xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Ffi am i Weinidogion Cymru benderfynu cais

12.—(1Rhaid talu ffi i Weinidogion Cymru am benderfynu cais (“ffi benderfynu”) (“determination fee”).

(2Y ffi benderfynu yw swm cyfanredol y canlynol—

(a)ffi benodedig; a

(b)unrhyw gostau ychwanegol a dynnir mewn gwirionedd gan neu ar ran Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad â phenderfynu’r cais.

(3Y ffi benodedig yw’r swm a nodir yn y rhes berthnasol o golofn 3.

(4Mae’r costau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(b) yn cynnwys—

(a)unrhyw gostau cyfreithiol neu alldaliadau rhesymol eraill a dynnir neu a delir gan neu ar ran Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad â phenderfynu’r cais; a

(b)costau a dynnir wrth adolygu ac ystyried rhwymedigaethau cynllunio(1).

(5Caiff Gweinidogion Cymru anfonebu’r ceisydd am y ffi benodedig ar unrhyw adeg ar ôl cael adroddiad y person penodedig, a fesul ysbaid resymol mewn cysylltiad ag unrhyw gostau ychwanegol a dynnir mewn gwirionedd mewn cysylltiad â phenderfynu’r cais.

(6Rhaid i unrhyw ffi sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn gyrraedd Gweinidogion Cymru o fewn y cyfnod o 21 diwrnod sy’n dechrau gyda’r dyddiad yr anfonir yr anfoneb berthnasol oddi wrth Weinidogion Cymru.

(7Os bydd y ceisydd yn methu â thalu unrhyw ffi sy’n ddyladwy o dan y rheoliad hwn o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (6), ni fydd rhaid i Weinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â’r cais hyd nes bydd Gweinidogion Cymru wedi cael y taliad.

(8Os bydd y ceisydd yn methu â thalu unrhyw ffi sy’n ddyladwy o dan y rheoliad hwn o fewn y cyfnod o 12 wythnos sy’n dechrau ar ddiwedd y cyfnod a bennir ym mharagraff (6), ni fydd rhaid i Weinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â’r cais ac ystyrir bod y cais wedi ei dynnu’n ôl.

(9Bydd ffi benderfynu yn parhau’n daladwy hyd yn oed os tynnir y cais yn ôl cyn i’r cais gael ei benderfynu gan Weinidogion Cymru.

(10Yn y rheoliad hwn, mae “penderfynu cais” (“determining an application”) yn cynnwys penderfynu unrhyw gydsyniadau eilaidd sy’n gysylltiedig â’r cais pan fo’r penderfyniad ar y cydsyniadau hynny i gael ei wneud gan Weinidogion Cymru.

(1)

Ar gyfer “planning obligations” gweler adran 106 o Ddeddf 1990. Amnewidiwyd adran 106 gan adran 12(1) o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991(p 3) a diwygiwyd hi gan adran 174(2) o Ddeddf Cynllunio 2008 (p. 29). Nid yw diwygiadau eraill yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.