RHAN 11Ceisiadau ROMP
Cymhwysiad cyffredinol y Rheoliadau i geisiadau ROMP52
1
Yn y rheoliad hwn ac yn Atodlen 7—
ystyr “awdurdod cynllunio mwynau perthnasol” (“relevant mineral planning authority”) yw’r corff sy’n gyfrifol, oedd yn gyfrifol neu a fyddai’n gyfrifol, oni bai am gyfarwyddyd o dan—
- a
paragraff 7 o Atodlen 2 i Ddeddf 1991;
- b
paragraff 13 o Atodlen 13 i Ddeddf 1995; neu
- c
paragraff 8 o Atodlen 14 i Ddeddf 1995,
- a
am benderfynu ar y cais ROMP dan sylw;
ystyr “cais dilynol ROMP” (“ROMP subsequent application”) yw cais am gymeradwyo mater—
- a
pan fo’r gymeradwyaeth yn ofynnol gan neu o dan amod y mae caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig iddo ar ôl penderfynu ar gais ROMP; a
- b
pan fo rhaid cael y gymeradwyaeth cyn y caniateir dechrau ar neu barhau â’r datblygiad mwynau cyfan neu ran o’r datblygiad mwynau a ganiateir gan y caniatâd cynllunio;
ystyr “cais ROMP” (“ROMP application”) yw cais i awdurdod cynllunio mwynau perthnasol i benderfynu ar yr amodau y bydd caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig iddynt o dan—
- a
paragraff 2(2) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991 (cofrestru hen ganiatadau mwyngloddio);
- b
paragraff 9(1) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 (adolygu hen ganiatadau cynllunio mwynau); neu
- c
paragraff 6(1) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 (adolygiad cyfnodol o ganiatadau cynllunio mwynau)33;
- a
ystyr “caniatâd dilynol ROMP” (“ROMP subsequent consent”) yw caniatâd a roddir yn unol â chais dilynol ROMP;
ystyr “datblygiad ROMP” (“ROMP development”) yw datblygiad nad yw wedi digwydd eto ac sydd wedi ei awdurdodi gan ganiatâd cynllunio y mae cais ROMP wedi neu yn mynd i gael ei wneud ar ei gyfer;
ystyr “ROMP” (“ROMP”) yw adolygiad o hen ganiatâd mwynau.
2
Yn ddarostyngedig i baragraff (2) a’r addasiadau a’r ychwanegiadau a nodir yn Atodlen 7, mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i—
a
cais ROMP fel y maent yn gymwys i gais am ganiatâd cynllunio;
b
cais dilynol ROMP fel y maent yn gymwys i gais dilynol;
c
datblygiad ROMP fel y maent yn gymwys i ddatblygiad y mae cais am ganiatâd cynllunio yn, wedi neu yn mynd i gael ei wneud ar ei gyfer;
d
awdurdod cynllunio mwynau perthnasol fel y maent yn gymwys i awdurdod cynllunio perthnasol;
e
person sy’n gwneud cais ROMP fel y maent yn gymwys i geisydd am ganiatâd cynllunio;
f
person sy’n gwneud cais dilynol ROMP fel y maent yn gymwys i berson sy’n gwneud cais dilynol;
g
penderfyniad ar gais ROMP fel y maent yn gymwys i roi caniatâd cynllunio; a
h
rhoi caniatâd dilynol ROMP fel y maent yn gymwys i roi caniatâd dilynol.
3
Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i—
a
unrhyw gais ROMP amhenderfynedig y mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Adolygiadau Amhenderfynedig o Hen Ganiatadau Mwynau) (Cymru) 200934 yn gymwys iddo;
b
unrhyw apêl mewn perthynas â chais o’r fath.