Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016

[F1Gweithdrefn ac adroddiad ar ôl gwrandawiad: penderfyniad gan berson penodedigLL+C

28A.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r swyddogaeth o benderfynu ar y cais i’w harfer gan berson penodedig.

(2) Ar ôl cau’r gwrandawiad—

(a)caiff yr asesydd (os penodir un) wneud adroddiad ysgrifenedig i’r person penodedig mewn cysylltiad â’r materion y penodwyd yr asesydd i gynorthwyo gyda hwy;

(b)rhaid i’r person penodedig wneud adroddiad ysgrifenedig a chynnwys ynddo gasgliadau’r person penodedig a’i benderfyniad.

(3) Pan fo asesydd yn gwneud adroddiad yn unol â pharagraff (2)(a), rhaid i’r person penodedig—

(a)ei atodi wrth ei adroddiad; a

(b)datgan yn yr adroddiad hwnnw i ba raddau y mae’r person penodedig yn cytuno neu’n anghytuno ag adroddiad yr asesydd, a phan fo’r person penodedig yn anghytuno â’r asesydd, ddatgan y rhesymau dros yr anghytundeb hwnnw.

(4) Wrth wneud y penderfyniad, caiff y person penodedig ddiystyru unrhyw sylwadau ysgrifenedig neu ddogfen arall a geir ar ôl cau’r gwrandawiad.

(5) Os yw’r person penodedig, ar ôl cau’r gwrandawiad, yn bwriadu cymryd i ystyriaeth unrhyw dystiolaeth newydd neu unrhyw fater newydd o ffaith (nad yw’n fater o bolisi) na chafodd ei godi yn y gwrandawiad ac y mae’r person penodedig yn ystyried ei fod yn faterol berthnasol i’r penderfyniad, ni chaniateir i’r person penodedig ddod i benderfyniad heb yn gyntaf—

(a)hysbysu’r ceisydd, yr awdurdod cynllunio lleol a’r personau hynny a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig ac a gymerodd ran yn y gwrandawiad; a

(b)rhoi cyfle iddynt gyflwyno sylwadau ysgrifenedig.

(6) Rhaid i’r rhai sy’n gwneud sylwadau ysgrifenedig sicrhau bod y person penodedig yn cael y cyfryw sylwadau o fewn y cyfnod a ddatgenir yn hysbysiad y person penodedig o dan baragraff (5)(a).

(7) Caiff y person penodedig beri bod gwrandawiad yn cael ei ailagor fel yr ystyria’r person yn briodol.

(8) Pan ailagorir gwrandawiad (pa un ai gan yr un person penodedig neu berson penodedig gwahanol)—

(a)rhaid i’r person penodedig anfon at y ceisydd, yr awdurdod cynllunio lleol a’r personau hynny a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig neu a gymerodd ran yn y gwrandawiad, ddatganiad ysgrifenedig o’r materion y gwahoddir sylwadau pellach mewn cysylltiad â hwy, at y diben o ystyried y cais ymhellach gan y person penodedig; a

(b)mae rheoliad 26 yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriadau at wrandawiad yn gyfeiriadau at wrandawiad a ailagorwyd.

(9) Mae rheoliad 15(2) i (6) yn gymwys i unrhyw dystiolaeth neu sylw ysgrifenedig a gyflwynir i’r person penodedig yn unol â pharagraff (6) o’r rheoliad hwn, fel pe bai cyfeiriadau at Weinidogion Cymru yn gyfeiriadau at y person penodedig.

(10) Mae rheoliad 29(b) i’w ddarllen fel pe bai cyfeiriad at y cyfnod a ganiateir yn unol â rheoliad 28(6) yn gyfeiriad at y cyfnod a ganiateir yn unol â rheoliad 28A(6).]