RHAN 12Datblygiad ag Effeithiau Trawsffiniol Sylweddol
Datblygiad yng Nghymru sy’n debygol o gael effeithiau sylweddol mewn Gwladwriaeth AEE arall53
1
Pan—
a
y daw i sylw Gweinidogion Cymru bod datblygiad y bwriedir ei gynnal yng Nghymru yn destun cais AEA ac yn debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd mewn Gwladwriaeth AEE arall; neu
b
bod Gwladwriaeth AEE arall sy’n debygol o gael ei heffeithio’n sylweddol gan ddatblygiad o’r fath yn gofyn iddynt,
rhaid i Weinidogion Cymru—
i
anfon y manylion a grybwyllwyd ym mharagraff (2) ac, os yn berthnasol, yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (3) i’r Wladwriaeth AEE cyn gynted ag y bo modd a dim hwyrach na’r dyddiad cyhoeddi yn The London Gazette y cyfeirir ato ym mharagraff (ii) isod;
ii
cyhoeddi’r wybodaeth ym mharagraff (i) uchod mewn hysbysiad a roddir yn The London Gazette yn dangos y cyfeiriad lle mae gwybodaeth ychwanegol ar gael; a
iii
rhoi amser rhesymol i’r Wladwriaeth AEE ddynodi a yw’n dymuno cymryd rhan yn y weithdrefn y mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar ei chyfer.
2
Y manylion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b)(i) yw—
a
disgrifiad o’r datblygiad ynghyd ag unrhyw wybodaeth sydd ar gael ar ei effaith sylweddol bosibl ar yr amgylchedd mewn Aelod-wladwriaeth arall; a
b
gwybodaeth ar natur y penderfyniad y caniateir ei wneud.
3
Pan fo Gwladwriaeth AEE yn dynodi, yn unol â pharagraff (1)(b)(iii), ei bod yn dymuno cymryd rhan yn y weithdrefn y mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar ei chyfer, rhaid i Weinidogion Cymru anfon y canlynol i’r Wladwriaeth AEE honno cyn gynted ag y bo modd—
a
copi o’r cais dan sylw;
b
copi o unrhyw ganiatâd cynllunio sy’n ymwneud â’r datblygiad;
c
copi o unrhyw ddatganiad amgylcheddol mewn cysylltiad â’r datblygiad; a
d
gwybodaeth berthnasol ynglŷn â’r weithdrefn o dan y Rheoliadau hyn,
ond dim ond i’r graddau nad yw gwybodaeth o’r fath wedi ei darparu i’r Wladwriaeth AEE yn gynharach yn unol â pharagraff (1)(b)(i).
4
Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd—
a
trefnu bod y manylion a’r wybodaeth y cyfeirir atynt ym mharagraffau (2) a (3) ac unrhyw wybodaeth bellach ac unrhyw wybodaeth arall ar gael, o fewn amser rhesymol, i’r awdurdodau y cyfeirir atynt yn Erthygl 6(1) o’r Gyfarwyddeb a’r cyhoedd dan sylw yn nhiriogaeth y Wladwriaeth AEE sy’n debygol o gael ei heffeithio’n sylweddol; a
b
sicrhau bod yr awdurdodau hynny a’r cyhoedd dan sylw yn cael cyfle i anfon ymlaen eu barn ar yr wybodaeth a ddarperir at Weinidogion Cymru, o fewn cyfnod rhesymol o amser, cyn y rhoddir caniatâd cynllunio i’r datblygiad.
5
Rhaid i Weinidogion Cymru, yn unol ag Erthygl 7(4) o’r Gyfarwyddeb—
a
cynnal ymgynghoriadau gyda’r Wladwriaeth AEE dan sylw ynghylch, ymysg pethau eraill, effeithiau sylweddol posibl y datblygiad ar amgylchedd y Wladwriaeth AEE honno a’r mesurau a ragwelir ar gyfer lleihau neu ddileu effeithiau o’r fath; a
b
penderfynu ar y cyd â’r Wladwriaeth AEE arall ar gyfnod rhesymol o amser ar gyfer hyd y cyfnod ymgynghori.
6
Pan ymgynghorir â Gwladwriaeth AEE yn unol â pharagraff (5) ar benderfyniad ynghylch y cais dan sylw, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r Wladwriaeth AEE o’r penderfyniad ac anfon ati ddatganiad o—
a
cynnwys y penderfyniad ac unrhyw amodau cysylltiedig ag ef;
b
y prif resymau ac ystyriaethau y seilir y penderfyniad arnynt gan gynnwys, os yn berthnasol, gwybodaeth am gyfranogiad y cyhoedd; a
c
disgrifiad, pan fo angen, o’r prif fesurau er mwyn osgoi, lleihau ac, os yn bosibl, gwrthbwyso prif effeithiau andwyol y datblygiad.
Prosiectau mewn Gwladwriaeth AEE arall sy’n debygol o gael effeithiau trawsffiniol sylweddol54
1
Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael gwybodaeth gan Wladwriaeth AEE arall, yn unol ag Erthygl 7(1) neu 7(2) o’r Gyfarwyddeb, a gasglwyd o ddatblygwr prosiect arfaethedig yn y Wladwriaeth AEE arall gan y Wladwriaeth AEE honno, sy’n debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd yng Nghymru, rhaid iddynt, yn unol ag Erthygl 7(4) o’r Gyfarwyddeb—
a
cynnal ymgynghoriadau gyda’r Wladwriaeth AEE honno ynghylch effeithiau sylweddol potensial y prosiect arfaethedig ar yr amgylchedd yng Nghymru a’r mesurau a ragwelir ar gyfer lleihau neu ddileu effeithiau o’r fath; a
b
cyn y rhoddir caniatâd datblygu i’r prosiect penderfynu ar gyfnod rhesymol ar y cyd â’r Wladwriaeth AEE honno pryd y caniateir i aelodau’r cyhoedd yng Nghymru gyflwyno sylwadau i’r awdurdod cymwys yn y Wladwriaeth AEE honno, yn unol ag Erthygl 7(3)(b) o’r Gyfarwyddeb.
2
Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd—
a
trefnu i’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) fod ar gael, o fewn cyfnod rhesymol o amser, i’r awdurdodau yng Nghymru sy’n debygol o fod â diddordeb yn y prosiect oherwydd eu cyfrifoldebau amgylcheddol penodol, ac i’r cyhoedd dan sylw yng Nghymru hefyd;
b
sicrhau bod yr awdurdodau hynny a’r cyhoedd dan sylw yn cael cyfle i anfon ymlaen eu barn ar yr wybodaeth a ddarparwyd at yr awdurdod cymwys yn y Wladwriaeth AEE berthnasol o fewn cyfnod rhesymol o amser, cyn y rhoddir caniatâd datblygu i’r prosiect; ac
c
i’r graddau y mae gwybodaeth o’r fath wedi ei chael gan Weinidogion Cymru, hysbysu’r awdurdodau hynny a’r cyhoedd o gynnwys unrhyw benderfyniad gan awdurdod cymwys y Wladwriaeth AEE berthnasol; ac yn benodol—
i
unrhyw amodau cysylltiedig â’r penderfyniad;
ii
y prif resymau ac ystyriaethau y seiliwyd y penderfyniad arnynt gan gynnwys, os yn berthnasol, gwybodaeth am gyfranogiad y cyhoedd; a
iii
disgrifiad o’r prif fesurau i osgoi, lleihau ac, os yn bosibl, gwrthbwyso unrhyw brif effeithiau andwyol a ganfuwyd.