ATODLEN 5LL+CDymchwel mewn ardaloedd cadwraeth

RHAN 2LL+CAddasu is-ddeddfwriaeth

2.—(1Mae Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012(1), mewn perthynas â rhoi caniatâd o dan adran 74(2) o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, yn gymwys yn ddarostyngedig i’r addasiadau canlynol.LL+C

(2Rhaid darllen rheoliad 3 (ceisiadau am ganiatâd adeilad rhestredig neu ganiatâd ardal gadwraeth) fel a ganlyn—

(a)ym mharagraff (1)(a) yn lle “i awdurdod cynllunio lleol” rhodder “i Weinidogion Cymru”;

(b)ym mharagraff (1)(c)(ii) a (iii) yn lle “fod yr awdurdod cynllunio lleol” rhodder “fod Gweinidogion Cymru”.

(c)hepgorer paragraff (3) a Rhan 1 o Atodlen 1;

(d)ym mharagraff (4) yn lle “awdurdod cynllunio lleol” rhodder “Gweinidogion Cymru” ac yn lle “iddo”, yn y ddau fan lle mae’n digwydd, rhodder “iddynt”;

(e)yn lle paragraff (5) rhodder—

(5) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi cael cais dilys o dan baragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad o’u penderfyniad i’r ceisydd cyn diwedd y cyfnod penderfynu fel y’i disgrifir yn adran 62L o’r brif Ddeddf. ;

(f)ym mharagraff (6) hepgorer “neu hysbysiad o gyfeirio at Weinidogion Cymru”; yn lle “awdurdod cynllunio lleol yn penderfynu rhoi caniatâd adeilad rhestredig neu ganiatâd” rhodder “Gweinidogion Cymru yn penderfynu rhoi caniatâd”; ac yn lle “neu eu gwrthod” rhodder “neu ei wrthod”;

(g)hepgorer paragraff (7).

(3Rhaid darllen rheoliad 6(1) fel pe rhoddid “unrhyw gais am ganiatâd ardal gadwraeth pan fo’r penderfyniad ar y caniatâd hwnnw i gael ei wneud gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 62F o’r brif Ddeddf” yn lle “unrhyw gais i awdurdod cynllunio lleol am ganiatâd adeilad rhestredig”.

(4Rhaid darllen rheoliad 7 (tystysgrif sydd i ddod gyda cheisiadau ac apelau) fel a ganlyn—

(a)ym mharagraff (1) yn lle “awdurdod cynllunio lleol” rhodder “Weinidogion Cymru” a hepgorer “neu 4”;

(b)ym mharagraff (3)—

(i)hepgorer “neu 4”;

(ii)yn lle “yr awdurdod cynllunio lleol” rhodder “Gweinidogion Cymru”;

(iii)yn lle is-baragraff (a) rhodder—

(a)rhaid iddynt benderfynu’r cais cyn diwedd y cyfnod penderfynu fel y darperir ar ei gyfer yn adran 62L o’r brif Ddeddf;

(iv)yn lle is-baragraff (b) rhodder—

(b)wrth benderfynu’r cais rhaid iddynt gymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau sy’n ymwneud ag ef a wneir iddynt cyn diwedd y cyfnod sylwadau y darperir ar ei gyfer yn erthygl 4 o Orchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016 gan unrhyw berson sy’n bodloni Gweinidogion Cymru fod y person yn berchennog ar yr adeilad neu unrhyw ran ohono;.

(5Nid yw rheoliadau 8 (defnyddio cyfathrebiadau electronig) a 9 (ceisiadau gan awdurdodau cynllunio lleol) yn gymwys.

(6Rhaid darllen rheoliad 10 (hysbysebu ceisiadau) gydag addasiadau fel a ganlyn —

(a)hepgorer paragraff (1); a

(b)yn lle paragraff (2) rhodder—

Yr amser a ganiateir i Weinidogion Cymru roi hysbysiad i’r ceisydd o’u penderfyniad yw’r cyfnod penderfynu, fel y’i disgrifir yn adran 62L o’r brif Ddeddf.

(7Nid yw rheoliadau 11 (hysbyseb am geisiadau am waith brys mewn perthynas â datblygiad gan y Goron), 12 (apelau) a 12A (apêl wedi ei wneud: swyddogaethau’r awdurdod cynllunio lleol) yn gymwys.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 5 para. 2 mewn grym ar 1.3.2016, gweler rhl. 1(2)