Search Legislation

Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016

Newidiadau dros amser i: RHAN 1

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 01/04/2019

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/03/2016.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016, RHAN 1. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

RHAN 1LL+CRhagarweiniol

Enwi, cychwyn a chymhwysoLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Mawrth 2016.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys pan wneir cais neu pan fwriedir gwneud cais i Weinidogion Cymru o dan adran 62D o Ddeddf 1990 (datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol: ceisiadau sydd i’w gwneud i Weinidogion Cymru)(1).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 1.3.2016, gweler rhl. 1(2)

DehongliLL+C

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “asesydd” (“assessor”) yw person a benodir i eistedd gyda pherson penodedig mewn gwrandawiad neu ymchwiliad neu wrandawiad neu ymchwiliad a ailagorwyd, i gynorthwyo’r person penodedig;

ystyr “awdurdod cynllunio lleol” (“local planning authority”) yw’r awdurdod cynllunio lleol y byddid, oni bai am adran 62D o Ddeddf 1990, wedi gwneud cais iddo am ganiatâd cynllunio;

mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000(2);

ystyr “cyfnod sylwadau” (“representation period”) yw’r cyfnod y darperir ar ei gyfer yn erthygl 4 o Orchymyn 2016(3);

ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ŵyl Banc nac yn ddydd gŵyl gyhoeddus arall yng Nghymru;

mae “dogfen” (“document”) yn cynnwys ffotograff, map neu blan;

ystyr “Gorchymyn 2016” (“the 2016 Order”) yw Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016(4);

ystyr “hysbysiad derbyn” (“notice of acceptance”) yw hysbysiad o dan erthygl 6 o Orchymyn 2016 bod y cais wedi ei dderbyn;

ystyr “person penodedig” (“appointed person”) yw’r person a benodir yn unol â rheoliad 10 i arfer y swyddogaethau a bennir yn rheoliad 11;

mae “sylw” (“representation”) yn cynnwys tystiolaeth, esboniad, gwybodaeth a sylwadaethau; ac

mae “sylwadau ysgrifenedig” (“written representations”) yn cynnwys dogfennau ategol.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 1.3.2016, gweler rhl. 1(2)

Cyfathrebiadau electronigLL+C

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn, ac mewn perthynas â defnyddio cyfathrebiadau electronig at unrhyw ddiben o’r Rheoliadau hyn y gellir ei gyflawni yn electronig—

(a)mae’r ymadrodd “cyfeiriad” (“address”) yn cynnwys unrhyw rif neu gyfeiriad a ddefnyddir at ddibenion cyfathrebiadau o’r fath;

(b)mae cyfeiriadau at hysbysiadau, sylwadau neu ddogfennau eraill, neu at gopïau o ddogfennau o’r fath, yn cynnwys cyfeiriadau at y cyfryw ddogfennau neu gopïau ohonynt mewn ffurf electronig.

(2Mae paragraffau (3) i (7) yn gymwys pan ddefnyddir cyfathrebiad electronig gan berson at y diben o gyflawni unrhyw ofyniad yn y Rheoliadau hyn i roi neu anfon unrhyw ddatganiad, hysbysiad neu ddogfen arall i neu at unrhyw berson arall (“y derbynnydd”).

(3Ystyrir bod y gofyniad wedi ei gyflawni pan fo’r hysbysiad neu ddogfen arall a drawsyrrir ar ffurf cyfathrebiad electronig—

(a)yn un y gall y derbynnydd gael mynediad iddi;

(b)yn ddarllenadwy ym mhob modd perthnasol; ac

(c)yn ddigon parhaol i’w ddefnyddio neu i’w defnyddio i gyfeirio ato neu ati yn ddiweddarach.

(4Ym mharagraff (3), ystyr “darllenadwy ym mhob modd perthnasol” (“legible in all material respects”) yw fod yr wybodaeth a gynhwysir yn yr hysbysiad neu ddogfen arall ar gael i’r derbynnydd i’r un graddau, o leiaf, ag y byddai pe bai’r wybodaeth wedi ei hanfon neu ei rhoi gan ddefnyddio dogfen brintiedig.

(5Pan fo’r derbynnydd yn cael y cyfathrebiad electronig y tu allan i oriau busnes y derbynnydd, ystyrir ei fod wedi cael y cyfathrebiad electronig ar y diwrnod gwaith nesaf.

(6Mae unrhyw ofyniad yn y Rheoliadau hyn y dylai unrhyw ddogfen fod mewn ysgrifen, wedi ei gyflawni pan fo’r ddogfen honno’n bodloni’r meini prawf ym mharagraff (3), a rhaid dehongli “ysgrifenedig” (“written”) ac ymadroddion cytras yn unol â hynny.

(7Bodlonir unrhyw ofyniad yn y Rheoliadau hyn i anfon mwy nag un copi o ddatganiad neu ddogfen arall drwy anfon un copi yn unig o’r datganiad neu ddogfen arall o dan sylw mewn ffurf electronig.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 1.3.2016, gweler rhl. 1(2)

Caniatáu amser ychwanegolLL+C

4.  Caiff Gweinidogion Cymru, mewn unrhyw achos penodol, roi cyfarwyddydau sy’n estyn y terfynau amser a ragnodir gan y Rheoliadau hyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 1.3.2016, gweler rhl. 1(2)

(1)

Mewnosodwyd adran 62D gan adran 19 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015.

(2)

2000 p. 7. Diwygiwyd adran 15(1) gan adran 406(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (p. 21) a pharagraff 158 o Atodlen 17 i’r Ddeddf honno.

(3)

Mae erthygl 4 yn darparu mai’r cyfnod sylwadau yw pum wythnos, ond caiff Gweinidogion Cymru estyn y cyfnod hwnnw drwy gyfarwyddyd mewn unrhyw achos penodol.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources