37.—(1) Pan fo penderfyniad gan Weinidogion Cymru i ganiatáu neu wrthod cais wedi ei ddileu mewn achos gerbron unrhyw lys, a phan fo’n ofynnol i Weinidogion Cymru ailystyried eu penderfyniad—
(a)rhaid iddynt anfon at y personau a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig, neu a gymerodd ran yn y gwrandawiad neu ymchwiliad, ddatganiad ysgrifenedig o’r materion y gwahoddir sylwadau pellach mewn cysylltiad â hwy, at y diben o ystyried y cais ymhellach gan Weinidogion Cymru;
(b)rhaid iddynt roi cyfle i’r personau hynny wneud sylwadau ysgrifenedig i’w cyflwyno iddynt mewn cysylltiad â’r materion hynny; ac
(c)fel yr ystyriant yn briodol, cânt—
(i)peri ailagor y gwrandawiad neu ymchwiliad;
(ii)yn achos gwrandawiad, peri cynnal ymchwiliad yn hytrach (pa un ai gan yr un person penodedig neu berson penodedig arall);
(iii)yn achos ymchwiliad, peri cynnal gwrandawiad yn hytrach (pa un ai gan yr un person penodedig neu berson penodedig arall);
(iv)peri cynnal gwrandawiad neu ymchwiliad (pan na chynhaliwyd yr un yn flaenorol); neu
(v)penderfynu’r mater ar sail sylwadau ysgrifenedig.
(2) Os yw Gweinidogion Cymru yn ailagor y gwrandawiad neu ymchwiliad, mae rheoliadau 21 a 32 yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriadau at wrandawiad neu ymchwiliad yn gyfeiriadau at wrandawiad neu ymchwiliad a ailagorwyd.
(3) Rhaid i’r personau hynny sy’n gwneud sylwadau sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn cael y cyfryw sylwadau o fewn y cyfnod a ddatgenir yn natganiad Gweinidogion Cymru o dan baragraff (1)(a).