RHAN 7Datblygiad Gan Awdurdod Cynllunio Lleol
Addasiadau pan fo’r cais gan awdurdod cynllunio lleol
25. Pan mai’r awdurdod cynllunio perthnasol yw’r (neu a fyddai’r) ceisydd hefyd (pa un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd gydag unrhyw berson arall), mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i gais AEA (neu gais arfaethedig) yn ddarostyngedig i’r addasiadau canlynol—
(a)nid yw rheoliadau 5 a 6 yn gymwys, yn ddarostyngedig i reoliad 26(1) a (2);
(b)mae rheoliad 7 yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriad at reoliad 5(4) a (5) wedi ei hepgor;
(c)nid yw rheoliad 10 yn gymwys;
(d)nid yw rheoliadau 13 a 14 yn gymwys;
(e)nid yw paragraffau (1) i (3) o reoliad 15 yn gymwys, ac mae rheoliad 15(4) yn gymwys i unrhyw ymgynghorai y mae’r awdurdod cynllunio perthnasol yn gofyn am gymorth ganddo fel y mae’n gymwys i ymgynghorai a hysbysir yn unol â rheoliad 15(3);
(f)ac eithrio at ddibenion rheoliad 19(3) a (4), mae rheoliad 16 yn gymwys fel pe bai—
(i)paragraff (1) yn darllen—
“(1) Pan fo awdurdod cynllunio perthnasol sy’n gwneud cais AEA yn cofnodi datganiad, y cyfeirir ato fel “datganiad amgylcheddol”, rhaid iddo—
(a)darparu copi o’r canlynol i bob ymgynghorai—
(i)y datganiad;
(ii)y cais perthnasol ac unrhyw blan a gyflwynir gyda’r cynllun; a
(iii)yn achos cais dilynol, y caniatâd cynllunio a roddwyd i’r datblygiad y gwnaed y cais dilynol mewn cysylltiad ag ef ac unrhyw ddogfennau neu wybodaeth sy’n ymwneud â’r cais;
(b)hysbysu bob ymgynghorai y caniateir cyflwyno sylwadau i’r awdurdod cynllunio perthnasol; ac
(c)anfon y canlynol i Weinidogion Cymru o fewn 14 diwrnod ar ôl cofnodi’r datganiad—
(i)un copi o’r datganiad;
(ii)copi o’r cais perthnasol ac unrhyw ddogfennau a gyflwynwyd gyda’r cais; a
(iii)yn achos cais dilynol, y caniatâd cynllunio a roddwyd i’r datblygiad y gwnaed y cais dilynol mewn cysylltiad ag ef ac unrhyw ddogfennau neu wybodaeth sy’n ymwneud â’r cais.”; a
(ii)paragraffau (2) a (3) wedi eu hepgor;
(iii)y geiriau “Pan fo ceisydd yn cyflwyno datganiad amgylcheddol i’r awdurdod yn unol â pharagraff (1)” yn rheoliad 16(5), wedi eu hepgor; a
(iv)“cyflwynwyd” yn rheoliad 16(6) yn darllen “cofnodwyd”;
(g)mae rheoliad 19 yn gymwys fel pe bai paragraff (2) wedi ei hepgor.
Barnau a chyfarwyddydau sgrinio
26.—(1) Caiff awdurdod sy’n bwriadu gwneud cais cynllunio neu gais dilynol pan mai’r awdurdod ei hun fyddai’r awdurdod cynllunio perthnasol mewn perthynas â’r cais, fabwysiadu barn sgrinio neu ofyn i Weinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd sgrinio, ac mae paragraffau (3) a (4) o reoliad 6 yn gymwys i gais o’r fath fel y maent yn gymwys i gais a wneir yn unol â rheoliad 5(7).
(2) Caiff awdurdod cynllunio perthnasol sy’n bwriadu cynnal datblygiad yr ystyrir ganddynt y gallai fod—
(a)yn ddatblygiad o ddisgrifiad a bennir yn Atodlen 2 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995(1) ac eithrio datblygiad o ddisgrifiad a bennir yn erthygl 3(12) o’r Gorchymyn hwnnw; neu
(b)yn ddatblygiad y byddai caniatâd yn cael ei roi ar ei gyfer oni bai am reoliad 37 (cynlluniau parth cynllunio wedi eu symleiddio neu orchmynion parth menter newydd),
fabwysiadu barn sgrinio neu ofyn i Weinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd sgrinio.
(3) Mae paragraffau (3) a (4) o reoliad 6 yn gymwys i gais o’r fath fel y maent yn gymwys i gais a wneir yn unol â rheoliad 5(7).
(4) Rhaid i’r canlynol fynd ynghyd â chais o dan baragraff (1) neu (2)—
(a)yn achos cais cynllunio, y dogfennau a ddisgrifir yn rheoliad 5(2);
(b)yn achos cais dilynol, y dogfennau a ddisgrifir yn rheoliad 5(3).
(5) Rhaid i awdurdod sy’n gwneud cais o dan baragraff (1) neu (2) anfon unrhyw wybodaeth ychwanegol y gofynnir amdani i Weinidogion Cymru i’w galluogi i wneud cyfarwyddyd.
O.S. 1995/418, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.