RHAN 2Cyn-ymgeisio

Dyletswydd i ddarparu gwasanaethau cyn-ymgeisio: awdurdodau cynllunio lleol

7.—(1Pan fo awdurdod cynllunio lleol yn cael deisyfiad dilys am wasanaethau cyn-ymgeisio, rhaid i’r awdurdod ddarparu’r gwasanaethau cyn-ymgeisio a bennir ym mharagraff (2) o fewn y cyfnod a bennir neu y cyfeirir ato ym mharagraff (3).

(2Y gwasanaethau cyn-ymgeisio a bennir yn y paragraff hwn yw darparu i’r ceisydd wybodaeth mewn perthynas â’r canlynol—

(a)hanes cynllunio’r tir y bwriedir cyflawni’r datblygiad arfaethedig arno, i’r graddau y mae’n berthnasol i’r cais arfaethedig;

(b)darpariaethau’r cynllun datblygu, i’r graddau y maent yn faterol berthnasol i’r cais arfaethedig;

(c)unrhyw ganllawiau cynllunio atodol, i’r graddau y maent yn faterol berthnasol i’r cais arfaethedig;

(d)unrhyw ystyriaethau eraill sydd, neu a allai fod yn faterol berthnasol ym marn yr awdurdod;

(e)pa un a yw’n debygol ai peidio y bydd rhwymedigaethau cynllunio (yn yr ystyr a roddir i “planning obligations” gan adran 106 o Ddeddf 1990 (rhwymedigaethau cynllunio)(1)) yn ofynnol, ac os byddant, dylid nodi cwmpas tebygol y cyfryw rwymedigaethau cynllunio, gan gynnwys nodi unrhyw swm y gallai fod yn ofynnol ei dalu i’r awdurdod; ac

(f)unrhyw grwpiau cymunedol lleol perthnasol sy’n hysbys i’r awdurdod, y gallai’r ceisydd ymgynghori â hwy fel rhan o’r ymgynghoriad cyn-ymgeisio.

(3Y cyfnod a bennir yn y paragraff hwn yw—

(a)28 diwrnod sy’n dechrau gyda’r diwrnod y ceir deisyfiad dilys am wasanaethau cyn-ymgeisio, neu pa bynnag gyfnod arall a gytunir mewn ysgrifen rhwng y ceisydd a’r awdurdod; neu

(b)pan fo’r ffi sy’n ofynnol mewn cysylltiad â deisyfiad am wasanaethau cyn-ymgeisio wedi ei thalu â siec, a’r siec honno wedyn yn cael ei dychwelyd heb ei thalu, y cyfnod fel a bennir yn is-baragraff (a) wedi ei gyfrifo gan ddiystyru’r cyfnod rhwng y dyddiad yr anfonodd yr awdurdod hysbysiad ysgrifenedig at y ceisydd ynghylch dychwelyd y siec heb ei thalu a’r dyddiad pan fodlonir yr awdurdod ei fod wedi cael swm llawn y ffi.

(4Rhaid i unrhyw wybodaeth a roddir i’r ceisydd fod mewn ysgrifen.

(1)

Amnewidiwyd adran 106 gan adran 12(1) o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 31) ac fe’i diwygiwyd gan adran 174(2) o Ddeddf Cynllunio 2008 (p. 29) a chan adran 7 o Ddeddf Twf a Seilwaith 2013 (p. 27) a pharagraff 3 o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno.