RHAN 2Cyn-ymgeisio
Ceisiadau cymwys
5.—(1) Mae’r canlynol yn geisiadau cymwys at ddibenion adran 61Z1(4) o Ddeddf 1990 (Cymru: gwasanaethau cyn-ymgeisio)—
(a)cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygu tir yng Nghymru pan fo’r datblygiad y mae’r cais yn ymwneud ag ef yn ddatblygiad o arwyddocâd cenedlaethol(); a
(b)cais neu ofyniad am gydsyniad eilaidd() y tybia’r ceisydd y dylai Gweinidogion Cymru wneud penderfyniad mewn cysylltiad ag ef.
(2) Yn y Rhan hon, ystyr “ceisydd” (“applicant”) yw’r person sy’n bwriadu gwneud cais cymwys.
Deisyfiad am wasanaethau cyn-ymgeisio
6.—(1) Rhaid i unrhyw ddeisyfiad am wasanaethau cyn-ymgeisio mewn cysylltiad â chais cymwys fod—
(a)yn ysgrifenedig i’r awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru, ar ffurflen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru (neu ffurflen sydd, o ran sylwedd, yn cael yr un effaith);
(b)yn cynnwys y manylion a bennir neu y cyfeirir atynt yn y ffurflen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru; ac
(c)wedi ei gyflwyno ynghyd ag—
(i)unrhyw blaniau neu luniadau a bennir neu y cyfeirir atynt yn y ffurflen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru; a
(ii)unrhyw ffi benodedig sy’n daladwy am wasanaethau cyn-ymgeisio().
(2) Rhaid i unrhyw blaniau neu luniadau y mae’n ofynnol eu darparu yn rhinwedd paragraff (1)(c)(i) fod wedi eu lluniadu ar raddfa a nodir, ac yn achos planiau rhaid iddynt ddangos cyfeiriad y gogledd.
(3) Yn y Rhan hon, ystyr “deisyfiad dilys am wasanaethau cyn-ymgeisio” (“valid request for pre-application services”) yw deisyfiad am wasanaethau cyn-ymgeisio mewn cysylltiad â chais cymwys sy’n cydymffurfio â gofynion y rheoliad hwn.
(4) Pan fo awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru yn cael cais dilys am wasanaethau cyn-ymgeisio, rhaid i’r awdurdod neu Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, anfon cydnabyddiaeth o’r deisyfiad at y ceisydd, gan ddatgan erbyn pa ddyddiad y mae’n rhaid darparu gwasanaethau cyn-ymgeisio o dan reoliad 7(3) neu, yn ôl y digwydd, reoliad 8(3).
Dyletswydd i ddarparu gwasanaethau cyn-ymgeisio: awdurdodau cynllunio lleol
7.—(1) Pan fo awdurdod cynllunio lleol yn cael deisyfiad dilys am wasanaethau cyn-ymgeisio, rhaid i’r awdurdod ddarparu’r gwasanaethau cyn-ymgeisio a bennir ym mharagraff (2) o fewn y cyfnod a bennir neu y cyfeirir ato ym mharagraff (3).
(2) Y gwasanaethau cyn-ymgeisio a bennir yn y paragraff hwn yw darparu i’r ceisydd wybodaeth mewn perthynas â’r canlynol—
(a)hanes cynllunio’r tir y bwriedir cyflawni’r datblygiad arfaethedig arno, i’r graddau y mae’n berthnasol i’r cais arfaethedig;
(b)darpariaethau’r cynllun datblygu, i’r graddau y maent yn faterol berthnasol i’r cais arfaethedig;
(c)unrhyw ganllawiau cynllunio atodol, i’r graddau y maent yn faterol berthnasol i’r cais arfaethedig;
(d)unrhyw ystyriaethau eraill sydd, neu a allai fod yn faterol berthnasol ym marn yr awdurdod;
(e)pa un a yw’n debygol ai peidio y bydd rhwymedigaethau cynllunio (yn yr ystyr a roddir i “planning obligations” gan adran 106 o Ddeddf 1990 (rhwymedigaethau cynllunio)()) yn ofynnol, ac os byddant, dylid nodi cwmpas tebygol y cyfryw rwymedigaethau cynllunio, gan gynnwys nodi unrhyw swm y gallai fod yn ofynnol ei dalu i’r awdurdod; ac
(f)unrhyw grwpiau cymunedol lleol perthnasol sy’n hysbys i’r awdurdod, y gallai’r ceisydd ymgynghori â hwy fel rhan o’r ymgynghoriad cyn-ymgeisio.
