15.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru ddeisyf sylwadau pellach gan—
(a)y ceisydd;
(b)yr awdurdod cynllunio lleol; ac
(c)unrhyw berson â buddiant(1) a wnaeth sylwadau mewn perthynas â’r cais yn ystod y cyfnod sylwadau.
(2) Yn benodol, caiff Gweinidogion Cymru ddeisyf mewn ysgrifen y canlynol—
(a)gan y person sy’n gwneud unrhyw sylw, nifer penodedig o gopïau ychwanegol o’r sylw hwnnw;
(b)ymatebion i gwestiynau a ofynnir gan Weinidogion Cymru ynghylch materion sy’n gynwysedig mewn unrhyw sylw.
(3) Rhaid i bob sylw ar unrhyw fater penodol a gyflwynir yn dilyn deisyfiad beidio â bod yn fwy na 3,000 o eiriau, a rhaid ei gyflwyno—
(a)yn y modd a bennir gan Weinidogion Cymru;
(b)ddim hwyrach na phedair wythnos ar ôl dyddiad y deisyfiad o dan baragraff (1).
(4) Caiff Gweinidogion Cymru ddiystyru unrhyw sylw—
(a)sy’n cyrraedd yn hwyr neu mewn modd gwahanol i’r modd a bennwyd;
(b)sy’n fwy na 3,000 o eiriau;
(c)yr ystyriant yn wacsaw neu’n flinderus; neu
(d)sy’n ymwneud â rhinweddau polisi a nodir mewn cynllun datblygu neu mewn unrhyw ddatganiad polisi perthnasol a wnaed neu a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru.
(5) Os digwydd bod sylw ysgrifenedig yn fwy na 3,000 o eiriau, caiff Gweinidogion Cymru ddychwelyd y sylw at y person sy’n ei gyflwyno, gyda deisyfiad ei fod yn ailgyflwyno’r sylw mewn ffurf nad yw’n fwy na 3,000 o eiriau, a hynny o fewn pa bynnag amser a ddatgenir gan Weinidogion Cymru wrth ddychwelyd y sylw.
(6) Caiff Gweinidogion Cymru, yn ôl eu disgresiwn mewn unrhyw achos penodol, gynyddu’r nifer o eiriau ym mharagraff (3); ac yn unol â hynny, mae cyfeiriadau ar y nifer mwyaf o eiriau yn gyfeiriadau at y nifer ar ôl ei gynyddu felly.
(7) Rhaid i Weinidogion Cymru roi’r holl sylwadau ysgrifenedig ac ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a geir ganddynt ar gael ym mha bynnag fodd a ystyrir yn briodol gan Weinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 15 mewn grym ar 1.3.2016, gweler rhl. 1(2)
Diffinnir “interested person” (“person â buddiant”) yn adran 319B(8A) o Ddeddf 1990. Mewnosodwyd is-adran (8A) gan adran 27 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 a pharagraff 20(4) o Atodlen 4 i’r Ddeddf honno.