ATODLEN 5Dymchwel mewn ardaloedd cadwraeth

Rheoliad 45

RHAN 1Addasu deddfwriaeth sylfaenol

I11

Rhaid darllen adran 74(2) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (“y Ddeddf Adeiladau Rhestredig”) (rheolaeth ar ddymchwel mewn ardaloedd cadwraeth) fel pe bai “and” wedi ei hepgor o baragraff (a) a’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl y paragraff hwnnw—

aa

in relation to applications where the decision on the consent is to be made by the Welsh Ministers by virtue of section 62F(2) of the principal Act (developments of national significance: meaning of secondary consents), the Welsh Ministers; and

Annotations:
Commencement Information
I1

Atod. 5 para. 1 mewn grym ar 1.3.2016, gweler rhl. 1(2)

RHAN 2Addasu is-ddeddfwriaeth

I22

1

Mae Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 201244, mewn perthynas â rhoi caniatâd o dan adran 74(2) o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, yn gymwys yn ddarostyngedig i’r addasiadau canlynol.

2

Rhaid darllen rheoliad 3 (ceisiadau am ganiatâd adeilad rhestredig neu ganiatâd ardal gadwraeth) fel a ganlyn—

a

ym mharagraff (1)(a) yn lle “i awdurdod cynllunio lleol” rhodder “i Weinidogion Cymru”;

b

ym mharagraff (1)(c)(ii) a (iii) yn lle “fod yr awdurdod cynllunio lleol” rhodder “fod Gweinidogion Cymru”.

c

hepgorer paragraff (3) a Rhan 1 o Atodlen 1;

d

ym mharagraff (4) yn lle “awdurdod cynllunio lleol” rhodder “Gweinidogion Cymru” ac yn lle “iddo”, yn y ddau fan lle mae’n digwydd, rhodder “iddynt”;

e

yn lle paragraff (5) rhodder—

5

Pan fo Gweinidogion Cymru wedi cael cais dilys o dan baragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad o’u penderfyniad i’r ceisydd cyn diwedd y cyfnod penderfynu fel y’i disgrifir yn adran 62L o’r brif Ddeddf.

f

ym mharagraff (6) hepgorer “neu hysbysiad o gyfeirio at Weinidogion Cymru”; yn lle “awdurdod cynllunio lleol yn penderfynu rhoi caniatâd adeilad rhestredig neu ganiatâd” rhodder “Gweinidogion Cymru yn penderfynu rhoi caniatâd”; ac yn lle “neu eu gwrthod” rhodder “neu ei wrthod”;

g

hepgorer paragraff (7).

3

Rhaid darllen rheoliad 6(1) fel pe rhoddid “unrhyw gais am ganiatâd ardal gadwraeth pan fo’r penderfyniad ar y caniatâd hwnnw i gael ei wneud gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 62F o’r brif Ddeddf” yn lle “unrhyw gais i awdurdod cynllunio lleol am ganiatâd adeilad rhestredig”.

4

Rhaid darllen rheoliad 7 (tystysgrif sydd i ddod gyda cheisiadau ac apelau) fel a ganlyn—

a

ym mharagraff (1) yn lle “awdurdod cynllunio lleol” rhodder “Weinidogion Cymru” a hepgorer “neu 4”;

b

ym mharagraff (3)—

i

hepgorer “neu 4”;

ii

yn lle “yr awdurdod cynllunio lleol” rhodder “Gweinidogion Cymru”;

iii

yn lle is-baragraff (a) rhodder—

a

rhaid iddynt benderfynu’r cais cyn diwedd y cyfnod penderfynu fel y darperir ar ei gyfer yn adran 62L o’r brif Ddeddf

iv

yn lle is-baragraff (b) rhodder—

b

wrth benderfynu’r cais rhaid iddynt gymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau sy’n ymwneud ag ef a wneir iddynt cyn diwedd y cyfnod sylwadau y darperir ar ei gyfer yn erthygl 4 o Orchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016 gan unrhyw berson sy’n bodloni Gweinidogion Cymru fod y person yn berchennog ar yr adeilad neu unrhyw ran ohono;

5

Nid yw rheoliadau 8 (defnyddio cyfathrebiadau electronig) a 9 (ceisiadau gan awdurdodau cynllunio lleol) yn gymwys.

6

Rhaid darllen rheoliad 10 (hysbysebu ceisiadau) gydag addasiadau fel a ganlyn —

a

hepgorer paragraff (1); a

b

yn lle paragraff (2) rhodder—

Yr amser a ganiateir i Weinidogion Cymru roi hysbysiad i’r ceisydd o’u penderfyniad yw’r cyfnod penderfynu, fel y’i disgrifir yn adran 62L o’r brif Ddeddf

7

Nid yw rheoliadau 11 (hysbyseb am geisiadau am waith brys mewn perthynas â datblygiad gan y Goron), 12 (apelau) a 12A (apêl wedi ei wneud: swyddogaethau’r awdurdod cynllunio lleol) yn gymwys.

Annotations:
Commencement Information
I2

Atod. 5 para. 2 mewn grym ar 1.3.2016, gweler rhl. 1(2)

I33

1

Mae Gorchymyn 2016 yn gymwys gyda’r addasiadau a ganlyn.

2

Rhaid darllen erthygl 15 (derbyn ceisiadau) fel pe bai’r cais, yn achos caniatâd o dan adran 74 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig yn dod gyda’r eitemau hynny a restrir yn rheoliad 3(1) a (2) o Reoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012.

3

Nid yw erthygl 18 (cyhoeddusrwydd i geisiadau am ganiatâd cynllunio: Gweinidogion Cymru) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gais am—

a

caniatâd adeilad rhestredig i wneud gwaith sy’n effeithio yn unig ar du mewn adeilad a ddosbarthwyd fel adeilad rhestredig Gradd II (di-seren) pan hysbyswyd yr awdurdod cynllunio lleol yn ei gylch ddiwethaf gan Weinidogion Cymru, fel adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig; neu

b

amrywio neu ryddhau o amodau a osodwyd ar ganiatâd adeilad rhestredig mewn cysylltiad â thu mewn adeilad rhestredig Gradd II (di-seren) o’r fath.