Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016

PenderfynuLL+C

29.  Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu cais—

(a)ar ôl cau’r gwrandawiad neu unrhyw wrandawiad a ailagorwyd; neu

(b)os yw’n ddiweddarach, pan fo’r cyfnod a ganiatawyd ar gyfer darparu sylwadau ysgrifenedig yn unol â rheoliad 28(6) wedi dod i ben, pa un a gafwyd sylwadau yn ystod y cyfnod hwnnw ai peidio.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 29 mewn grym ar 1.3.2016, gweler rhl. 1(2)