ar gyfer gwneud cais a’i hebrwng ymlaen; a

b

pa bynnag wybodaeth neu gymorth arall a ddeisyfir gan y ceisydd, y gall Gweinidogion Cymru eu darparu ac y tybiant a fyddai o gymorth i’r ceisydd ar gyfer gwneud cais a’i hebrwng ymlaen; ac

c

asesiad dechreuol o’r cais arfaethedig.

3

Y cyfnod penodedig yn y paragraff hwn yw 28 diwrnod, sy’n dechrau gyda’r diwrnod pan geir deisyfiad dilys am wasanaethau cyn-ymgeisio neu pa bynnag gyfnod hwy a benderfynir gan Weinidogion Cymru.

4

Rhaid i unrhyw wybodaeth a roddir neu a gadarnheir i’r ceisydd fod mewn ysgrifen.

Monitro a datganiad o wasanaethau9

1

Rhaid i awdurdodau cynllunio lleol a Gweinidogion Cymru gadw cofnod o’r canlynol—

a

pob deisyfiad dilys a gânt am wasanaethau cyn-ymgeisio; a

b

y gwasanaethau cyn-ymgeisio a ddarperir mewn cysylltiad â cheisiadau cymwys.

2

Rhaid i’r cofnodion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) nodi’r tir y mae’r cais cymwys yn ymwneud ag ef.

3

Rhaid i bob awdurdod cynllunio lleol a Gweinidogion Cymru gyhoeddi’r canlynol ar eu priod wefannau—

a

datganiad sy’n rhoi manylion y gwasanaethau cyn-ymgeisio a ddarperir ganddynt mewn cysylltiad â cheisiadau cymwys;

b

yn achos awdurdod cynllunio lleol—

i

y ffurflen y cyfeirir ati yn rheoliad 6(1)(a); a

ii

manylion y ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad â deisyfiadau am wasanaethau cyn-ymgeisio; ac

c

yn achos Gweinidogion Cymru, manylion y modd y cyfrifir y ffi am wasanaethau cyn-ymgeisio.

RHAN 3Penodi a swyddogaethau penodedig

Penodi10

1

Cyn diwedd y cyfnod sylwadau rhaid i Weinidogion Cymru benodi person i arfer y swyddogaethau a ragnodir yn rheoliad 11.

2

Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd a’r awdurdod cynllunio lleol o enw’r person penodedig.

3

Pan fo Gweinidogion Cymru yn penodi person arall i gymryd lle’r person a benodwyd yn flaenorol—

a

rhaid hysbysu’r ceisydd a’r awdurdod cynllunio lleol o enw’r person arall hwnnw;

b

neu, os na ellir gwneud hynny yn ymarferol cyn cynnal unrhyw wrandawiad neu ymchwiliad, rhaid i’r person penodedig sy’n cynnal y gwrandawiad neu ymchwiliad gyhoeddi, ar y dechrau, ei enw a’r ffaith ei fod wedi ei benodi.

Swyddogaethau penodedig11

Mae’r swyddogaethau canlynol wedi eu rhagnodi at ddibenion paragraff 1 o Atodlen 4D i Ddeddf 1990—

a

swyddogaethau o dan Orchymyn 2016, ac eithrio’r rhai o dan—

i

erthygl 28; a

ii

erthygl 29;

b

swyddogaethau o dan Reoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Ffioedd) (Cymru) 201620, ac eithrio’r rhai o dan reoliad 12 o’r Rheoliadau hynny;

c

rhoi hysbysiad bod hysbysiad o gais wedi ei dderbyn o dan adran 62E(4) o Ddeddf 199021;

d

rhoi hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol llunio adroddiad ar yr effaith leol o dan adran 62I(1)(b) a (2) o Ddeddf 199022;

e

rhoi hysbysiad yn atal y cyfnod penderfynu dros dro neu’n terfynu, lleihau neu’n estyn cyfnod o ataliad o dan adran 62L(5) o Ddeddf 199023;

f

hysbysu cynghorau cymuned o dan adran 62Q(2) o Ddeddf 199024;

g

penderfynu ynglŷn â’r weithdrefn a ddilynir wrth ystyried achosion yn unol ag adran 319B(1) o Ddeddf 1990;

h

hysbysu’r ceisydd o’r penderfyniad ar weithdrefn o dan adran 319B(5) a (5A)25 o Ddeddf 1990;

i

cynnal ymchwiliad o dan adran 320 o Ddeddf 1990;

j

swyddogaethau o dan y rheoliadau canlynol—

i

rheoliad 4 (caniatáu amser ychwanegol);

ii

rheoliad 6 (cael deisyfiadau am wasanaethau cyn-ymgeisio);

iii

rheoliad 8 (gwasanaethau cyn-ymgeisio: Gweinidogion Cymru);

iv

rheoliad 9 (monitro a datganiad o wasanaethau);

v

rheoliad 10(2) (hysbysu ynghylch enw’r person penodedig);

vi

rheoliad 13 (penderfynu ar weithdrefn);

vii

rheoliad 14 (sylwadau sydd i’w cymryd i ystyriaeth);

viii

rheoliad 15 (gwybodaeth bellach);

ix

rheoliad 16 (arolygiadau safle);

x

rheoliad 21 (dyddiad a lleoliad y gwrandawiad);

xi

rheoliad 22 (hysbysiad cyhoeddus o’r gwrandawiad);

xii

rheoliad 23 (penodi asesydd);

xiii

rheoliad 24 (cymryd rhan mewn gwrandawiad);

xiv

rheoliad 25 (absenoldeb, gohirio, etc.);

xv

rheoliad 27 (gwrandawiad yn amhriodol);

xvi

rheoliad 32 (dyddiad yr ymchwiliad);

xvii

rheoliad 34 (ymchwiliad yn amhriodol);

xviii

rheoliad 37 (gweithdrefn ar ôl dileu penderfyniad).

RHAN 4Penderfynu ar weithdrefn

Cyfnod rhagnodedig12

At ddibenion adran 319B(3) o Ddeddf 1990 y cyfnod rhagnodedig mewn perthynas â chais yw deg diwrnod gwaith, sy’n dechrau ar ddiwedd y cyfnod sylwadau26.

Penderfynu ar weithdrefn13

1

Rhaid i Weinidogion Cymru, wrth wneud eu penderfyniad yn unol ag adran 319B o Ddeddf 1990, nodi pa faterion, os oes rhai, sydd i’w hystyried mewn gwrandawiad neu ymchwiliad.

2

Rhaid i hysbysiad o dan adran 319B(5)—

a

nodi’r materion, os oes rhai, sydd i’w penderfynu mewn gwrandawiad neu ymchwiliad;

b

nodi materion y mae sylwadau pellach arnynt yn ofynnol ar gyfer Gweinidogion Cymru;

c

datgan pa un a yw sylwadau pellach o’r fath i’w cyflwyno mewn ysgrifen neu mewn gwrandawiad neu ymchwiliad; a

d

pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu cynnal gwrandawiad neu ymchwiliad, nodi pwy a wahoddir i gymryd rhan; neu

e

cynnwys datganiad bod Gweinidogion Cymru yn bwriadu penderfynu’r cais ar sail sylwadau ysgrifenedig.

3

Mae darpariaethau rheoliad 15 yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn gofyn am unrhyw sylwadau pellach.

RHAN 5Gwybodaeth ac ymweliadau safle

Sylwadau sydd i’w cymryd i ystyriaeth14

1

Caiff Gweinidogion Cymru ddiystyru unrhyw sylw a wneir ar ôl diwedd y cyfnod sylwadau, ac eithrio sylwadau a ddeisyfwyd yn unol â rheoliad 15.

2

Y sylwadau y cyfeirir atynt yn y rheoliad hwn yw sylwadau a ragnodir yn erthygl 28 o Orchymyn 2016 at ddibenion adran 71(2)(a) o Ddeddf 1990 (ymgyngoriadau mewn cysylltiad â phenderfyniadau o dan adran 70).

Gwybodaeth bellach15

1

Caiff Gweinidogion Cymru ddeisyf sylwadau pellach gan—

a

y ceisydd;

b

yr awdurdod cynllunio lleol; ac

c

unrhyw berson â buddiant27 a wnaeth sylwadau mewn perthynas â’r cais yn ystod y cyfnod sylwadau.

2

Yn benodol, caiff Gweinidogion Cymru ddeisyf mewn ysgrifen y canlynol—

a

gan y person sy’n gwneud unrhyw sylw, nifer penodedig o gopïau ychwanegol o’r sylw hwnnw;

b

ymatebion i gwestiynau a ofynnir gan Weinidogion Cymru ynghylch materion sy’n gynwysedig mewn unrhyw sylw.

3

Rhaid i bob sylw ar unrhyw fater penodol a gyflwynir yn dilyn deisyfiad beidio â bod yn fwy na 3,000 o eiriau, a rhaid ei gyflwyno—

a

yn y modd a bennir gan Weinidogion Cymru;

b

ddim hwyrach na phedair wythnos ar ôl dyddiad y deisyfiad o dan baragraff (1).

4

Caiff Gweinidogion Cymru ddiystyru unrhyw sylw—

a

sy’n cyrraedd yn hwyr neu mewn modd gwahanol i’r modd a bennwyd;

b

sy’n fwy na 3,000 o eiriau;

c

yr ystyriant yn wacsaw neu’n flinderus; neu

d

sy’n ymwneud â rhinweddau polisi a nodir mewn cynllun datblygu neu mewn unrhyw ddatganiad polisi perthnasol a wnaed neu a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru.

5

Os digwydd bod sylw ysgrifenedig yn fwy na 3,000 o eiriau, caiff Gweinidogion Cymru ddychwelyd y sylw at y person sy’n ei gyflwyno, gyda deisyfiad ei fod yn ailgyflwyno’r sylw mewn ffurf nad yw’n fwy na 3,000 o eiriau, a hynny o fewn pa bynnag amser a ddatgenir gan Weinidogion Cymru wrth ddychwelyd y sylw.

6

Caiff Gweinidogion Cymru, yn ôl eu disgresiwn mewn unrhyw achos penodol, gynyddu’r nifer o eiriau ym mharagraff (3); ac yn unol â hynny, mae cyfeiriadau ar y nifer mwyaf o eiriau yn gyfeiriadau at y nifer ar ôl ei gynyddu felly.

7

Rhaid i Weinidogion Cymru roi’r holl sylwadau ysgrifenedig ac ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a geir ganddynt ar gael ym mha bynnag fodd a ystyrir yn briodol gan Weinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol.

Arolygiadau safle16

1

Caiff Gweinidogion Cymru arolygu’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef.

2

Pan fo Gweinidogion Cymru yn bwriadu gwneud arolygiad o dan baragraff (1), cânt hysbysu’r ceisydd ac unrhyw berson arall ynghylch dyddiad ac amser yr arolygiad.

3

Nid yw’n ofynnol i Weinidogion Cymru ohirio arolygiad pan nad yw unrhyw berson (gan gynnwys y ceisydd) yn bresennol ar yr amser penodedig.

RHAN 6Sylwadau ysgrifenedig

Cymhwyso Rhan 617

1

Mae’r Rhan hon yn gymwys pan fo—

a

hysbysiad derbyn wedi ei roi; a

b

Gweinidogion Cymru wedi gwneud penderfyniad bod y cais i gael ei ystyried ar sail sylwadau ysgrifenedig yn unig.

2

Mae’r Rhan hon yn gymwys hefyd pan fo Gweinidogion Cymru—

a

wedi gwneud penderfyniad bod y cyfan neu ran o’r cais i gael ei ystyried neu ei hystyried ar sail gwrandawiad neu ymchwiliad; a

b

yn amrywio’r penderfyniad hwnnw yn ddiweddarach fel bod y cais i gael ei ystyried, neu rannau o’r cais i gael eu hystyried ar sail sylwadau ysgrifenedig,

i’r cyfryw raddau a bennir gan Weinidogion Cymru ar ôl ystyried unrhyw gamau a gymerwyd eisoes mewn perthynas â’r cais.

Adroddiad18

1

Rhaid i’r person penodedig lunio adroddiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru, a rhaid i’r adroddiad gynnwys casgliadau’r person penodedig a’i argymhellion (neu resymau dros beidio â gwneud unrhyw argymhellion).

2

Mae paragraff (3) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn tueddu i anghytuno ag argymhelliad yn adroddiad y person penodedig oherwydd eu bod—

a

yn cymryd safbwynt gwahanol i’r person penodedig ynglŷn ag unrhyw fater o ffaith a grybwyllir mewn casgliad a gyrhaeddir gan y person penodedig, neu sy’n ymddangos iddynt yn faterol berthnasol i gasgliad a gyrhaeddir ganddo, neu

b

wedi cymryd i ystyriaeth unrhyw dystiolaeth newydd neu fater newydd o ffaith (nad yw’n fater o bolisi).

3

Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â chyrraedd penderfyniad sy’n groes i argymhelliad y person penodedig heb yn gyntaf—

a

hysbysu’r ceisydd, yr awdurdod cynllunio lleol a’r personau hynny a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig ynghylch eu hanghytundeb a’u rhesymau dros anghytuno; a

b

cynnig cyfle iddynt gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.

4

Rhaid i’r rhai sy’n gwneud sylwadau ysgrifenedig sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn cael y cyfryw sylwadau o fewn pa bynnag gyfnod o amser a ddatgenir gan Weinidogion Cymru yn yr hysbysiad o dan baragraff (3).

5

Caiff Gweinidogion Cymru beri cynnal gwrandawiad neu ymchwiliad os byddant wedi cymryd i ystyriaeth unrhyw dystiolaeth newydd neu fater newydd o ffaith, nad yw’n fater o bolisi.

6

Pan fo gwrandawiad neu ymchwiliad i gael ei gynnal, rhaid i Weinidogion Cymru anfon at y ceisydd, yr awdurdod cynllunio lleol a’r personau a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig, ddatganiad ysgrifenedig o’r materion y gwahoddir sylwadau pellach yn eu cylch, at y diben o ystyried y cais ymhellach gan Weinidogion Cymru.

7

Mae rheoliad 15(2) i (6) yn gymwys i unrhyw dystiolaeth neu sylw ysgrifenedig a gyflwynir i Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff (4) o’r rheoliad hwn.

Mynd ymlaen i benderfynu19

1

Caiff Gweinidogion Cymru fynd ymlaen i benderfynu cais—

a

os na fydd sylwadau ysgrifenedig wedi eu gwneud o fewn y terfynau amser perthnasol, ar ôl rhoi i’r ceisydd ac i’r awdurdod cynllunio lleol hysbysiad ysgrifenedig o’u bwriad i wneud hynny;

b

os bydd deisyfiad wedi ei wneud am sylwadau pellach, ar ôl diwedd pa bynnag gyfnod a ganiatawyd ar gyfer darparu sylwadau pellach.

2

Yn y rheoliad hwn, ystyr “terfynau amser perthnasol” (“relevant time limits”) yw’r terfynau amser a ragnodwyd gan reoliadau 15 a 18 neu gan unrhyw gyfarwyddyd a roddwyd o dan reoliad 4.

RHAN 7Gwrandawiadau

Cymhwyso Rhan 720

1

Mae’r Rhan hon yn gymwys pan fo—

a

hysbysiad derbyn wedi ei roi; a

b

Gweinidogion Cymru yn gwneud penderfyniad bod y cais neu unrhyw fater i gael ei ystyried yn gyfan gwbl neu’n rhannol drwy gynnal gwrandawiad.

2

Mae’r Rhan hon yn gymwys hefyd pan fo—

a

Gweinidogion Cymru wedi gwneud penderfyniad bod y cyfan neu ran o’r cais i gael ei ystyried neu ei hystyried ar sail sylwadau ysgrifenedig neu ymchwiliad;

b

yn amrywio’r penderfyniad hwnnw yn ddiweddarach fel bod y cais i gael ei ystyried, neu rannau o’r cais i gael eu hystyried ar sail gwrandawiad; ac

c

Gweinidogion Cymru wedi peri cynnal gwrandawiad yn unol â rheoliad 18(5),

i’r cyfryw raddau a bennir gan Weinidogion Cymru ar ôl ystyried unrhyw gamau a gymerwyd eisoes mewn perthynas â’r cais.

Dyddiad a lleoliad y gwrandawiad21

1

Rhaid i Weinidogion Cymru bennu’r dyddiad ar gyfer y gwrandawiad.

2

Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i’r dyddiad ar gyfer y gwrandawiad—

a

peidio â bod yn hwyrach na deng wythnos ar ôl diwedd y cyfnod sylwadau; a

b

bod o leiaf un wythnos ar ôl diwedd y cyfnod a ganiateir ar gyfer sylwadau pellach a ddeisyfir yn unol â rheoliad 15(1).

3

Pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn y byddai’n anymarferol cynnal y gwrandawiad ar ddyddiad a bennir yn unol â pharagraff (2), rhaid cynnal y gwrandawid ar y dyddiad cynharaf a ystyrir yn ymarferol gan Weinidogion Cymru.

4

Rhaid i’r man lle cynhelir y gwrandawiad gael ei benderfynu gan Weinidogion Cymru.

5

Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod gwahanol rannau o’r gwrandawiad i’w cynnal mewn gwahanol leoliadau pan fodlonir hwy, ar ôl ystyried natur y cais, ei bod yn rhesymol gwneud hynny.

6

Oni fydd Gweinidogion Cymru wedi cytuno gyda’r ceisydd a’r awdurdod cynllunio lleol ar gyfnod byrrach o rybudd, rhaid i Weinidogion Cymru roi o leiaf bedair wythnos o rybudd ysgrifenedig o’r dyddiad, yr amser a’r lleoliad a bennir ganddynt ar gyfer cynnal y gwrandawiad, i’r ceisydd, i’r awdurdod cynllunio lleol ac i unrhyw berson a wahoddir i gymryd rhan yn y gwrandawiad.

7

Caiff Gweinidogion Cymru amrywio’r dyddiad a bennwyd ar gyfer y gwrandawiad, pa un a fydd y dyddiad newydd o fewn y cyfnod o ddeng wythnos a grybwyllir ym mharagraff (2)(a) ai peidio, ac mae paragraff (6) yn gymwys i amrywio dyddiad fel y mae’n gymwys i bennu’r dyddiad gwreiddiol.

8

Caiff Gweinidogion Cymru amrywio’r amser neu’r lleoliad ar gyfer cynnal gwrandawiad, a rhaid iddynt roi cymaint o rybudd o unrhyw amrywiad ag sy’n ymddangos iddynt yn rhesymol.

Hysbysiad cyhoeddus o’r gwrandawiad22

1

Oni fydd Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo’n wahanol, rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol, ddim hwyrach na phedair wythnos cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer y gwrandawiad—

a

arddangos a chynnal hysbysiad o’r gwrandawiad yn y ffurf a ddarperir gan Weinidogion Cymru mewn man amlwg, neu (yn achos cais am ganiatâd ar gyfer gwaith llinellol ar y tir sy’n fwy na phum cilometr o hyd) fesul cyfwng o ddim mwy na phum cilometr, ar y tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef, neu mor agos ato ag sy’n rhesymol ymarferol;

b

arddangos a chynnal yr hysbysiad o’r gwrandawiad mewn un neu ragor o leoedd lle’r arddangosir hysbysiadau cyhoeddus fel arfer yn yr ardal y mae’r cynigion sydd yn y cais yn ymwneud â hi.

2

Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi hysbysiad o’r gwrandawiad drwy hysbysebu yn lleol yn yr ardal y bwriedir i’r cynigion sydd yn y cais gael effaith ynddi, gan gyhoeddi’r hysbysiad hwnnw ddim hwyrach na phedair wythnos cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer y gwrandawiad.

3

Yn y rheoliad hwn, ystyr “drwy hysbysebu yn lleol” (“by local advertisement”) yw—

a

drwy gyhoeddi’r hysbysiad mewn papur newydd sy’n cylchredeg yn y gymdogaeth y lleolir ynddi’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef; a

b

pan fo Gweinidogion Cymru yn cynnal gwefan at y diben o hysbysebu ceisiadau, drwy gyhoeddi’r hysbysiad ar y wefan.

4

Pan fo cyfarwyddyd wedi ei roi o dan reoliad 21(5), mae paragraff (1) yn cael effaith gydag amnewidiadau fel a ganlyn—

a

yn lle cyfeiriadau at y gwrandawiad, rhodder cyfeiriadau at y rhan o’r gwrandawiad sydd i’w chynnal mewn man a bennir yn y cyfarwyddyd hwnnw; a

b

yn lle cyfeiriadau at y cais, rhodder cyfeiriadau at y rhan o’r cais a fydd yn destun y rhan honno o’r gwrandawiad.

5

Rhaid i unrhyw hysbysiad a arddangosir yn unol â pharagraff (1) fod yn hawdd i’w weld a’i ddarllen gan aelodau o’r cyhoedd.

6

Os digwydd i’r hysbysiad, heb unrhyw fai ar yr awdurdod cynllunio lleol nac unrhyw fwriad ganddo, gael ei dynnu ymaith, ei guddio neu ei ddifwyno cyn dechrau’r gwrandawiad, ni chaiff yr awdurdod cynllunio lleol, am y rheswm hwnnw, ei drin fel pe na bai wedi cydymffurfio â gofynion paragraff (5) os yw’r awdurdod cynllunio lleol wedi cymryd camau rhesymol i ddiogelu’r hysbysiad ac, os oedd angen, ei amnewid.

7

Rhaid i hysbysiad o wrandawiad a arddangosir neu a gyhoeddir yn unol â pharagraffau (1) a (2) gynnwys y canlynol—

a

datganiad o ddyddiad, amser a lleoliad y gwrandawiad;

b

datganiad bod y cais wedi ei wneud o dan adran 62D o Ddeddf 1990;

c

disgrifiad o’r cynigion a gynhwysir yn y cais, sy’n ddigonol ar gyfer adnabod lleoliad y datblygiad arfaethedig, drwy gyfeirio neu heb gyfeirio at fap penodedig;

d

disgrifiad o unrhyw gydsyniadau eilaidd y mae’r penderfyniad mewn perthynas â hwy i gael ei wneud gan Weinidogion Cymru; a

e

manylion man lle y gellir edrych ar gopi o’r cais.

8

Pan fo’r awdurdod wedi bodloni gofynion paragraff (1), rhaid iddo roi gwybod i Weinidogion Cymru ei fod wedi gwneud hynny, o fewn cyfnod o bum diwrnod gwaith sy’n dechrau gyda’r diwrnod yr arddangosir yr hysbysiad.

Penodi asesydd23

Pan fo Gweinidogion Cymru yn penodi asesydd o dan baragraff 14 o Atodlen 4D i Ddeddf 1990, rhaid iddynt hysbysu’r ceisydd, yr awdurdod cynllunio lleol ac unrhyw berson a wahoddwyd i gymryd rhan yn y gwrandawiad, o enw’r asesydd a’r materion y bydd yr asesydd yn cynghori’r person penodedig yn eu cylch.

Cymryd rhan mewn gwrandawiad24

1

Y personau a gaiff gymryd rhan yn y gwrandawiad yw’r canlynol—

a

y ceisydd;

b

yr awdurdod cynllunio lleol;

c

unrhyw berson a wahoddir gan Weinidogion Cymru i gymryd rhan.

2

Nid oes dim ym mharagraff (1) sy’n rhwystro Gweinidogion Cymru rhag caniatáu i unrhyw berson arall gymryd rhan mewn gwrandawiad.

3

Caiff unrhyw berson sy’n cymryd rhan wneud hynny ar ei ran ei hunan neu gael ei gynrychioli gan unrhyw berson arall.

Absenoldeb, gohirio, etc.25

1

Caiff Gweinidogion Cymru fynd ymlaen â chynnal gwrandawiad yn absenoldeb y ceisydd, yr awdurdod cynllunio lleol ac unrhyw berson a wahoddwyd i gymryd rhan.

2

Caiff Gweinidogion Cymru ohirio gwrandawiad o bryd i’w gilydd, ac os cyhoeddir dyddiad, amser a lleoliad y gwrandawiad gohiriedig yn y gwrandawiad cyn ei ohirio, ni fydd unrhyw hysbysiad pellach yn ofynnol.

Gweithdrefn mewn gwrandawiad26

1

Y person penodedig sydd i lywyddu mewn unrhyw wrandawiad, a rhaid iddo benderfynu ar y weithdrefn yn y gwrandawiad, yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau hyn.

2

Rhaid cynnal gwrandawiad ar ffurf trafodaeth a arweinir gan y person penodedig, a rhaid peidio â chaniatáu croesholi.

3

Pan fo’r person penodedig o’r farn bod croesholi yn angenrheidiol, rhaid i’r person penodedig ystyried (ar ôl ymgynghori â’r ceisydd) a ddylid cau’r gwrandawiad a chynnal ymchwiliad yn ei le.

4

Ar ddechrau’r gwrandawiad, rhaid i’r person penodedig nodi pa faterion y mae’n ofynnol iddo, ym marn y person penodedig, gael sylwadau pellach arnynt yn y gwrandawiad.

5

Mae hawl gan y ceisydd, yr awdurdod cynllunio lleol ac unrhyw berson a wahoddwyd i gymryd rhan mewn gwrandawiad i alw tystiolaeth.

6

Caiff y person penodedig ganiatáu i unrhyw berson arall alw tystiolaeth.

7

Caiff y person penodedig wrthod caniatáu rhoi neu ddangos tystiolaeth neu gyflwyno unrhyw fater arall a ystyrir gan y person penodedig yn amherthnasol neu’n ailadroddus.

8

Pan fo’r person penodedig yn gwrthod caniatáu rhoi tystiolaeth ar lafar, caiff y person sy’n dymuno rhoi’r dystiolaeth gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r person penodedig cyn cau’r gwrandawiad.

9

Caiff y person penodedig—

a

ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson, sy’n cymryd rhan neu sy’n bresennol mewn gwrandawiad, yn ymadael os yw’n ymddwyn mewn modd sydd, ym marn y person penodedig, yn tarfu ar eraill; a

b

gwrthod caniatáu i’r person hwnnw ddychwelyd; neu

c

caniatáu i’r person hwnnw ddychwelyd ar y cyfryw amodau, yn unig, a bennir gan y person penodedig,

ond caiff unrhyw berson o’r fath gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r person penodedig cyn cau’r gwrandawiad.

10

Caiff y person penodedig gymryd i ystyriaeth unrhyw sylw ysgrifenedig neu ddogfen arall a gaiff cyn cau’r gwrandawiad, ar yr amod bod y person penodedig yn datgelu hynny yn y gwrandawiad.

11

Caiff y person penodedig wahodd unrhyw berson sy’n cymryd rhan yn y gwrandawiad i gyflwyno cyflwyniadau cloi, a rhaid i unrhyw berson sy’n gwneud hynny ddarparu copi ysgrifenedig o’i gyflwyniadau cloi i’r person penodedig cyn cau’r gwrandawiad.

12

Yn ddarostyngedig i baragraff (7) caiff y person penodedig ganiatáu i unrhyw berson wneud sylwadau ar lafar yn y gwrandawiad.

13

Caiff unrhyw berson sydd â hawl, neu a ganiateir, i wneud sylwadau ar lafar mewn gwrandawiad wneud hynny ar ei ran ei hunan, neu gael ei gynrychioli gan unrhyw berson arall

Gwrandawiad yn amhriodol27

Ar unrhyw adeg yn ystod gwrandawiad, os yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru nad yw’r weithdrefn gwrandawiad yn briodol, caiff Gweinidogion Cymru benderfynu cau’r gwrandawiad a naill ai trefnu i gynnal ymchwiliad yn ei le, neu benderfynu ystyried y mater ar sail sylwadau ysgrifenedig.

Gweithdrefn ac adroddiad ar ôl gwrandawiad28

1

Ar ôl cau’r gwrandawiad—

a

caiff yr asesydd (os penodwyd un) wneud adroddiad ysgrifenedig i’r person penodedig mewn cysylltiad â’r materion y penodwyd yr asesydd i gynorthwyo gyda hwy;

b

rhaid i’r person penodedig wneud adroddiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru a chynnwys ynddo gasgliadau’r person penodedig a’i argymhellion (neu resymau dros beidio â gwneud unrhyw argymhellion).

2

Pan fo asesydd yn gwneud adroddiad yn unol â pharagraff (1)(a), rhaid i’r person penodedig—

a

ei atodi ynghlwm wrth adroddiad y person penodedig ei hunan; a

b

datgan yn yr adroddiad hwnnw i ba raddau y mae’r person penodedig yn cytuno neu’n anghytuno ag adroddiad yr asesydd, a phan fo’r person penodedig yn anghytuno â’r asesydd, ddatgan y rhesymau dros yr anghytundeb hwnnw.

3

Wrth wneud eu dyfarniad, caiff Gweinidogion Cymru ddiystyru unrhyw sylwadau ysgrifenedig neu ddogfen arall a gânt ar ôl cau’r gwrandawiad.

4

Mae paragraff (5) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru, ar ôl cau’r gwrandawiad, yn anghytuno ag argymhelliad a wnaed gan y person penodedig, oherwydd eu bod—

a

yn cymryd safbwynt gwahanol i’r person penodedig ar fater o ffaith, a grybwyllir mewn casgliad a gyrhaeddir gan y person penodedig, neu sy’n ymddangos iddynt yn faterol berthnasol i’r casgliad hwnnw, neu

b

wedi cymryd i ystyriaeth unrhyw dystiolaeth newydd neu fater o ffaith newydd (nad yw’n fater o bolisi).

5

Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â dod i benderfyniad sy’n groes i argymhelliad y person penodedig heb yn gyntaf—

a

hysbysu’r ceisydd, yr awdurdod cynllunio lleol a’r personau hynny a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig ac a gymerodd ran yn y gwrandawiad, ynghylch eu hanghytundeb a’u rhesymau dros anghytuno; a

b

rhoi cyfle iddynt gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.

6

Rhaid i’r rhai sy’n gwneud sylwadau ysgrifenedig sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn cael y cyfryw sylwadau o fewn y cyfnod a ddatgenir yn yr hysbysiad gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (5)(a).

7

Caiff Gweinidogion Cymru, fel yr ystyriant yn briodol, beri bod gwrandawiad yn cael ei ailagor.

8

Pan ailagorir gwrandawiad (pa un ai gan yr un person penodedig neu berson penodedig gwahanol)—

a

rhaid i’r person penodedig anfon at y ceisydd, yr awdurdod cynllunio lleol a’r personau hynny a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig neu a gymerodd ran yn y gwrandawiad, ddatganiad ysgrifenedig o’r materion y gwahoddir sylwadau pellach mewn cysylltiad â hwy, at y diben o ystyried y cais ymhellach gan y person penodedig; a

b

mae rheoliad 26 yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriadau at wrandawiad yn gyfeiriadau at wrandawiad a ailagorwyd.

9

Mae rheoliad 15(2) i (6) yn gymwys i unrhyw dystiolaeth neu sylw ysgrifenedig a gyflwynir i’r person penodedig yn unol â pharagraff (6) o’r rheoliad hwn.

Penderfynu29

Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu cais—

a

ar ôl cau’r gwrandawiad neu unrhyw wrandawiad a ailagorwyd; neu

b

os yw’n ddiweddarach, pan fo’r cyfnod a ganiatawyd ar gyfer darparu sylwadau ysgrifenedig yn unol â rheoliad 28(6) wedi dod i ben, pa un a gafwyd sylwadau yn ystod y cyfnod hwnnw ai peidio.

RHAN 8Ymchwiliadau

Cymhwyso Rhan 830

1

Mae’r Rhan hon yn gymwys pan fo—

a

hysbysiad derbyn wedi ei roi; a

b

Gweinidogion Cymru yn gwneud penderfyniad bod y cais i gael ei ystyried yn gyfan gwbl neu’n rhannol drwy gynnal ymchwiliad lleol.

2

Mae’r Rhan hon yn gymwys hefyd pan fo—

a

Gweinidogion Cymru wedi gwneud penderfyniad bod y cyfan neu ran o’r cais i gael ei ystyried neu ei hystyried ar sail sylwadau ysgrifenedig neu wrandawiad; a

b

yn amrywio’r penderfyniad hwnnw yn ddiweddarach fel bod y cais i gael ei ystyried, neu rannau o’r cais i gael eu hystyried, ar sail ymchwiliad,

i’r cyfryw raddau a bennir gan Weinidogion Cymru ar ôl ystyried unrhyw gamau a gymerwyd eisoes mewn perthynas â’r cais.

3

Mae rheoliadau 22 i 25 a 28 yn gymwys i ymchwiliadau lleol fel y maent yn gymwys i wrandawiadau, ac y unol â hynny mae’r rheoliadau hynny i’w darllen fel pe bai cyfeiriadau at wrandawiadau yn cynnwys cyfeiriadau at ymchwiliadau, i’r graddau y mae’r cyd-destun yn caniatáu ac yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth yn y Rhan hon.

Cyfarfodydd cyn-ymchwiliad31

1

Caiff y person penodedig gynnal cyfarfod cyn-ymchwiliad cyn yr ymchwiliad, i ystyried beth ellir ei wneud er mwyn sicrhau y cynhelir yr ymchwiliad mewn modd effeithlon a didrafferth.

2

Rhaid i berson penodedig roi dim llai na dwy wythnos o rybudd ysgrifenedig o unrhyw gyfarfod cyn-ymchwiliad y mae’r person penodedig yn bwriadu ei gynnal o dan baragraff (1), i’r canlynol—

a

y ceisydd;

b

yr awdurdod cynllunio lleol;

c

unrhyw berson a wahoddwyd gan y person penodedig i gymryd rhan yn y cyfarfod cyn-ymchwiliad.

3

Pan fo cyfarfod cyn-ymchwiliad wedi ei gynnal yn unol â pharagraff (1), caiff y person penodedig gynnal cyfarfod cyn-ymchwiliad pellach, a rhaid iddo drefnu i roi cymaint o rybudd o’r cyfarfod cyn-ymchwiliad pellach ag sy’n ymddangos yn angenrheidiol.

4

Y person penodedig—

a

a fydd yn llywyddu mewn unrhyw gyfarfod cyn-ymchwiliad;

b

a fydd yn pennu’r materion sydd i’w trafod a’r weithdrefn sydd i’w dilyn;

c

caiff ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson sy’n bresennol yn y cyfarfod cyn-ymchwiliad yn ymadael os yw’n ymddwyn mewn modd sydd, ym marn y person penodedig, yn tarfu ar eraill; a

d

caiff wrthod caniatáu i’r person hwnnw ddychwelyd nac ychwaith fod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfod cyn-ymchwiliad pellach; neu

e

caiff ganiatáu i’r person hwnnw ddychwelyd neu fod yn bresennol ar y cyfryw amodau, yn unig, a bennir gan y person penodedig.

Dyddiad a lleoliad yr ymchwiliad32

1

Rhaid i Weinidogion Cymru bennu’r dyddiad ar gyfer yr ymchwiliad.

2

Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i’r dyddiad a bennir ar gyfer cynnal ymchwiliad fod—

a

ddim hwyrach na—

i

13 wythnos ar ôl diwedd y cyfnod sylwadau; neu

ii

(os yw’n ddiweddarach) mwn achos pan gynhelir cyfarfod cyn-ymchwiliad yn unol â rheoliad 31(1), pedair wythnos ar ôl diwedd y cyfarfod hwnnw (neu pa bynnag gyfnod byrrach ar ôl diwedd y cyfarfod hwnnw a gytunir rhwng y ceisydd, yr awdurdod cynllunio lleol a’r person penodedig); a

b

o leiaf un wythnos ar ôl y cyfnod a ganiatawyd ar gyfer sylwadau pellach a ddeisyfwyd yn unol â rheoliad 15(1) a (3).

3

Pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn y byddai’n anymarferol cynnal yr ymchwiliad ar ddyddiad a bennir yn unol â pharagraff (2), rhaid cynnal yr ymchwiliad ar y dyddiad cynharaf a ystyrir yn ymarferol gan Weinidogion Cymru.

4

Rhaid i’r man lle cynhelir yr ymchwiliad gael ei benderfynu gan Weinidogion Cymru.

5

Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod gwahanol rannau o’r ymchwiliad i’w cynnal mewn gwahanol leoliadau pan fodlonir hwy, ar ôl ystyried natur y cais, ei bod yn rhesymol gwneud hynny.

6

Oni fydd Gweinidogion Cymru wedi cytuno gyda’r ceisydd a’r awdurdod cynllunio lleol ar gyfnod byrrach o rybudd, rhaid i Weinidogion Cymru roi o leiaf bedair wythnos o rybudd ysgrifenedig o’r dyddiad, yr amser a’r lleoliad a bennir ganddynt ar gyfer cynnal yr ymchwiliad, i’r ceisydd, yr awdurdod cynllunio lleol ac i unrhyw berson a wahoddwyd i gymryd rhan yn yr ymchwiliad.

7

Caiff Gweinidogion Cymru amrywio’r dyddiad a bennwyd ar gyfer yr ymchwiliad, pa un a fydd y dyddiad newydd o fewn y cyfnod o dair wythnos ar ddeg a grybwyllir ym mharagraff (2)(a) ai peidio; ac mae paragraff (6) yn gymwys i amrywio dyddiad fel y mae’n gymwys i bennu’r dyddiad gwreiddiol.

8

Caiff Gweinidogion Cymru amrywio’r amser neu’r lleoliad ar gyfer cynnal ymchwiliad, a rhaid iddynt roi cymaint o rybudd o unrhyw amrywiad ag sy’n ymddangos iddynt yn rhesymol.

Gweithdrefn mewn ymchwiliad33

1

Y person penodedig sydd i lywyddu mewn unrhyw ymchwiliad, a rhaid iddo benderfynu ar y weithdrefn yn yr ymchwiliad, yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau hyn.

2

Oni fydd y person penodedig yn penderfynu’n wahanol mewn unrhyw achos penodol, y ceisydd sydd i ddechrau, a chlywir yr awdurdod cynllunio lleol a phersonau eraill ym mha bynnag drefn a bennir gan y person penodedig.

3

Ar ddechrau’r ymchwiliad, rhaid i’r person penodedig nodi pa faterion y mae’n ofynnol iddo, ym marn y person penodedig, gael sylwadau pellach arnynt yn yr ymchwiliad.

4

Mae hawl gan y ceisydd, yr awdurdod cynllunio lleol ac unrhyw berson a wahoddwyd i gymryd rhan mewn ymchwiliad i alw tystiolaeth.

5

Caiff y person penodedig ganiatáu i unrhyw berson arall alw tystiolaeth.

6

Mae hawl gan y ceisydd a’r awdurdod cynllunio lleol i groesholi personau sy’n rhoi tystiolaeth, yn ddarostyngedig i baragraff (7).

7

Caiff y person penodedig wrthod caniatáu—

a

rhoi neu ddangos tystiolaeth;

b

croesholi personau sy’n rhoi tystiolaeth; neu

c

cyflwyno unrhyw fater arall,

a ystyrir gan y person penodedig yn amherthnasol neu’n ailadroddus.

8

Pan fo’r person penodedig yn gwrthod caniatáu rhoi tystiolaeth ar lafar, caiff y person sy’n dymuno rhoi’r dystiolaeth gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r person penodedig cyn cau’r ymchwiliad.

9

Caiff y person penodedig—

a

ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson, sy’n cymryd rhan neu sy’n bresennol mewn ymchwiliad, yn ymadael os yw’n ymddwyn mewn modd sydd, ym marn y person penodedig, yn tarfu ar eraill; a

b

gwrthod caniatáu i’r person hwnnw ddychwelyd; neu

c

caniatáu i’r person hwnnw ddychwelyd ar y cyfryw amodau, yn unig, a bennir gan y person penodedig,

ond caiff unrhyw berson o’r fath gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r person penodedig cyn cau’r ymchwiliad.

10

Mae rheoliad 15(2) i (6) yn gymwys i unrhyw dystiolaeth neu sylw ysgrifenedig a gyflwynir i’r person penodedig yn unol â pharagraff (8) neu (9) o’r rheoliad hwn.

11

Caiff y person penodedig gyfarwyddo bod cyfleusterau i’w rhoi ar gael i unrhyw berson sy’n cymryd rhan mewn ymchwiliad, ar gyfer gwneud neu gael copïau o ddogfennau sydd ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt.

12

Caiff y person penodedig gymryd i ystyriaeth unrhyw sylw ysgrifenedig neu unrhyw ddogfen arall a gafodd gan unrhyw berson cyn agor yr ymchwiliad neu yn ystod yr ymchwiliad, ar yr amod bod y person penodedig yn datgelu hynny yn yr ymchwiliad.

13

Caiff y person penodedig wahodd unrhyw berson sy’n cymryd rhan yn yr ymchwiliad i wneud cyflwyniadau cloi.

14

Rhaid i unrhyw berson sy’n gwneud cyflwyniadau cloi ddarparu copi ysgrifenedig o’r cyflwyniadau cloi hynny i’r person penodedig cyn cau’r ymchwiliad.

Ymchwiliad yn amhriodol34

Ar unrhyw adeg yn ystod ymchwiliad, os yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru nad yw’r weithdrefn ymchwiliad yn briodol, caiff Gweinidogion Cymru benderfynu cau’r ymchwiliad a naill ai trefnu i gynnal gwrandawiad yn ei le, neu benderfynu bod y mater i fynd ymlaen ar sail sylwadau ysgrifenedig, gan roi sylw i unrhyw gamau a gymerwyd eisoes mewn perthynas â’r cais.

Penderfynu35

Caiff Gweinidogion Cymru fynd ymlaen i benderfynu cais—

a

ar ôl cau’r ymchwiliad neu unrhyw ymchwiliad a ailagorwyd; neu

b

os yw’n ddiweddarach, pan fo’r cyfnod a ganiatawyd ar gyfer darparu sylwadau ysgrifenedig yn unol â rheoliad 28(6) (fel y’i cymhwysir gan reoliad 30(3)) wedi dod i ben, pa un a gafwyd sylwadau o fewn y cyfnod hwnnw ai peidio.

Hysbysiad o benderfyniad36

1

Rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad o’r penderfyniad i unrhyw berson a ofynnodd am ei hysbysu o’r penderfyniad ac y mae Gweinidogion Cymru yn tybio y byddai’n rhesymol ei hysbysu.

2

Ystyrir bod hysbysiad o benderfyniad a rhesymau o dan y rheoliad hwn wedi ei roi i berson pan fo—

a

Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi’r penderfyniad a’r rhesymau ar wefan; a

b

y person wedi ei hysbysu o’r canlynol—

i

cyhoeddi’r penderfyniad a’r rhesymau ar wefan;

ii

cyfeiriad y wefan.

3

Pan nad anfonir copi o adroddiad y person penodedig gyda’r hysbysiad o’r penderfyniad, rhaid anfon yr hysbysiad ynghyd â datganiad o gasgliadau’r person penodedig ac o unrhyw argymhellion a wnaed gan y person penodedig.

4

Yn y rheoliad hwn, nid yw “adroddiad” (“report”) yn cynnwys unrhyw ddogfennau a atodwyd wrth adroddiad y person penodedig; ond caiff unrhyw berson sydd wedi cael copi o’r adroddiad ofyn i Weinidogion Cymru, mewn ysgrifen, am gyfle i edrych ar unrhyw ddogfennau o’r fath, a rhaid i Weinidogion Cymru roi’r cyfle hwnnw i’r person hwnnw.

5

At ddibenion paragraff (4), ystyrir bod y cyfle wedi ei roi i berson pan fo’r person hwnnw wedi ei hysbysu o’r canlynol—

a

cyhoeddi’r dogfennau perthnasol ar wefan;

b

cyfeiriad y wefan; ac

c

ym mhle ar y wefan y gellir cael mynediad i’r dogfennau a sut i gael mynediad iddynt.

RHAN 9Penderfyniadau a ddilëir

Gweithdrefn sydd i’w dilyn ar ôl dileu penderfyniad37

1

Pan fo penderfyniad gan Weinidogion Cymru i ganiatáu neu wrthod cais wedi ei ddileu mewn achos gerbron unrhyw lys, a phan fo’n ofynnol i Weinidogion Cymru ailystyried eu penderfyniad—

a

rhaid iddynt anfon at y personau a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig, neu a gymerodd ran yn y gwrandawiad neu ymchwiliad, ddatganiad ysgrifenedig o’r materion y gwahoddir sylwadau pellach mewn cysylltiad â hwy, at y diben o ystyried y cais ymhellach gan Weinidogion Cymru;

b

rhaid iddynt roi cyfle i’r personau hynny wneud sylwadau ysgrifenedig i’w cyflwyno iddynt mewn cysylltiad â’r materion hynny; ac

c

fel yr ystyriant yn briodol, cânt—

i

peri ailagor y gwrandawiad neu ymchwiliad;

ii

yn achos gwrandawiad, peri cynnal ymchwiliad yn hytrach (pa un ai gan yr un person penodedig neu berson penodedig arall);

iii

yn achos ymchwiliad, peri cynnal gwrandawiad yn hytrach (pa un ai gan yr un person penodedig neu berson penodedig arall);

iv

peri cynnal gwrandawiad neu ymchwiliad (pan na chynhaliwyd yr un yn flaenorol); neu

v

penderfynu’r mater ar sail sylwadau ysgrifenedig.

2

Os yw Gweinidogion Cymru yn ailagor y gwrandawiad neu ymchwiliad, mae rheoliadau 21 a 32 yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriadau at wrandawiad neu ymchwiliad yn gyfeiriadau at wrandawiad neu ymchwiliad a ailagorwyd.

3

Rhaid i’r personau hynny sy’n gwneud sylwadau sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn cael y cyfryw sylwadau o fewn y cyfnod a ddatgenir yn natganiad Gweinidogion Cymru o dan baragraff (1)(a).

RHAN 10Cyfarwyddydau diogelwch gwladol

Addasiadau pan roddir cyfarwyddyd diogelwch gwladol38

Mae’r addasiadau i’r Rheoliadau hyn a nodir yn Atodlen 1 yn cael effaith mewn perthynas â cheisiadau a wneir o dan adran 62D o Ddeddf 1990 pan roddir cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 321(3) o Ddeddf 1990 (ymchwiliadau cynllunio i’w cynnal yn gyhoeddus, yn ddarostyngedig i eithriadau penodol).

Rheoliadau Cynllunio (Cyfarwyddiadau Diogelwch Gwladol a Chynrychiolwyr Penodedig) (Cymru) 200639

1

Mae Rheoliadau Cynllunio (Cyfarwyddiadau Diogelwch Gwladol a Chynrychiolwyr Penodedig) (Cymru) 200628 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 6(4) ar ôl “datblygiad mawr” mewnosoder “neu ddatblygiad o arwyddocâd cenedlaethol”.

3

Yn rheoliad 6(8) yn y man priodol mewnosoder—

  • ystyr “datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol” (“development of national significance”) yw datblygiad sydd o arwyddocâd cenedlaethol at ddibenion adran 62D o Ddeddf 1990.

RHAN 11Cydsyniadau eilaidd

Cymhwyso’r Rhan hon40

1

Mae’r Rhan hon yn gymwys pan fo penderfyniad mewn perthynas â chydsyniad eilaidd i gael ei wneud gan Weinidogion Cymru—

a

yn rhinwedd adran 62F(2) o Ddeddf 1990; neu

b

o dan unrhyw ddeddfiad arall pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn bod y cydsyniad eilaidd yn gysylltiedig â chais o dan adran 62D o Ddeddf 1990.

2

At ddibenion y Rhan hon, mae cyfeiriadau at Orchymyn 2016 yn gyfeiriadau at Orchymyn 2016 fel y bo ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym.

Cymhwyso ac addasu deddfwriaeth sylfaenol41

Pan gymhwysir Gorchymyn 2016, gydag addasiadau neu hebddynt, gan Atodlen i’r Rheoliadau hyn, yna, yn ychwanegol at unrhyw addasiadau yn yr Atodlen honno, mae’r Gorchymyn i’w ddarllen gydag addasiadau fel a ganlyn—

a

yn erthygl 5 ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

1A

Rhaid i geisydd hysbysu Gweinidogion Cymru a’r person perthnasol29 o’r holl gydsyniadau eilaidd30 y mae’r ceisydd yn bwriadu gwneud cais amdanynt a pha un a yw’r ceisydd yn bwriadu gwneud cais i Weinidogion Cymru neu i’r person perthnasol.

b

ar ôl erthygl 12(7) mewnosoder—

7A

Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael cais am gydsyniad eilaidd, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, roi gwybod i’r person perthnasol eu bod wedi cael y cais.

c

ar ôl erthygl 12 mewnosoder—

12A

Ar y diwrnod pan fo’r ceisydd yn gwneud cais, rhaid iddo gyflwyno i Weinidogion Cymru geisiadau am yr holl gydsyniadau eilaidd y mae’r ceisydd yn dymuno i Weinidogion Cymru eu penderfynu.

d

yn erthygl 18(1) yn lle “Rhaid i gais gael ei hysbysebu” rhodder “Rhaid i gais a chais am gydsyniad eilaidd gael eu hysbysebu”;

e

yn erthygl 18, ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

3A

Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r cyngor cymuned ar gyfer yr ardal y lleolir ynddi’r tir y mae’r cais am gydsyniad eilaidd yn ymwneud ag ef.

f

yn erthygl 22, ar ôl paragraff (5) mewnosoder—

6

At ddibenion yr erthygl hon, mae’r person perthnasol yn ymgynghorai arbenigol.

g

hepgorer erthygl 24;

h

yn erthygl 27—

i

ym mharagraff (1) ar ôl “amrywio cais” mewnosoder “a chais am gydsyniad eilaidd”;

ii

ym mharagraff (2) ar ôl “cais penodol” mewnosoder “a chais am gydsyniad eilaidd”.

Rheolaeth ar waith sy’n effeithio ar henebion cofrestredig42

Mae Atodlen 2 yn gymwys pan fo’r cydsyniad eilaidd yn gydsyniad o dan adran 2(3) o Ddeddf Henebion a Mannau Archeolegol 1979 (rheolaeth ar waith sy’n effeithio ar henebion cofrestredig) 31.

Gosod rheiliau, trawstiau etc. dros briffyrdd43

Mae Atodlen 3 yn gymwys pan fo’r cydsyniad eilaidd yn gydsyniad o dan adran 178(1) o Ddeddf Priffyrdd 1980 (cyfyngu ar osod rheiliau, trawstiau etc. dros briffyrdd)32.

Caniatâd adeilad rhestredig44

Mae Atodlen 4 yn gymwys pan fo’r cydsyniad eilaidd yn gydsyniad o dan adran 8(1) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (awdurdodi gwaith: caniatâd adeilad rhestredig)33.

Rheolaeth ar ddymchwel mewn ardaloedd cadwraeth45

Mae Atodlen 5 yn gymwys pan fo’r cydsyniad eilaidd yn gydsyniad o dan adran 74(1) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (rheolaeth ar ddymchwel mewn ardaloedd cadwraeth)34.

Cydsyniad sylweddau peryglus46

Mae Atodlen 6 yn gymwys pan fo’r cydsyniad eilaidd yn gydsyniad o dan—

a

adran 4(1) o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 35 (gofyniad am gydsyniad sylweddau peryglus);

b

adran 13(1) o’r Ddeddf honno (cais am gydsyniad sylweddau peryglus heb amod a osodwyd ar gydsyniad blaenorol); ac

c

adran 17(1) o’r Ddeddf honno (diddymu cydsyniad sylweddau peryglus yn dilyn newid yn rheolaeth tir).

Caniatâd cynllunio47

Mae Atodlen 7 yn gymwys pan fo’r cydsyniad eilaidd yn ganiatâd cynllunio o dan adran 57(1) o Ddeddf 1990 (caniatâd cynllunio sy’n ofynnol ar gyfer datblygiad).

Priffyrdd yr effeithir arnynt gan ddatblygiad48

Mae Atodlen 8 yn gymwys pan fo’r cydsyniad eilaidd—

a

yn orchymyn o dan adran 247(1) o Ddeddf 1990 (priffyrdd yr effeithir arnynt gan ddatblygiad: gorchmynion gan yr Ysgrifennydd Gwladol) a Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y dylid gwneud gorchymyn o dan yr adran honno;

b

yn orchymyn o dan adran 248(2) o Ddeddf 1990 (priffyrdd sy’n croesi neu’n ymuno â llwybr priffordd newydd arfaethedig, etc.) ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru y byddai gorchymyn o dan yr adran honno yn hwylus er budd defnyddwyr y brif briffordd (fel y diffinnir “the main highway” yn adran 248(1)) neu er mwyn hwyluso symudiad traffig ar y brif briffordd;

c

yn orchymyn yn diddymu hawl tramwy cyhoeddus o dan adran 251(1) o Ddeddf 1990 (diddymu hawliau tramwy cyhoeddus dros dir a ddelir at ddibenion cynllunio).

Dadgofrestru a chyfnewid tir comin49

Mae Atodlen 9 yn gymwys pan fo’r cydsyniad eilaidd yn gydsyniad o dan adran 16(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 (dadgofrestru a chyfnewid: ceisiadau)36.

Gwaith ar dir comin50

Mae Atodlen 10 yn gymwys pan fo’r cydsyniad eilaidd yn gydsyniad o dan adran 38(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 (gwahardd gwneud gwaith heb gydsyniad).

RHAN 12

Ceisiadau a drinnir fel ceisiadau ar gyfer datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol51

At ddibenion adran 62D(6) o Ddeddf 1990 (datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol: ceisiadau sydd i’w gwneud i Weinidogion Cymru)37, rhaid peidio â thrin cais o fewn adran 62D(7) o’r Ddeddf honno fel cais ar gyfer datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol ac eithrio os yw’r cais—

a

yn ymwneud â datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol fel y darperir ar ei gyfer yn adran 62D(3) a (4) o’r Ddeddf honno;

b

wedi ei wneud yn unol ag adran 73 o’r Ddeddf honno (penderfynu ceisiadau i ddatblygu tir heb gydymffurfio ag amodau a osodwyd yn flaenorol)38; ac

c

yn ymwneud â therfyn amser a osodwyd gan neu o dan adran 91 o’r Ddeddf honno (amod cyffredinol sy’n cyfyngu ar barhad caniatâd cynllunio)39.

Carl SargeantY Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru