2016 Rhif 58 (Cy. 28)

Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2016

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym 1 Mawrth 2016 ac eithrio rheoliad 38, Atodlen 5 ac Atodlen 9, paragraff 8(3) sy'n dod i rym yn unol â rheoliad 1

Mae Gweinidogion Cymru gan eu bod wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19721 mewn perthynas â’r gofyniad i asesu’r effaith ar yr amgylchedd y mae prosiectau sy’n debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd yn ei chael, i’r graddau y mae a wnelo â chynllunio gwlad a thref2, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno, adran 71A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 19903, ac wedi ystyried y meini prawf dethol yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2011/92/EU4 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar asesu effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd5, fel y’i mabwysiadwyd ar 13 Rhagfyr 2011, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.