(3) Y cyfnod a bennir yn y paragraff hwn yw—
(a)28 diwrnod sy’n dechrau gyda’r diwrnod y ceir deisyfiad dilys am wasanaethau cyn-ymgeisio, neu pa bynnag gyfnod arall a gytunir mewn ysgrifen rhwng y ceisydd a’r awdurdod; neu
(b)pan fo’r ffi sy’n ofynnol mewn cysylltiad â deisyfiad am wasanaethau cyn-ymgeisio wedi ei thalu â siec, a’r siec honno wedyn yn cael ei dychwelyd heb ei thalu, y cyfnod fel a bennir yn is-baragraff (a) wedi ei gyfrifo gan ddiystyru’r cyfnod rhwng y dyddiad yr anfonodd yr awdurdod hysbysiad ysgrifenedig at y ceisydd ynghylch dychwelyd y siec heb ei thalu a’r dyddiad pan fodlonir yr awdurdod ei fod wedi cael swm llawn y ffi.
(4) Rhaid i unrhyw wybodaeth a roddir i’r ceisydd fod mewn ysgrifen.
Dyletswydd i ddarparu gwasanaethau cyn-ymgeisio: Gweinidogion Cymru
8.—(1) Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael deisyfiad dilys am wasanaethau cyn-ymgeisio, rhaid i Weinidogion Cymru ddarparu pa bynnag rai o’r gwasanaethau cyn-ymgeisio a bennir ym mharagraff (2) y gofynnir amdanynt gan y ceisydd, o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (3).
(2) Y gwasanaethau cyn-ymgeisio a bennir yn y paragraff hwn yw—
(a)gwybodaeth a chymorth mewn perthynas ag unrhyw rai o’r canlynol—
(i)ffurf a chynnwys y cais;
(ii)ffurf a chynnwys unrhyw adroddiadau technegol a allai fod yn ofynnol;
(iii)y gweithdrefnau ar gyfer gwneud cais a’i hebrwng ymlaen; a
(b)pa bynnag wybodaeth neu gymorth arall a ddeisyfir gan y ceisydd, y gall Gweinidogion Cymru eu darparu ac y tybiant a fyddai o gymorth i’r ceisydd ar gyfer gwneud cais a’i hebrwng ymlaen; ac
(c)asesiad dechreuol o’r cais arfaethedig.
(3) Y cyfnod penodedig yn y paragraff hwn yw 28 diwrnod, sy’n dechrau gyda’r diwrnod pan geir deisyfiad dilys am wasanaethau cyn-ymgeisio neu pa bynnag gyfnod hwy a benderfynir gan Weinidogion Cymru.
(4) Rhaid i unrhyw wybodaeth a roddir neu a gadarnheir i’r ceisydd fod mewn ysgrifen.
Monitro a datganiad o wasanaethau
9.—(1) Rhaid i awdurdodau cynllunio lleol a Gweinidogion Cymru gadw cofnod o’r canlynol—
(a)pob deisyfiad dilys a gânt am wasanaethau cyn-ymgeisio; a
(b)y gwasanaethau cyn-ymgeisio a ddarperir mewn cysylltiad â cheisiadau cymwys.
(2) Rhaid i’r cofnodion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) nodi’r tir y mae’r cais cymwys yn ymwneud ag ef.
(3) Rhaid i bob awdurdod cynllunio lleol a Gweinidogion Cymru gyhoeddi’r canlynol ar eu priod wefannau—
(a)datganiad sy’n rhoi manylion y gwasanaethau cyn-ymgeisio a ddarperir ganddynt mewn cysylltiad â cheisiadau cymwys;
(b)yn achos awdurdod cynllunio lleol—
(i)y ffurflen y cyfeirir ati yn rheoliad 6(1)(a); a
(ii)manylion y ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad â deisyfiadau am wasanaethau cyn-ymgeisio; ac
(c)yn achos Gweinidogion Cymru, manylion y modd y cyfrifir y ffi am wasanaethau cyn-ymgeisio.