ATODLEN 6LL+CCydsyniad sylweddau peryglus

RHAN 2LL+CAddasu is-ddeddfwriaeth

2.—(1Mae Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015(1), mewn perthynas â rhoi cydsyniad o dan adrannau 4(1), 13 a 17 o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus, yn gymwys yn ddarostyngedig i’r addasiadau canlynol.LL+C

(2Rhaid darllen rheoliad 5(1)(a) fel pe rhoddid “i Weinidogion Cymru” yn lle “i’r awdurdod sylweddau peryglus”.

(3Rhaid darllen rheoliad 6 (cyhoeddi hysbysiadau o geisiadau) fel pe rhoddid “i Weinidogion Cymru” yn lle “i’r awdurdod sylweddau peryglus” ym mhob man lle mae’n digwydd, a “Gweinidogion Cymru” yn lle “yr awdurdod sylweddau peryglus” yn y ddau fan lle mae’n digwydd.

(4Rhaid darllen rheoliad 7(1) fel pe rhoddid “Gweinidogion Cymru” yn lle “awdurdod sylweddau peryglus”.

(5Rhaid darllen rheoliad 8 (edrych ar geisiadau) fel pe rhoddid yn ei le y canlynol—

Ar ôl cael cais o dan reoliad 5, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod copi o’r cais ar gael i edrych arno yn swyddfeydd y person perthnasol yn ystod y cyfnod a ganiateir ar gyfer gwneud sylwadau yn unol â rheoliad 6(1).

(6Rhaid darllen rheoliad 9 (ceisiadau yn dod i law awdurdod sylweddau peryglus) fel pe rhoddid “Gweinidogion Cymru” yn lle “awdurdod sylweddau peryglus” ym mhob man lle mae’n digwydd.

(7Rhaid darllen rheoliad 10 (ymgynghori cyn rhoi cydsyniad sylweddau peryglus) fel a ganlyn—

(a)ym mharagraff (1) yn lle “hysbysu’r awdurdod sylweddau peryglus” rhodder “hysbysu Gweinidogion Cymru” ac yn lle “i’r awdurdod” rhodder “i Weinidogion Cymru”;

(b)yn lle paragraff (1)(b) rhodder “y person perthnasol;”;

(c)yn lle paragraff (1)(j) rhodder “pan fo’n ymddangos i Weinidogion Cymru y gellid effeithio ar dir yn ardal unrhyw gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol ac eithrio’r person perthnasol, y cyngor hwnnw;”;

(d)ym mharagraff (1)(m) hepgorer “, os nad yr awdurdod hwnnw yw’r awdurdod sylweddau peryglus hefyd”;

(e)ym mharagraffau (2) a (3) yn lle “awdurdod sylweddau peryglus” ac “yr awdurdod” rhodder “Gweinidogion Cymru”;

(f)ym mharagraff (4) yn lle “i awdurdod sylweddau peryglus” ac “i’r awdurdod” rhodder “i Weinidogion Cymru”.

(8Rhaid darllen rheoliad 11 (penderfynu ceisiadau am gydsyniad sylweddau peryglus) fel a ganlyn—

(a)ym mharagraff (1) yn lle “awdurdod sylweddau peryglus” rhodder “Gweinidogion Cymru” ac mae’r cyfeiriadau at reoliadau 6(1) a 10(3) yn gyfeiriadau at y rheoliadau hynny fel y’u haddaswyd gan is-baragraffau (3) a (7) uchod;

(b)ym mharagraff (2) yn lle “i’r awdurdod sylweddau peryglus” rhodder “i Weinidogion Cymru”;

(c)yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) Rhaid i Weinidogion Cymru roi i’r ceisydd hysbysiad ysgrifenedig o’u penderfyniad o fewn y cyfnod penderfynu fel y’i disgrifir yn adran 62L o Ddeddf 1990.;

(d)hepgorer paragraff (4);

(e)ym mharagraff (5) yn lle “awdurdod sylweddau peryglus” rhodder “Gweinidogion Cymru” a hepgorer paragraff (5)(b) a’r gair “a” sy’n ei ragflaenu;

(f)ym mharagraff (6), yn lle “i’r awdurdod sylweddau peryglus” rhodder “i Weinidogion Cymru” ac yn lle is-baragraff (c) rhodder—

(c)y person perthnasol dan sylw;

(g)ym mharagraff (7) yn lle “Rhaid i’r awdurdod sylweddau peryglus” rhodder “Rhaid i Weinidogion Cymru”.

(9Rhaid darllen rheoliad 22 (y gofrestr cydsyniadau) fel pe mewnosodwyd y canlynol ar ôl paragraff (2)—

(2A) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r awdurdod sylweddau peryglus ynghylch yr holl faterion mewn perthynas â chydsyniad eilaidd y mae’n rhaid eu cynnwys yn y gofrestr.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 6 para. 2 mewn grym ar 1.3.2016, gweler rhl. 1(2)

3.  Rhaid darllen rheoliadau 15 i 33 o’r Rheoliadau hyn, wrth eu cymhwyso i roi cydsyniad o dan adrannau 4(1), 13 a 17 o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus, fel pe rhoddid “awdurdod sylweddau peryglus” yn lle “awdurdod cynllunio lleol” ym mhob man lle mae’n ymddangos.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 6 para. 3 mewn grym ar 1.3.2016, gweler rhl. 1(2)