Search Legislation

Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016, RHAN 6 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 18 Hydref 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to the whole Instrument associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):

RHAN 6LL+CSylwadau ysgrifenedig

Cymhwyso Rhan 6LL+C

17.—(1Mae’r Rhan hon yn gymwys pan fo—

(a)hysbysiad derbyn wedi ei roi; a

(b)Gweinidogion Cymru wedi gwneud penderfyniad bod y cais i gael ei ystyried ar sail sylwadau ysgrifenedig yn unig.

(2Mae’r Rhan hon yn gymwys hefyd pan fo Gweinidogion Cymru—

(a)wedi gwneud penderfyniad bod y cyfan neu ran o’r cais i gael ei ystyried neu ei hystyried ar sail gwrandawiad neu ymchwiliad; a

(b)yn amrywio’r penderfyniad hwnnw yn ddiweddarach fel bod y cais i gael ei ystyried, neu rannau o’r cais i gael eu hystyried ar sail sylwadau ysgrifenedig,

i’r cyfryw raddau a bennir gan Weinidogion Cymru ar ôl ystyried unrhyw gamau a gymerwyd eisoes mewn perthynas â’r cais.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 17 mewn grym ar 1.3.2016, gweler rhl. 1(2)

AdroddiadLL+C

18.[F1(A1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r swyddogaeth o benderfynu ar y cais i’w harfer gan Weinidogion Cymru.]

(1Rhaid i’r person penodedig lunio adroddiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru, a rhaid i’r adroddiad gynnwys casgliadau’r person penodedig a’i argymhellion (neu resymau dros beidio â gwneud unrhyw argymhellion).

(2Mae paragraff (3) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn tueddu i anghytuno ag argymhelliad yn adroddiad y person penodedig oherwydd eu bod—

(a)yn cymryd safbwynt gwahanol i’r person penodedig ynglŷn ag unrhyw fater o ffaith a grybwyllir mewn casgliad a gyrhaeddir gan y person penodedig, neu sy’n ymddangos iddynt yn faterol berthnasol i gasgliad a gyrhaeddir ganddo, neu

(b)wedi cymryd i ystyriaeth unrhyw dystiolaeth newydd neu fater newydd o ffaith (nad yw’n fater o bolisi).

(3Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â chyrraedd penderfyniad sy’n groes i argymhelliad y person penodedig heb yn gyntaf—

(a)hysbysu’r ceisydd, yr awdurdod cynllunio lleol a’r personau hynny a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig ynghylch eu hanghytundeb a’u rhesymau dros anghytuno; a

(b)cynnig cyfle iddynt gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.

(4Rhaid i’r rhai sy’n gwneud sylwadau ysgrifenedig sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn cael y cyfryw sylwadau o fewn pa bynnag gyfnod o amser a ddatgenir gan Weinidogion Cymru yn yr hysbysiad o dan baragraff (3).

(5Caiff Gweinidogion Cymru beri cynnal gwrandawiad neu ymchwiliad os byddant wedi cymryd i ystyriaeth unrhyw dystiolaeth newydd neu fater newydd o ffaith, nad yw’n fater o bolisi.

(6Pan fo gwrandawiad neu ymchwiliad i gael ei gynnal, rhaid i Weinidogion Cymru anfon at y ceisydd, yr awdurdod cynllunio lleol a’r personau a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig, ddatganiad ysgrifenedig o’r materion y gwahoddir sylwadau pellach yn eu cylch, at y diben o ystyried y cais ymhellach gan Weinidogion Cymru.

(7Mae rheoliad 15(2) i (6) yn gymwys i unrhyw dystiolaeth neu sylw ysgrifenedig a gyflwynir i Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff (4) o’r rheoliad hwn.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 18 mewn grym ar 1.3.2016, gweler rhl. 1(2)

[F2Adroddiad: llinellau trydanLL+C

18A.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r swyddogaeth o benderfynu ar y cais i’w harfer gan berson penodedig.

(2) Rhaid i’r person penodedig wneud adroddiad ysgrifenedig y mae’n rhaid iddo gynnwys casgliadau a phenderfyniad y person penodedig.

(3) Caiff y person penodedig beri i wrandawiad neu ymchwiliad gael ei gynnal os, ar ôl ystyried y sylwadau ysgrifenedig, yw’r person penodedig o’r farn y dylid cymryd i ystyriaeth unrhyw dystiolaeth newydd neu fater newydd o ffaith, nad yw’n fater o bolisi.

(4) Pan fo gwrandawiad neu ymchwiliad i’w gynnal, rhaid i’r person penodedig anfon at y ceisydd, yr awdurdod cynllunio lleol a’r personau sy’n cyflwyno sylwadau ysgrifenedig, ddatganiad ysgrifenedig o’r materion y gwahoddir sylwadau pellach yn eu cylch at ddibenion ystyried y cais ymhellach gan y person penodedig.

(5) Rhaid i’r rhai sy’n gwneud sylwadau pellach sicrhau bod y person penodedig yn cael y cyfryw sylwadau o fewn pa bynnag gyfnod o amser a ddatgenir gan y person penodedig yn y gwahoddiad o dan baragraff (4).

(6) Mae rheoliad 15(2) i (6) yn gymwys i unrhyw sylwadau pellach a gyflwynir i’r person penodedig yn unol â pharagraff (5), fel pe bai cyfeiriadau at Weinidogion Cymru yn gyfeiriadau at y person penodedig.]

Mynd ymlaen i benderfynuLL+C

19.—(1Caiff Gweinidogion Cymru fynd ymlaen i benderfynu cais—

(a)os na fydd sylwadau ysgrifenedig wedi eu gwneud o fewn y terfynau amser perthnasol, ar ôl rhoi i’r ceisydd ac i’r awdurdod cynllunio lleol hysbysiad ysgrifenedig o’u bwriad i wneud hynny;

(b)os bydd deisyfiad wedi ei wneud am sylwadau pellach, ar ôl diwedd pa bynnag gyfnod a ganiatawyd ar gyfer darparu sylwadau pellach.

(2Yn y rheoliad hwn, ystyr “terfynau amser perthnasol” (“relevant time limits”) yw’r terfynau amser [F3a ragnodir gan reoliadau 15, 18 a 18A] neu gan unrhyw gyfarwyddyd a roddwyd o dan reoliad 4.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 19 mewn grym ar 1.3.2016, gweler rhl. 1(2)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources