ATODLEN 9Dadgofrestru a chyfnewid tir comin

Rheoliad 49

Addasu is-ddeddfwriaeth

1.

(1)

Mae Rheoliadau Dadgofrestru a Chyfnewid Tir Comin a Meysydd Tref neu Bentref (Gweithdrefn) (Cymru) 201252 mewn perthynas â chydsyniad a geisir o dan adran 16(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006, yn gymwys gyda’r addasiadau a ganlyn.

(2)

Rhaid darllen y diffiniad o “arolygydd” (“inspector”) yn rheoliad 2(2) fel pe bai is-baragraff (b) a’r gair “neu” sy’n ei ragflaenu wedi eu hepgor.

(3)

Nid yw rheoliadau 4 i 9 yn gymwys.

(4)

Rhaid darllen rheoliad 10(1) fel pe rhoddid “at Weinidogion Cymru cyn diwedd y cyfnod sylwadau” yn lle “at yr awdurdod sy’n penderfynu erbyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o gais”.

(5)

Nid yw rheoliad 10(3) i (6) yn gymwys.

(6)

Nid yw rheoliadau 11 i 18 yn gymwys.

Annotations:
Commencement Information

I1Atod. 9 para. 1 mewn grym ar 1.3.2016, gweler rhl. 1(2)

2.

(1)

Mae Gorchymyn 2016 yn gymwys gyda’r addasiadau canlynol.

(2)

Rhaid darllen erthygl 2 (dehongli) fel pe bai’r canlynol wedi eu mewnosod yn y mannau priodol—

“ystyr “cofrestr” (“register”) yw cofrestr o dir comin neu gofrestr o feysydd tref neu bentref;”;

“mae i “tir a ryddheir” yr ystyr a roddir i “release land” yn adran 16(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006;” ac

“mae i “tir cyfnewid” yr ystyr a roddir i “replacement land” yn adran 16(3) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006;”.

(3)

Rhaid darllen erthygl 12 (ceisiadau: gofynion cyffredinol) fel pe bai rhaid i’r cais ddod gydag—

(a)

map Ordnans, ar raddfa nad yw’n llai nag 1: 2,500 os oes un ar gael, a dim llai beth bynnag nag 1:10,000, sy’n dangos—

(i)

ffin y tir a ryddheir wedi ei marcio â lliw coch;

(ii)

os yw’r tir a ryddheir yn rhan o’r tir mewn uned gofrestr fwy, ffin y tir yn yr uned gofrestr honno wedi ei marcio â lliw gwyrdd tywyll; a

(iii)

ffin unrhyw dir cyfnewid wedi ei marcio mewn lliw gwyrdd golau; a

(b)

copi o’r cofnod yn y gofrestr sy’n ymwneud â’r tir a ryddheir neu’r tir sy’n cynnwys y tir a ryddheir.

(4)

Rhaid darllen erthygl 18 (cyhoeddusrwydd i geisiadau am ganiatâd cynllunio: Gweinidogion Cymru) fel pe bai’r hysbysiad gofynnol yn cynnwys—

(a)

enw’r ceisydd;

(b)

enw’r tir comin neu’r maes tref neu bentref yr effeithir arno gan y cynnig;

(c)

lleoliad y tir a ryddheir a’i arwynebedd mewn metrau sgwâr;

(d)

pa un ai yw’r cais yn cynnwys cynnig ai peidio i gofrestru tir fel tir cyfnewid, ac os felly, lleoliad y tir cyfnewid a’i arwynebedd mewn metrau sgwâr;

(e)

datganiad byr o’r rheswm dros wneud y cais.

(5)

Rhaid darllen erthygl 18(2)(b) fel pe bai rhaid anfon yr hysbysiad gofynnol at—

(a)

unrhyw berson (ac eithrio’r ceisydd) sy’n meddiannu’r tir a ryddheir;

(b)

meddiannydd unrhyw eiddo a ddangosir yn y gofrestr fel eiddo y mae hawliau comin ar y tir a ryddheir yn gysylltiedig ag ef, ac y cred y ceisydd fod y meddiannydd yn arfer yr hawliau hynny, neu fod y cais yn debygol o effeithio arno;

(c)

unrhyw berson arall y gŵyr y ceisydd fod hawl ganddo i arfer hawliau comin ar y tir a ryddheir ac y cred y ceisydd ei fod yn arfer yr hawliau hynny, neu fod y cais yn debygol o effeithio arno; a

(d)

y cyngor neu’r cynghorau cymuned (os oes un) ar gyfer yr ardal y lleolir ynddi neu ynddynt y tir a ryddheir a’r tir cyfnewid.

(6)

Rhaid darllen erthygl 18(3) fel pe bai rhaid i’r wybodaeth sydd i’w chyhoeddi ar wefan a gynhelir gan Weinidogion Cymru gynnwys y materion a restrir yn is-baragraff (4)(a) i (e).

(7)

Rhaid darllen erthygl 19(2) fel pe rhoddid yn ei lle y canlynol:

“(2)

Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol roi hysbysiad drwy arddangos ar y safle, mewn ffurf a gyflenwir i’r awdurdod gan Weinidogion Cymru, am ddim llai na 21 diwrnod yn y prif fannau mynediad i’r canlynol (neu, os nad oes lleoedd o’r fath, mewn man amlwg ar ffin)—

(i)

y tir a ryddheir; a

(ii)

y tir cyfnewid (os oes tir cyfnewid).”

(8)

Rhaid darllen erthygl 29 (hysbysiad ysgrifenedig o benderfyniad mewn perthynas â chais) fel pe bai rhaid hefyd i Weinidogion Cymru—

(a)

anfon eu gorchymyn o dan adran 17 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 at yr awdurdod cofrestru tiroedd comin ar gyfer yr ardal y lleolir ynddi’r tir a ryddheir a’r tir cyfnewid (os oes tir cyfnewid); a

(b)

anfon copi o’r gorchymyn at y ceisydd.

Annotations:
Commencement Information

I2Atod. 9 para. 2 mewn grym ar 1.3.2016, gweler rhl. 1(2)

3.

(1)

Mae darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn mewn perthynas â chydsyniad a geisir o dan adran 16(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006, yn gymwys gyda’r addasiadau canlynol.

(2)

Rhaid darllen rheoliad 2 (dehongli)—

(a)

fel pe bai cyfeiriad at “person penodedig” (“appointed person”) yn gyfeiriad at y person a benodir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 3 o Reoliadau Dadgofrestru a Chyfnewid Tir Comin a Meysydd Tref neu Bentref (Gweithdrefn) (Cymru) 2012 i arfer pob un neu unrhyw rai o’u swyddogaethau o dan adran 16 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 yn gyffredinol neu mewn perthynas â’r cais;

(b)

fel pe bai’r canlynol wedi eu mewnosod yn y mannau priodol—

“mae i “tir a ryddheir” yr ystyr a roddir i “release land” yn adran 16(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006;”; ac

“mae i “tir cyfnewid” yr ystyr a roddir i “replacement land” yn adran 16(3) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006;”.

(3)

Rhaid darllen rheoliad 16(1) (arolygiadau safle) fel pe rhoddid “tir a ryddheir ac unrhyw dir cyfnewid” yn lle “tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef”.

(4)

At ddiben rheoliad 22 (hysbysiad cyhoeddus o’r gwrandawiad) rhaid i’r hysbysiad a arddangosir neu a gyhoeddir yn unol â pharagraffau (1) a (2) o’r rheoliad hwnnw gynnwys—

(a)

lleoliad y tir a ryddheir; a

(b)

datganiad a gynigir ai peidio cofrestru unrhyw dir fel tir cyfnewid, ac os felly, lleoliad y tir cyfnewid.