1.—(1) Mae Deddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 (“y Ddeddf Sylweddau Peryglus”) yn gymwys gyda’r addasiadau canlynol.
(2) Rhaid darllen adran 9 (penderfynu ceisiadau am gydsyniad sylweddau peryglus) ac adran 10 (pŵer i osod amodau wrth roi cydsyniad sylweddau peryglus) fel pe bai cyfeiriadau at “the hazardous substances authority” yn gyfeiriadau at “the Welsh Ministers”.