Deisyfiad am wasanaethau cyn-ymgeisio
6.—(1) Rhaid i unrhyw ddeisyfiad am wasanaethau cyn-ymgeisio mewn cysylltiad â chais cymwys fod—
(a)yn ysgrifenedig i’r awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru, ar ffurflen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru (neu ffurflen sydd, o ran sylwedd, yn cael yr un effaith);
(b)yn cynnwys y manylion a bennir neu y cyfeirir atynt yn y ffurflen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru; ac
(c)wedi ei gyflwyno ynghyd ag—
(i)unrhyw blaniau neu luniadau a bennir neu y cyfeirir atynt yn y ffurflen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru; a
(ii)unrhyw ffi benodedig sy’n daladwy am wasanaethau cyn-ymgeisio(1).
(2) Rhaid i unrhyw blaniau neu luniadau y mae’n ofynnol eu darparu yn rhinwedd paragraff (1)(c)(i) fod wedi eu lluniadu ar raddfa a nodir, ac yn achos planiau rhaid iddynt ddangos cyfeiriad y gogledd.
(3) Yn y Rhan hon, ystyr “deisyfiad dilys am wasanaethau cyn-ymgeisio” (“valid request for pre-application services”) yw deisyfiad am wasanaethau cyn-ymgeisio mewn cysylltiad â chais cymwys sy’n cydymffurfio â gofynion y rheoliad hwn.
(4) Pan fo awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru yn cael cais dilys am wasanaethau cyn-ymgeisio, rhaid i’r awdurdod neu Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, anfon cydnabyddiaeth o’r deisyfiad at y ceisydd, gan ddatgan erbyn pa ddyddiad y mae’n rhaid darparu gwasanaethau cyn-ymgeisio o dan reoliad 7(3) neu, yn ôl y digwydd, reoliad 8(3).
Ar gyfer y ffioedd penodedig ac amrywiol sy’n daladwy mewn cysylltiad â gwasanaethau cyn-ymgeisio, gweler Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Ffioedd) (Cymru) 2016 (O.S.2016/57) (Cy. 27).