25.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru fynd ymlaen â chynnal gwrandawiad yn absenoldeb y ceisydd, yr awdurdod cynllunio lleol ac unrhyw berson a wahoddwyd i gymryd rhan.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru ohirio gwrandawiad o bryd i’w gilydd, ac os cyhoeddir dyddiad, amser a lleoliad y gwrandawiad gohiriedig yn y gwrandawiad cyn ei ohirio, ni fydd unrhyw hysbysiad pellach yn ofynnol.