- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
8. Rhaid darllen rheoliad 28 (fel y’i cymhwysir i ymchwiliadau gan reoliad 30(3)) fel a ganlyn—
(a)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—
“(2A) Pan ystyriwyd tystiolaeth gaeedig yn yr ymchwiliad—
(a)rhaid i’r person penodedig a’r asesydd, pan fo un wedi ei benodi, nodi mewn rhan ar wahân o’u hadroddiadau (“y rhan gaeedig”) unrhyw ddisgrifiad o’r dystiolaeth honno ynghyd ag unrhyw gasgliadau neu argymhellion mewn perthynas â’r dystiolaeth honno; a
(b)pan fo asesydd wedi ei benodi, rhaid i’r person penodedig atodi’r rhan gaeedig o adroddiad yr asesydd wrth ran gaeedig adroddiad y person penodedig, a rhaid iddo ddatgan, yn rhan gaeedig yr adroddiad hwnnw, y lefel o gytundeb neu anghytundeb â rhan gaeedig adroddiad yr asesydd, a phan fo anghytundeb â’r asesydd, y rhesymau am yr anghytundeb hwnnw.”;
(b)ym mharagraff (4) ar ôl “Mae paragraff (5) yn gymwys” mewnosoder “ac yn ddarostyngedig i baragraff (5A)”;
(c)ar ôl paragraff (5) mewnosoder—
“(5A) Pan fo Gweinidogion Cymru yn cymryd safbwynt gwahanol i’r person penodedig ar unrhyw fater o ffaith, a grybwyllir mewn casgliad a gyrhaeddir gan y person penodedig, neu sy’n ymddangos i Weinidogion Cymru yn faterol berthnasol i’r casgliad hwnnw, mewn perthynas â mater y rhoddwyd tystiolaeth gaeedig yn ei gylch, rhaid i’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (5) gynnwys y rhesymau pam y mae Gweinidogion Cymru yn anghytuno, oni bai—
(a)bod yr hysbysiad wedi ei gyfeirio at berson nad yw’n gynrychiolydd penodedig nac yn unrhyw berson a bennir, nac o ddisgrifiad a bennir yn y cyfarwyddyd diogelwch; a
(b)byddai cynnwys y rhesymau yn datgelu unrhyw ran o’r dystiolaeth gaeedig.”;
(d)ym mharagraff (8) ar ôl “ceisydd” mewnosoder “, y cynrychiolydd penodedig,”.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: