Gweithdrefn mewn gwrandawiadLL+C
26.—(1) Y person penodedig sydd i lywyddu mewn unrhyw wrandawiad, a rhaid iddo benderfynu ar y weithdrefn yn y gwrandawiad, yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau hyn.
(2) Rhaid cynnal gwrandawiad ar ffurf trafodaeth a arweinir gan y person penodedig, a rhaid peidio â chaniatáu croesholi.
(3) Pan fo’r person penodedig o’r farn bod croesholi yn angenrheidiol, rhaid i’r person penodedig ystyried (ar ôl ymgynghori â’r ceisydd) a ddylid cau’r gwrandawiad a chynnal ymchwiliad yn ei le.
(4) Ar ddechrau’r gwrandawiad, rhaid i’r person penodedig nodi pa faterion y mae’n ofynnol iddo, ym marn y person penodedig, gael sylwadau pellach arnynt yn y gwrandawiad.
(5) Mae hawl gan y ceisydd, yr awdurdod cynllunio lleol ac unrhyw berson a wahoddwyd i gymryd rhan mewn gwrandawiad i alw tystiolaeth.
(6) Caiff y person penodedig ganiatáu i unrhyw berson arall alw tystiolaeth.
(7) Caiff y person penodedig wrthod caniatáu rhoi neu ddangos tystiolaeth neu gyflwyno unrhyw fater arall a ystyrir gan y person penodedig yn amherthnasol neu’n ailadroddus.
(8) Pan fo’r person penodedig yn gwrthod caniatáu rhoi tystiolaeth ar lafar, caiff y person sy’n dymuno rhoi’r dystiolaeth gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r person penodedig cyn cau’r gwrandawiad.
(9) Caiff y person penodedig—
(a)ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson, sy’n cymryd rhan neu sy’n bresennol mewn gwrandawiad, yn ymadael os yw’n ymddwyn mewn modd sydd, ym marn y person penodedig, yn tarfu ar eraill; a
(b)gwrthod caniatáu i’r person hwnnw ddychwelyd; neu
(c)caniatáu i’r person hwnnw ddychwelyd ar y cyfryw amodau, yn unig, a bennir gan y person penodedig,
ond caiff unrhyw berson o’r fath gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r person penodedig cyn cau’r gwrandawiad.
(10) Caiff y person penodedig gymryd i ystyriaeth unrhyw sylw ysgrifenedig neu ddogfen arall a gaiff cyn cau’r gwrandawiad, ar yr amod bod y person penodedig yn datgelu hynny yn y gwrandawiad.
(11) Caiff y person penodedig wahodd unrhyw berson sy’n cymryd rhan yn y gwrandawiad i gyflwyno cyflwyniadau cloi, a rhaid i unrhyw berson sy’n gwneud hynny ddarparu copi ysgrifenedig o’i gyflwyniadau cloi i’r person penodedig cyn cau’r gwrandawiad.
(12) Yn ddarostyngedig i baragraff (7) caiff y person penodedig ganiatáu i unrhyw berson wneud sylwadau ar lafar yn y gwrandawiad.
(13) Caiff unrhyw berson sydd â hawl, neu a ganiateir, i wneud sylwadau ar lafar mewn gwrandawiad wneud hynny ar ei ran ei hunan, neu gael ei gynrychioli gan unrhyw berson arall
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 26 mewn grym ar 1.3.2016, gweler rhl. 1(2)