Gweithdrefn mewn ymchwiliadLL+C
33.—(1) Y person penodedig sydd i lywyddu mewn unrhyw ymchwiliad, a rhaid iddo benderfynu ar y weithdrefn yn yr ymchwiliad, yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau hyn.
(2) Oni fydd y person penodedig yn penderfynu’n wahanol mewn unrhyw achos penodol, y ceisydd sydd i ddechrau, a chlywir yr awdurdod cynllunio lleol a phersonau eraill ym mha bynnag drefn a bennir gan y person penodedig.
(3) Ar ddechrau’r ymchwiliad, rhaid i’r person penodedig nodi pa faterion y mae’n ofynnol iddo, ym marn y person penodedig, gael sylwadau pellach arnynt yn yr ymchwiliad.
(4) Mae hawl gan y ceisydd, yr awdurdod cynllunio lleol ac unrhyw berson a wahoddwyd i gymryd rhan mewn ymchwiliad i alw tystiolaeth.
(5) Caiff y person penodedig ganiatáu i unrhyw berson arall alw tystiolaeth.
(6) Mae hawl gan y ceisydd a’r awdurdod cynllunio lleol i groesholi personau sy’n rhoi tystiolaeth, yn ddarostyngedig i baragraff (7).
(7) Caiff y person penodedig wrthod caniatáu—
(a)rhoi neu ddangos tystiolaeth;
(b)croesholi personau sy’n rhoi tystiolaeth; neu
(c)cyflwyno unrhyw fater arall,
a ystyrir gan y person penodedig yn amherthnasol neu’n ailadroddus.
(8) Pan fo’r person penodedig yn gwrthod caniatáu rhoi tystiolaeth ar lafar, caiff y person sy’n dymuno rhoi’r dystiolaeth gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r person penodedig cyn cau’r ymchwiliad.
(9) Caiff y person penodedig—
(a)ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson, sy’n cymryd rhan neu sy’n bresennol mewn ymchwiliad, yn ymadael os yw’n ymddwyn mewn modd sydd, ym marn y person penodedig, yn tarfu ar eraill; a
(b)gwrthod caniatáu i’r person hwnnw ddychwelyd; neu
(c)caniatáu i’r person hwnnw ddychwelyd ar y cyfryw amodau, yn unig, a bennir gan y person penodedig,
ond caiff unrhyw berson o’r fath gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r person penodedig cyn cau’r ymchwiliad.
(10) Mae rheoliad 15(2) i (6) yn gymwys i unrhyw dystiolaeth neu sylw ysgrifenedig a gyflwynir i’r person penodedig yn unol â pharagraff (8) neu (9) o’r rheoliad hwn.
(11) Caiff y person penodedig gyfarwyddo bod cyfleusterau i’w rhoi ar gael i unrhyw berson sy’n cymryd rhan mewn ymchwiliad, ar gyfer gwneud neu gael copïau o ddogfennau sydd ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt.
(12) Caiff y person penodedig gymryd i ystyriaeth unrhyw sylw ysgrifenedig neu unrhyw ddogfen arall a gafodd gan unrhyw berson cyn agor yr ymchwiliad neu yn ystod yr ymchwiliad, ar yr amod bod y person penodedig yn datgelu hynny yn yr ymchwiliad.
(13) Caiff y person penodedig wahodd unrhyw berson sy’n cymryd rhan yn yr ymchwiliad i wneud cyflwyniadau cloi.
(14) Rhaid i unrhyw berson sy’n gwneud cyflwyniadau cloi ddarparu copi ysgrifenedig o’r cyflwyniadau cloi hynny i’r person penodedig cyn cau’r ymchwiliad.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 33 mewn grym ar 1.3.2016, gweler rhl. 1(2)