1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Mawrth 2016.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys pan wneir cais neu pan fwriedir gwneud cais i Weinidogion Cymru o dan adran 62D o Ddeddf 1990 (datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol: ceisiadau sydd i’w gwneud i Weinidogion Cymru)(1).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 1.3.2016, gweler rhl. 1(2)
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “asesydd” (“assessor”) yw person a benodir i eistedd gyda pherson penodedig mewn gwrandawiad neu ymchwiliad neu wrandawiad neu ymchwiliad a ailagorwyd, i gynorthwyo’r person penodedig;
ystyr “awdurdod cynllunio lleol” (“local planning authority”) yw’r awdurdod cynllunio lleol y byddid, oni bai am adran 62D o Ddeddf 1990, wedi gwneud cais iddo am ganiatâd cynllunio;
mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000(2);
ystyr “cyfnod sylwadau” (“representation period”) yw’r cyfnod y darperir ar ei gyfer yn erthygl 4 o Orchymyn 2016(3);
ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;
ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ŵyl Banc nac yn ddydd gŵyl gyhoeddus arall yng Nghymru;
mae “dogfen” (“document”) yn cynnwys ffotograff, map neu blan;
ystyr “Gorchymyn 2016” (“the 2016 Order”) yw Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016(4);
ystyr “hysbysiad derbyn” (“notice of acceptance”) yw hysbysiad o dan erthygl 6 o Orchymyn 2016 bod y cais wedi ei dderbyn;
ystyr “person penodedig” (“appointed person”) yw’r person a benodir yn unol â rheoliad 10 i arfer y swyddogaethau a bennir yn rheoliad 11;
mae “sylw” (“representation”) yn cynnwys tystiolaeth, esboniad, gwybodaeth a sylwadaethau; ac
mae “sylwadau ysgrifenedig” (“written representations”) yn cynnwys dogfennau ategol.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 1.3.2016, gweler rhl. 1(2)
3.—(1) Yn y Rheoliadau hyn, ac mewn perthynas â defnyddio cyfathrebiadau electronig at unrhyw ddiben o’r Rheoliadau hyn y gellir ei gyflawni yn electronig—
(a)mae’r ymadrodd “cyfeiriad” (“address”) yn cynnwys unrhyw rif neu gyfeiriad a ddefnyddir at ddibenion cyfathrebiadau o’r fath;
(b)mae cyfeiriadau at hysbysiadau, sylwadau neu ddogfennau eraill, neu at gopïau o ddogfennau o’r fath, yn cynnwys cyfeiriadau at y cyfryw ddogfennau neu gopïau ohonynt mewn ffurf electronig.
(2) Mae paragraffau (3) i (7) yn gymwys pan ddefnyddir cyfathrebiad electronig gan berson at y diben o gyflawni unrhyw ofyniad yn y Rheoliadau hyn i roi neu anfon unrhyw ddatganiad, hysbysiad neu ddogfen arall i neu at unrhyw berson arall (“y derbynnydd”).
(3) Ystyrir bod y gofyniad wedi ei gyflawni pan fo’r hysbysiad neu ddogfen arall a drawsyrrir ar ffurf cyfathrebiad electronig—
(a)yn un y gall y derbynnydd gael mynediad iddi;
(b)yn ddarllenadwy ym mhob modd perthnasol; ac
(c)yn ddigon parhaol i’w ddefnyddio neu i’w defnyddio i gyfeirio ato neu ati yn ddiweddarach.
(4) Ym mharagraff (3), ystyr “darllenadwy ym mhob modd perthnasol” (“legible in all material respects”) yw fod yr wybodaeth a gynhwysir yn yr hysbysiad neu ddogfen arall ar gael i’r derbynnydd i’r un graddau, o leiaf, ag y byddai pe bai’r wybodaeth wedi ei hanfon neu ei rhoi gan ddefnyddio dogfen brintiedig.
(5) Pan fo’r derbynnydd yn cael y cyfathrebiad electronig y tu allan i oriau busnes y derbynnydd, ystyrir ei fod wedi cael y cyfathrebiad electronig ar y diwrnod gwaith nesaf.
(6) Mae unrhyw ofyniad yn y Rheoliadau hyn y dylai unrhyw ddogfen fod mewn ysgrifen, wedi ei gyflawni pan fo’r ddogfen honno’n bodloni’r meini prawf ym mharagraff (3), a rhaid dehongli “ysgrifenedig” (“written”) ac ymadroddion cytras yn unol â hynny.
(7) Bodlonir unrhyw ofyniad yn y Rheoliadau hyn i anfon mwy nag un copi o ddatganiad neu ddogfen arall drwy anfon un copi yn unig o’r datganiad neu ddogfen arall o dan sylw mewn ffurf electronig.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 3 mewn grym ar 1.3.2016, gweler rhl. 1(2)
4. Caiff Gweinidogion Cymru, mewn unrhyw achos penodol, roi cyfarwyddydau sy’n estyn y terfynau amser a ragnodir gan y Rheoliadau hyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 4 mewn grym ar 1.3.2016, gweler rhl. 1(2)
Mewnosodwyd adran 62D gan adran 19 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015.
2000 p. 7. Diwygiwyd adran 15(1) gan adran 406(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (p. 21) a pharagraff 158 o Atodlen 17 i’r Ddeddf honno.
Mae erthygl 4 yn darparu mai’r cyfnod sylwadau yw pum wythnos, ond caiff Gweinidogion Cymru estyn y cyfnod hwnnw drwy gyfarwyddyd mewn unrhyw achos penodol.