2016 Rhif 56 (Cy. 26)

Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru

Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau: a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 60 o Ddeddf Henebion a Mannau Archeolegol 1979 ac Atodlen 1 iddi1 ac adrannau 321B a 333 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 19902 ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy3; a roddwyd iddynt gan adrannau 61Z1, 61Z24, 62G5, 319B6 a 323A7 o’r Ddeddf honno, a pharagraff 1(2) o Atodlen 4D iddi8 a chan adran 57 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 20159; ac a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fel yr awdurdod cenedlaethol priodol gan adrannau 17, 24, 40 a 59(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 200610, ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy11, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: