xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3Gweithdrefnau Ynghylch Ceisiadau am Ganiatâd Cynllunio

Cais a wnaed i awdurdod cynllunio lleol heb ddatganiad amgylcheddol

10.—(1Pan nad oes datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn, yn cael ei gyflwyno â chais AEA i awdurdod cynllunio lleol er mwyn penderfynu arno, rhaid i’r awdurdod hysbysu’r ceisydd bod cyflwyno datganiad amgylcheddol yn ofynnol.

(2Pan fo’r awdurdod cynllunio perthnasol yn ymwybodol bod unrhyw berson penodol yn cael ei effeithio neu yn debygol o gael ei effeithio gan y cais, neu â diddordeb yn y cais, ac sy’n annhebygol o ddod yn ymwybodol ohono drwy gyfrwng cyhoeddiad electronig, hysbysiad ar y safle neu drwy hysbyseb lleol, rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol roi gwybod i’r ceisydd am unrhyw berson o’r fath.

(3Rhaid i awdurdod hysbysu’r ceisydd yn unol â pharagraff (1)—

(a)o fewn 21 diwrnod yn dechrau â’r dyddiad y ceir y cais neu unrhyw gyfnod hwy y cytunir arno’n ysgrifenedig gyda’r ceisydd; neu

(b)pan fo Gweinidogion Cymru, ar ôl terfyn y 21 diwrnod hwnnw neu unrhyw gyfnod hwy y cytunwyd arno, yn gwneud cyfarwyddyd sgrinio i’r perwyl bod y datblygiad yn ddatblygiad AEA, o fewn 7 diwrnod yn dechrau â’r dyddiad y cafodd yr awdurdod gopi o’r cyfarwyddyd sgrinio hwnnw.

(4Caiff ceisydd sy’n cael hysbysiad yn unol â pharagraff (1) ysgrifennu at yr awdurdod o fewn 21 diwrnod yn dechrau gyda dyddiad yr hysbysiad, i ddatgan—

(a)bod y ceisydd yn derbyn ei farn ac yn darparu datganiad amgylcheddol; neu

(b)oni bai bod yr amod y cyfeirir ato ym mharagraff (5) yn cael ei fodloni, bod y ceisydd yn ysgrifennu at Weinidogion Cymru i ofyn am gyfarwyddyd sgrinio.

(5At ddiben paragraff (4)(b) yr amod yw bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud cyfarwyddyd sgrinio—

(a)mewn cysylltiad â’r datblygiad, yn achos cais am ganiatâd cynllunio; neu

(b)yn unol â chais dilynol,

yn ôl y digwydd.

(6Os nad yw’r ceisydd yn ysgrifennu at yr awdurdod yn unol â pharagraff (4), tybir bod y caniatâd neu’r caniatâd dilynol a geisir wedi ei wrthod ar ddiwedd y cyfnod perthnasol o 21 diwrnod, oni bai bod yr amod y cyfeirir ato ym mharagraff (7) yn cael ei fodloni a bod y gwrthodiad tybiedig—

(a)yn cael ei drin fel penderfyniad yr awdurdod at ddibenion erthygl 29(3)(c) (cofrestr o geisiadau) o Orchymyn 2012; ond

(b)nad yw’n arwain at apêl i Weinidogion Cymru o dan adran 78 o Ddeddf 1990 (hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o’r fath)(1).

(7At ddibenion paragraff (6) yr amod yw bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud cyfarwyddyd sgrinio i’r perwyl nad yw’r datblygiad yn ddatblygiad AEA—

(a)yn achos cais am ganiatâd cynllunio; neu

(b)yn unol â chais dilynol,

yn ôl y digwydd.

(8Oni bai bod Gweinidogion Cymru yn gwneud cyfarwyddyd sgrinio i’r perwyl nad yw’r datblygiad yn ddatblygiad AEA, rhaid i awdurdod sydd wedi rhoi hysbysiad yn unol â pharagraff (1) benderfynu ar y cais perthnasol dim ond drwy wrthod caniatâd cynllunio neu ganiatâd dilynol os nad yw’r ceisydd yn cyflwyno datganiad amgylcheddol ac yn cydymffurfio â rheoliad 17(6).

(9Rhaid i berson sy’n gwneud cais am gyfarwyddyd sgrinio yn unol â pharagraff (4)(b) anfon copïau o’r canlynol i Weinidogion Cymru gyda’r cais—

(a)y cais;

(b)pob dogfen a anfonwyd i’r awdurdod yn rhan o’r cais;

(c)pob gohebiaeth rhwng y ceisydd a’r awdurdod sy’n ymwneud â’r datblygiad arfaethedig;

(d)copi o unrhyw ganiatâd cynllunio a roddwyd ar gyfer y datblygiad; ac

(e)yn achos cais dilynol, dogfennau neu wybodaeth berthnasol sy’n ymwneud â’r caniatâd cynllunio a roddwyd ar gyfer y datblygiad,

ac mae paragraffau (2) i (7) o reoliad 6 yn gymwys i gais o dan y rheoliad hwn fel y maent yn gymwys i gais a wneir yn unol â rheoliad 5(7).

(1)

Diwygiwyd adran 78 gan Ddeddf 1991, adran 17(2); Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5), adran 43(2); Deddf Lleoliaeth 2011 (p. 20), adran 121 ac Atodlen 12, paragraffau 1 ac 11 ac adran 123(1) a (3); Deddf Cynllunio 2008 (p. 29), adran 196(4) ac Atodlen 10, paragraffau 1 a 3, adran 197 ac Atodlen 11, paragraffau 1 a 2; Deddf Twf a Seilwaith 2013 (p. 27), adran 1(2) ac Atodlen 1, paragraffau 1 ac 8; Deddf Cynllunio (Cymru) 2015, adrannau 45 a 46; a chan O.S. 2014/2773 (Cy. 280), erthygl 3 ac Atodlen 1, paragraffau 1 a 3. Mae diwygiad arall nad yw’n berthnasol i’r offeryn hwn.