RHAN 6LL+CSylwadau ysgrifenedig

[F1Adroddiad: llinellau trydanLL+C

18A.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r swyddogaeth o benderfynu ar y cais i’w harfer gan berson penodedig.

(2) Rhaid i’r person penodedig wneud adroddiad ysgrifenedig y mae’n rhaid iddo gynnwys casgliadau a phenderfyniad y person penodedig.

(3) Caiff y person penodedig beri i wrandawiad neu ymchwiliad gael ei gynnal os, ar ôl ystyried y sylwadau ysgrifenedig, yw’r person penodedig o’r farn y dylid cymryd i ystyriaeth unrhyw dystiolaeth newydd neu fater newydd o ffaith, nad yw’n fater o bolisi.

(4) Pan fo gwrandawiad neu ymchwiliad i’w gynnal, rhaid i’r person penodedig anfon at y ceisydd, yr awdurdod cynllunio lleol a’r personau sy’n cyflwyno sylwadau ysgrifenedig, ddatganiad ysgrifenedig o’r materion y gwahoddir sylwadau pellach yn eu cylch at ddibenion ystyried y cais ymhellach gan y person penodedig.

(5) Rhaid i’r rhai sy’n gwneud sylwadau pellach sicrhau bod y person penodedig yn cael y cyfryw sylwadau o fewn pa bynnag gyfnod o amser a ddatgenir gan y person penodedig yn y gwahoddiad o dan baragraff (4).

(6) Mae rheoliad 15(2) i (6) yn gymwys i unrhyw sylwadau pellach a gyflwynir i’r person penodedig yn unol â pharagraff (5), fel pe bai cyfeiriadau at Weinidogion Cymru yn gyfeiriadau at y person penodedig.]