17.—(1) Mae’r Rhan hon yn gymwys pan fo—
(a)hysbysiad derbyn wedi ei roi; a
(b)Gweinidogion Cymru wedi gwneud penderfyniad bod y cais i gael ei ystyried ar sail sylwadau ysgrifenedig yn unig.
(2) Mae’r Rhan hon yn gymwys hefyd pan fo Gweinidogion Cymru—
(a)wedi gwneud penderfyniad bod y cyfan neu ran o’r cais i gael ei ystyried neu ei hystyried ar sail gwrandawiad neu ymchwiliad; a
(b)yn amrywio’r penderfyniad hwnnw yn ddiweddarach fel bod y cais i gael ei ystyried, neu rannau o’r cais i gael eu hystyried ar sail sylwadau ysgrifenedig,
i’r cyfryw raddau a bennir gan Weinidogion Cymru ar ôl ystyried unrhyw gamau a gymerwyd eisoes mewn perthynas â’r cais.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 17 mewn grym ar 1.3.2016, gweler rhl. 1(2)