Rhagolygol
RHAN 2LL+CSgrinio
Darpariaethau cyffredinol sy’n ymwneud â sgrinioLL+C
4.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), bydd ddigwyddiad a grybwyllir ym mharagraff (2) yn penderfynu at ddiben y Rheoliadau hyn bod datblygiad yn ddatblygiad AEA.
(2) Y digwyddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—
(a)cyflwyniad datganiad mewn perthynas â’r datblygiad hwnnw gan y ceisydd neu’r apelydd y mae’r ceisydd neu’r apelydd yn cyfeirio ato fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn; neu
(b)mabwysiadu barn sgrinio i’r perwyl bod y datblygiad yn ddatblygiad AEA gan yr awdurdod cynllunio perthnasol.
(3) Mae cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru yn penderfynu pa un a yw datblygiad yn ddatblygiad AEA ai peidio at ddiben y Rheoliadau hyn.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo nad yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â datblygiad arfaethedig penodol a bennir yn y cyfarwyddyd yn unol ag Erthygl 2(4) o’r Gyfarwyddeb (ond heb iddo leihau effaith Erthygl 7 o’r Gyfarwyddeb).
(5) Pan roddir cyfarwyddyd o dan baragraff (4) rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)anfon copi o unrhyw gyfarwyddyd o’r fath i’r awdurdod cynllunio perthnasol;
(b)sicrhau bod yr wybodaeth a ystyriwyd wrth wneud y cyfarwyddyd a’r rhesymau dros wneud y cyfarwyddyd ar gael i’r cyhoedd;
(c)ystyried pa un a fyddai math arall o asesiad yn briodol; a
(d)cymryd unrhyw gamau y maent yn ystyried sy’n briodol er mwyn dod â’r wybodaeth a gafwyd o dan y math arall o asesiad i sylw’r cyhoedd.
(6) Pan fo’n rhaid i awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru benderfynu o dan y Rheoliadau hyn a yw datblygiad Atodlen 2 yn ddatblygiad AEA, rhaid i’r awdurdod neu Weinidogion Cymru ystyried cymaint o’r meini prawf dethol a nodir yn Atodlen 3 ag sy’n berthnasol i’r datblygiad wrth wneud y penderfyniad hwnnw.
(7) Pan fo awdurdod cynllunio lleol yn mabwysiadu barn sgrinio, neu pan wneir cyfarwyddyd sgrinio gan Weinidogion Cymru—
(a)rhaid cyflwyno’r farn honno neu’r cyfarwyddyd hwnnw ynghyd â datganiad sy’n nodi’r rhesymau llawn dros y casgliad hwnnw yn glir ac yn fanwl; a
(b)rhaid i’r awdurdod neu Weinidogion Cymru, yn ôl y digwydd, anfon copi o’r farn neu’r cyfarwyddyd a chopi o’r datganiad sy’n ofynnol gan is-baragraff (a) i’r person sy’n bwriadu cynnal neu sydd wedi cynnal y datblygiad dan sylw.
(8) Caiff Gweinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd sgrinio naill ai—
(a)o’u hewyllys eu hunain; neu
(b)os gofynnir iddynt wneud hynny gan unrhyw berson.
(9) Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod y datblygiad penodol hwnnw o ddisgrifiad a grybwyllir yng Ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 2 yn ddatblygiad AEA er gwaethaf y ffaith nad oes yr un o’r amodau a gynhwysir yn is-baragraffau (a) a (b) o’r diffiniad o “datblygiad Atodlen 2” yn cael ei fodloni mewn perthynas â’r datblygiad hwnnw.
(10) Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o unrhyw gyfarwyddyd sgrinio a chopi o’r datganiad sy’n ofynnol gan baragraff (7)(a) i’r awdurdod cynllunio perthnasol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 4 mewn grym ar 1.3.2016, gweler rhl. 1(2)
Ceisiadau am farnau sgrinioLL+C
5.—(1) Caiff person sy’n bwriadu cynnal datblygiad ofyn i’r awdurdod cynllunio perthnasol fabwysiadu barn sgrinio.
(2) Rhaid i gais am farn sgrinio mewn perthynas â chais am ganiatâd cynllunio gael ei gyflwyno ynghyd â—
(a)plan sy’n ddigonol i adnabod y tir;
(b)disgrifiad byr o natur a phwrpas y datblygiad a’i effeithiau posibl ar yr amgylchedd; a
(c)unrhyw wybodaeth arall neu sylwadau eraill y gallai’r person sy’n gwneud y cais ddymuno eu darparu neu eu gwneud.
(3) Rhaid i gais am farn sgrinio mewn perthynas â chais dilynol gael ei gyflwyno ynghyd â—
(a)plan sy’n ddigonol i adnabod y tir;
(b)digon o wybodaeth i alluogi’r awdurdod cynllunio perthnasol i ganfod unrhyw ganiatâd cynllunio a roddwyd i’r datblygiad mewn cysylltiad â chais dilynol sydd wedi ei wneud;
(c)disgrifiad o effeithiau tebygol ar yr amgylchedd na chanfuwyd ar yr adeg y rhoddwyd y caniatâd cynllunio; a
(d)unrhyw wybodaeth arall neu sylwadau eraill y gallai’r person sy’n gwneud y cais ddymuno eu darparu neu eu gwneud.
(4) Os nad yw awdurdod sy’n cael cais am farn sgrinio yn ystyried ei fod wedi cael ei ddarparu â digon o wybodaeth i fabwysiadu barn, rhaid iddo roi gwybod beth yw’r pwyntiau lle y mae angen gwybodaeth ychwanegol arnynt i’r person sy’n gwneud y cais.
(5) Rhaid i awdurdod fabwysiadu barn sgrinio o fewn 21 diwrnod yn dechrau â’r dyddiad y ceir cais a wnaed yn unol â pharagraff (1) neu unrhyw gyfnod hwy y cytunir arno’n ysgrifenedig â’r person sy’n gwneud y cais.
(6) Rhaid i awdurdod sy’n mabwysiadu barn sgrinio yn unol â pharagraff (5) anfon copi i’r person a wnaeth y cais.
(7) Pan fo awdurdod—
(a)yn methu â mabwysiadu barn sgrinio yn unol â pharagraff (5); neu
(b)yn mabwysiadu barn i’r perwyl bod y datblygiad yn ddatblygiad AEA;
caiff y person a ofynnodd am y farn ofyn i Weinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd sgrinio.
(8) Caiff y person wneud cais yn unol â pharagraff (7) hyd yn oed os nad yw’r awdurdod wedi cael gwybodaeth ychwanegol y mae wedi ei cheisio o dan baragraff (4).
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 5 mewn grym ar 1.3.2016, gweler rhl. 1(2)
Ceisiadau am gyfarwyddydau sgrinio gan Weinidogion CymruLL+C
6.—(1) Rhaid i berson sy’n gwneud cais i Weinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd sgrinio yn unol â rheoliad 5(7) (“person sy’n gwneud cais”) gyflwyno’r canlynol gyda’r cais—
(a)copi o’r cais i’r awdurdod cynllunio perthnasol o dan reoliad 5(1) a’r dogfennau a ddaeth ynghyd â’r cais;
(b)copi o unrhyw hysbysiad a gafwyd o dan reoliad 5(4) ac unrhyw ymateb a anfonwyd;
(c)copi o unrhyw farn sgrinio a gafwyd gan yr awdurdod ac unrhyw ddatganiad o’r rhesymau a ddaeth ynghyd â’r farn; a
(d)>unrhyw sylwadau y dymuna’r person eu gwneud.
(2) Rhaid i berson sy’n gwneud cais anfon copi o’r cais hwnnw a’r sylwadau a wneir gan y person hwnnw i Weinidogion Cymru i’r awdurdod cynllunio perthnasol.
(3) Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried nad oes digon o wybodaeth wedi ei darparu i wneud cyfarwyddyd sgrinio, rhaid iddynt hysbysu’r person sy’n gwneud y cais.
(4) Rhaid i’r hysbysiad bennu’r pwyntiau y mae angen gwybodaeth ychwanegol amdanynt.
(5) Caiff Gweinidogion Cymru hefyd ofyn i’r awdurdod cynllunio perthnasol ddarparu cymaint o wybodaeth ag y gall am unrhyw rai o’r pwyntiau hynny.
(6) Rhaid i Weinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd sgrinio o fewn 21 diwrnod yn dechrau â’r dyddiad y ceir cais yn unol â rheoliad 5(7) neu unrhyw gyfnod hwy y gwneir yn ofynnol yn rhesymol.
(7) Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o unrhyw gyfarwyddyd sgrinio a wneir yn unol â pharagraff (6) i’r person a wnaeth y cais cyn gynted ag y mae’n rhesymol ymarferol.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 6 mewn grym ar 1.3.2016, gweler rhl. 1(2)