RHAN 2LL+CCyn-ymgeisio

Ceisiadau cymwysLL+C

5.—(1Mae’r canlynol yn geisiadau cymwys at ddibenion adran 61Z1(4) o Ddeddf 1990 (Cymru: gwasanaethau cyn-ymgeisio)—

(a)cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygu tir yng Nghymru pan fo’r datblygiad y mae’r cais yn ymwneud ag ef yn ddatblygiad o arwyddocâd cenedlaethol(1); a

(b)cais neu ofyniad am gydsyniad eilaidd(2) y tybia’r ceisydd y dylai Gweinidogion Cymru wneud penderfyniad mewn cysylltiad ag ef.

(2Yn y Rhan hon, ystyr “ceisydd” (“applicant”) yw’r person sy’n bwriadu gwneud cais cymwys.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 5 mewn grym ar 1.3.2016, gweler rhl. 1(2)

Deisyfiad am wasanaethau cyn-ymgeisioLL+C

6.—(1Rhaid i unrhyw ddeisyfiad am wasanaethau cyn-ymgeisio mewn cysylltiad â chais cymwys fod—

(a)yn ysgrifenedig i’r awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru, ar ffurflen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru (neu ffurflen sydd, o ran sylwedd, yn cael yr un effaith);

(b)yn cynnwys y manylion a bennir neu y cyfeirir atynt yn y ffurflen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru; ac

(c)wedi ei gyflwyno ynghyd ag—

(i)unrhyw blaniau neu luniadau a bennir neu y cyfeirir atynt yn y ffurflen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru; a

(ii)unrhyw ffi benodedig sy’n daladwy am wasanaethau cyn-ymgeisio(3).

(2Rhaid i unrhyw blaniau neu luniadau y mae’n ofynnol eu darparu yn rhinwedd paragraff (1)(c)(i) fod wedi eu lluniadu ar raddfa a nodir, ac yn achos planiau rhaid iddynt ddangos cyfeiriad y gogledd.

(3Yn y Rhan hon, ystyr “deisyfiad dilys am wasanaethau cyn-ymgeisio” (“valid request for pre-application services”) yw deisyfiad am wasanaethau cyn-ymgeisio mewn cysylltiad â chais cymwys sy’n cydymffurfio â gofynion y rheoliad hwn.

(4Pan fo awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru yn cael cais dilys am wasanaethau cyn-ymgeisio, rhaid i’r awdurdod neu Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, anfon cydnabyddiaeth o’r deisyfiad at y ceisydd, gan ddatgan erbyn pa ddyddiad y mae’n rhaid darparu gwasanaethau cyn-ymgeisio o dan reoliad 7(3) neu, yn ôl y digwydd, reoliad 8(3).

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 6 mewn grym ar 1.3.2016, gweler rhl. 1(2)

Dyletswydd i ddarparu gwasanaethau cyn-ymgeisio: awdurdodau cynllunio lleolLL+C

7.—(1Pan fo awdurdod cynllunio lleol yn cael deisyfiad dilys am wasanaethau cyn-ymgeisio, rhaid i’r awdurdod ddarparu’r gwasanaethau cyn-ymgeisio a bennir ym mharagraff (2) o fewn y cyfnod a bennir neu y cyfeirir ato ym mharagraff (3).

(2Y gwasanaethau cyn-ymgeisio a bennir yn y paragraff hwn yw darparu i’r ceisydd wybodaeth mewn perthynas â’r canlynol—

(a)hanes cynllunio’r tir y bwriedir cyflawni’r datblygiad arfaethedig arno, i’r graddau y mae’n berthnasol i’r cais arfaethedig;

(b)darpariaethau’r cynllun datblygu, i’r graddau y maent yn faterol berthnasol i’r cais arfaethedig;

(c)unrhyw ganllawiau cynllunio atodol, i’r graddau y maent yn faterol berthnasol i’r cais arfaethedig;

(d)unrhyw ystyriaethau eraill sydd, neu a allai fod yn faterol berthnasol ym marn yr awdurdod;

(e)pa un a yw’n debygol ai peidio y bydd rhwymedigaethau cynllunio (yn yr ystyr a roddir i “planning obligations” gan adran 106 o Ddeddf 1990 (rhwymedigaethau cynllunio)(4)) yn ofynnol, ac os byddant, dylid nodi cwmpas tebygol y cyfryw rwymedigaethau cynllunio, gan gynnwys nodi unrhyw swm y gallai fod yn ofynnol ei dalu i’r awdurdod; ac

(f)unrhyw grwpiau cymunedol lleol perthnasol sy’n hysbys i’r awdurdod, y gallai’r ceisydd ymgynghori â hwy fel rhan o’r ymgynghoriad cyn-ymgeisio.

(3Y cyfnod a bennir yn y paragraff hwn yw—

(a)28 diwrnod sy’n dechrau gyda’r diwrnod y ceir deisyfiad dilys am wasanaethau cyn-ymgeisio, neu pa bynnag gyfnod arall a gytunir mewn ysgrifen rhwng y ceisydd a’r awdurdod; neu

(b)pan fo’r ffi sy’n ofynnol mewn cysylltiad â deisyfiad am wasanaethau cyn-ymgeisio wedi ei thalu â siec, a’r siec honno wedyn yn cael ei dychwelyd heb ei thalu, y cyfnod fel a bennir yn is-baragraff (a) wedi ei gyfrifo gan ddiystyru’r cyfnod rhwng y dyddiad yr anfonodd yr awdurdod hysbysiad ysgrifenedig at y ceisydd ynghylch dychwelyd y siec heb ei thalu a’r dyddiad pan fodlonir yr awdurdod ei fod wedi cael swm llawn y ffi.

(4Rhaid i unrhyw wybodaeth a roddir i’r ceisydd fod mewn ysgrifen.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 7 mewn grym ar 1.3.2016, gweler rhl. 1(2)

Dyletswydd i ddarparu gwasanaethau cyn-ymgeisio: Gweinidogion CymruLL+C

8.—(1Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael deisyfiad dilys am wasanaethau cyn-ymgeisio, rhaid i Weinidogion Cymru ddarparu pa bynnag rai o’r gwasanaethau cyn-ymgeisio a bennir ym mharagraff (2) y gofynnir amdanynt gan y ceisydd, o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (3).

(2Y gwasanaethau cyn-ymgeisio a bennir yn y paragraff hwn yw—

(a)gwybodaeth a chymorth mewn perthynas ag unrhyw rai o’r canlynol—

(i)ffurf a chynnwys y cais;

(ii)ffurf a chynnwys unrhyw adroddiadau technegol a allai fod yn ofynnol;

(iii)y gweithdrefnau ar gyfer gwneud cais a’i hebrwng ymlaen; a

(b)pa bynnag wybodaeth neu gymorth arall a ddeisyfir gan y ceisydd, y gall Gweinidogion Cymru eu darparu ac y tybiant a fyddai o gymorth i’r ceisydd ar gyfer gwneud cais a’i hebrwng ymlaen; ac

(c)asesiad dechreuol o’r cais arfaethedig.

(3Y cyfnod penodedig yn y paragraff hwn yw 28 diwrnod, sy’n dechrau gyda’r diwrnod pan geir deisyfiad dilys am wasanaethau cyn-ymgeisio neu pa bynnag gyfnod hwy a benderfynir gan Weinidogion Cymru.

(4Rhaid i unrhyw wybodaeth a roddir neu a gadarnheir i’r ceisydd fod mewn ysgrifen.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 8 mewn grym ar 1.3.2016, gweler rhl. 1(2)

Monitro a datganiad o wasanaethauLL+C

9.—(1Rhaid i awdurdodau cynllunio lleol a Gweinidogion Cymru gadw cofnod o’r canlynol—

(a)pob deisyfiad dilys a gânt am wasanaethau cyn-ymgeisio; a

(b)y gwasanaethau cyn-ymgeisio a ddarperir mewn cysylltiad â cheisiadau cymwys.

(2Rhaid i’r cofnodion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) nodi’r tir y mae’r cais cymwys yn ymwneud ag ef.

(3Rhaid i bob awdurdod cynllunio lleol a Gweinidogion Cymru gyhoeddi’r canlynol ar eu priod wefannau—

(a)datganiad sy’n rhoi manylion y gwasanaethau cyn-ymgeisio a ddarperir ganddynt mewn cysylltiad â cheisiadau cymwys;

(b)yn achos awdurdod cynllunio lleol—

(i)y ffurflen y cyfeirir ati yn rheoliad 6(1)(a); a

(ii)manylion y ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad â deisyfiadau am wasanaethau cyn-ymgeisio; ac

(c)yn achos Gweinidogion Cymru, manylion y modd y cyfrifir y ffi am wasanaethau cyn-ymgeisio.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 9 mewn grym ar 1.3.2016, gweler rhl. 1(2)

(1)

Mae datblygiad yn ddatblygiad o arwyddocâd cenedlaethol os yw’n bodloni’r meini prawf a bennir yn Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) 2016 (O.S. 2016/53 (Cy. 23).

(2)

Ar gyfer y diffiniad o “secondary consent” (“cydsyniad eilaidd”) gweler adran 62H o Ddeddf 1990, a fewnosodwyd gan adran 20 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015. Rhagnodir cydsyniadau eilaidd at ddibenion adran 62H gan Reoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) 2016.

(3)

Ar gyfer y ffioedd penodedig ac amrywiol sy’n daladwy mewn cysylltiad â gwasanaethau cyn-ymgeisio, gweler Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Ffioedd) (Cymru) 2016 (O.S.2016/57) (Cy. 27).

(4)

Amnewidiwyd adran 106 gan adran 12(1) o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 31) ac fe’i diwygiwyd gan adran 174(2) o Ddeddf Cynllunio 2008 (p. 29) a chan adran 7 o Ddeddf Twf a Seilwaith 2013 (p. 27) a pharagraff 3 o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno.