ATODLEN 4LL+CCaniatâd adeilad rhestredig

RHAN 1LL+CAddasu deddfwriaeth sylfaenol

1.—(1Mae Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990(1) (“y Ddeddf Adeiladau Rhestredig”) (“the Listed Buildings Act”) yn gymwys gyda’r addasiadau canlynol.LL+C

(2Rhaid darllen adran 10 (gwneud ceisiadau am ganiatâd adeilad rhestredig) fel a ganlyn—

(a)yn lle is-adran (1) rhodder “An application for listed building consent must be made to and dealt with by the Welsh Ministers”;

(b)yn is-adran (2)(c) yn lle “the authority” rhodder “the Welsh Ministers”.

(3Rhaid darllen adran 62 (dilysrwydd gorchmynion a phenderfyniadau penodol) fel a ganlyn—

(a)yn is-adran (2), ar ôl paragraff (a), mewnosoder y canlynol—

(aza)any decision on an application for listed building consent where that decision is made by the Welsh Ministers by virtue of section 62F(2) of the principal Act.;

(b)yn is-adrannau (1) a (3) rhodder “the Welsh Ministers” yn lle “the Secretary of State” mewn perthynas â phenderfyniadau sydd o fewn is-adran (2)(aza).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 1.3.2016, gweler rhl. 1(2)