Cymhwyso Rhan 8LL+C
30.—(1) Mae’r Rhan hon yn gymwys pan fo—
(a)hysbysiad derbyn wedi ei roi; a
(b)Gweinidogion Cymru yn gwneud penderfyniad bod y cais i gael ei ystyried yn gyfan gwbl neu’n rhannol drwy gynnal ymchwiliad lleol.
(2) Mae’r Rhan hon yn gymwys hefyd pan fo—
(a)Gweinidogion Cymru wedi gwneud penderfyniad bod y cyfan neu ran o’r cais i gael ei ystyried neu ei hystyried ar sail sylwadau ysgrifenedig neu wrandawiad; a
(b)yn amrywio’r penderfyniad hwnnw yn ddiweddarach fel bod y cais i gael ei ystyried, neu rannau o’r cais i gael eu hystyried, ar sail ymchwiliad,
i’r cyfryw raddau a bennir gan Weinidogion Cymru ar ôl ystyried unrhyw gamau a gymerwyd eisoes mewn perthynas â’r cais.
(3) Mae [F1rheoliadau 22 i 25, 28 a 28A] yn gymwys i ymchwiliadau lleol fel y maent yn gymwys i wrandawiadau, ac y unol â hynny mae’r rheoliadau hynny i’w darllen fel pe bai cyfeiriadau at wrandawiadau yn cynnwys cyfeiriadau at ymchwiliadau, i’r graddau y mae’r cyd-destun yn caniatáu ac yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth yn y Rhan hon.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 30(3) wedi eu hamnewid (1.4.2019) gan Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) (Diwygio) 2019 (O.S. 2019/288), rhlau. 1, 2(10)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 30 mewn grym ar 1.3.2016, gweler rhl. 1(2)