RHAN 4Paratoi Datganiadau Amgylcheddol
Barnau cwmpasu13
1
Caiff person sy’n bwriadu gwneud cais AEA ofyn i’r awdurdod cynllunio perthnasol ddarparu barn gwmpasu.
2
Rhaid i gais o dan baragraff (1) gynnwys—
a
mewn perthynas â chais am ganiatâd cynllunio—
i
plan sy’n ddigonol i adnabod y tir;
ii
disgrifiad byr o natur a phwrpas y datblygiad a’i effeithiau posibl ar yr amgylchedd; a
iii
unrhyw wybodaeth arall neu sylwadau eraill y gallai’r person sy’n gwneud y cais ddymuno eu darparu neu eu gwneud.
b
mewn perthynas â chais dilynol—
i
plan sy’n ddigonol i adnabod y tir;
ii
digon o wybodaeth i alluogi’r awdurdod cynllunio perthnasol i ganfod unrhyw ganiatâd cynllunio a roddwyd i’r datblygiad mewn cysylltiad â chais dilynol sydd wedi ei wneud;
iii
disgrifiad o effeithiau posibl ar yr amgylchedd na chanfuwyd ar yr adeg y rhoddwyd y caniatâd cynllunio; a
iv
unrhyw wybodaeth arall neu sylwadau eraill y gallai’r person sy’n gwneud y cais ddymuno eu darparu neu eu gwneud.
3
Os nad yw awdurdod sy’n cael cais o dan baragraff (1) yn ystyried ei fod wedi cael ei ddarparu â digon o wybodaeth i fabwysiadu barn sgrinio, rhaid iddo roi gwybod i’r person sy’n gwneud y cais am y pwyntiau lle y mae angen gwybodaeth ychwanegol arnynt.
4
Rhaid i awdurdod beidio â mabwysiadu barn gwmpasu mewn ymateb i gais o dan baragraff (1) hyd nes ei fod wedi ymgynghori â’r person a wnaeth y cais a’r ymgynghoreion, ond rhaid iddo, yn unol â pharagraff (5), fabwysiadu barn gwmpasu ac anfon copi i’r person a wnaeth y cais o fewn 5 wythnos yn dechrau â’r dyddiad y ceir y cais neu unrhyw gyfnod hwy y cytunir arno yn ysgrifenedig â’r person a wnaeth y cais.
5
Pan fo person wedi gofyn i’r awdurdod am farn o dan baragraff (1) uchod ar yr un pryd â gwneud cais am farn sgrinio o dan reoliad 5(1), ac mae’r awdurdod wedi mabwysiadu barn sgrinio i’r perwyl bod y datblygiad yn ddatblygiad AEA, rhaid i’r awdurdod fabwysiadu barn gwmpasu ac anfon copi i’r person a wnaeth y cais o fewn 5 wythnos yn dechrau â’r dyddiad y mabwysiadwyd y farn sgrinio honno neu unrhyw gyfnod hwy y cytunir arno yn ysgrifenedig â’r person a wnaeth y cais.
6
Cyn mabwysiadu barn gwmpasu, rhaid i’r awdurdod gymryd y canlynol i ystyriaeth—
a
nodweddion neilltuol y datblygiad penodol;
b
nodweddion neilltuol y datblygiad o’r math dan sylw; ac
c
y nodweddion amgylcheddol y mae’r datblygiad yn debygol o effeithio arnynt.
7
Pan fo awdurdod yn methu â mabwysiadu barn gwmpasu o fewn y cyfnod perthnasol a grybwyllir ym mharagraff (4) neu (5), caiff y person a wnaeth gais am y farn ofyn i Weinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd cwmpasu o dan reoliad 14(1).
8
Mae paragraff (7) yn gymwys hyd yn oed os nad yw’r awdurdod wedi cael gwybodaeth ychwanegol y mae wedi ei cheisio o dan baragraff (3).
9
Nid oes unrhyw beth yn atal awdurdod sydd wedi mabwysiadu barn gwmpasu rhag ei gwneud yn ofynnol i’r person a wnaeth y cais ddarparu gwybodaeth ychwanegol.
10
Ystyr “gwybodaeth ychwanegol” (“additional information”) ym mharagraff (9) yw gwybodaeth mewn cysylltiad ag unrhyw ddatganiad y caniateir ei gyflwyno gan y person hwnnw fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â chais am ganiatâd cynllunio neu gais dilynol ar gyfer yr un datblygiad.