Rhagolygol
DehongliLL+C
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “ardal sensitif” (“sensitive area”) yw unrhyw un o’r canlynol—
(a)
tir hysbysedig o dan adran 28(1) (safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981();
(b)
Parc Cenedlaethol o fewn ystyr Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949();
(c)
eiddo sy’n ymddangos ar Restr Treftadaeth y Byd a gedwir o dan erthygl 11(2) o Gonfensiwn UNESCO ynghylch Diogelu Treftadaeth Ddiwylliannol a Naturiol y Byd 1972();
(d)
heneb gofrestredig o fewn ystyr Deddf Henebion a Mannau Archeolegol 1979();
(e)
ardal a ddynodwyd yn ardal o harddwch naturiol eithriadol gan orchymyn a wnaed o dan adran 82(2) (ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000();
(f)
safle Ewropeaidd o fewn ystyr rheoliad 8 o Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010();
ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw person a benodir gan Weinidogion Cymru i benderfynu ar apêl;
ystyr “awdurdod cynllunio perthnasol” (“relevant planning authority”) yw’r corff sy’n gyfrifol, a oedd yn gyfrifol neu a fyddai’n gyfrifol am benderfynu ar gais am ganiatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad dan sylw, oni bai—
(a)
bod y datblygiad yn ddatblygiad o arwyddocâd cenedlaethol at ddibenion adran 62D o Ddeddf 1990(); neu
(b)
am gyfarwyddyd o dan adran 77 o Ddeddf 1990 (atgyfeirio ceisiadau at yr Ysgrifennydd Gwladol)();
ystyr “barn gwmpasu” (“scoping opinion”) yw barn ysgrifenedig yr awdurdod cynllunio perthnasol ynghylch yr wybodaeth y mae’n rhaid ei darparu yn y datganiad amgylcheddol;
ystyr “barn sgrinio” (“screening opinion”) yw barn ysgrifenedig yr awdurdod cynllunio perthnasol ynghylch a yw datblygiad yn ddatblygiad AEA:
ystyr “cais AEA” (“EIA application”) yw—
(a)
cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad AEA; neu
(b)
cais dilynol mewn cysylltiad â datblygiad AEA;
ystyr “cais Atodlen 1” (“Schedule 1 application”) a “cais Atodlen 2” (“Schedule 2 application”) yw cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad Atodlen 1 a datblygiad Atodlen 2 yn ôl eu trefn;
ystyr “cais dilynol” (“subsequent application”) yw cais am ganiatâd, cytundeb neu gymeradwyaeth ar fater—
(a)
pan fo’r gymeradwyaeth yn ofynnol gan neu o dan amod y mae caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig iddi; a
(b)
pan mae’n rhaid cael cymeradwyaeth cyn y caniateir dechrau ar y datblygiad cyfan neu ar ran ohono a ganiateir gan y caniatâd cynllunio;
ystyr “caniatâd dilynol” (“subsequent consent”) yw caniatâd, cytundeb neu gymeradwyaeth a roddir yn unol â chais dilynol;
ystyr “cofrestr” (“register”) yw cofrestr a gedwir yn unol ag adran 69 o Ddeddf 1990 (cofrestrau o geisiadau etc.)() ac ystyr “cofrestr briodol” (“appropriate register”) yw’r gofrestr y rhoddwyd manylion am gais am ganiatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad perthnasol arni neu y byddent yn cael eu rhoi arni pe gwnaed cais o’r fath;
ystyr “cyfarwyddyd cwmpasu” (“scoping direction”) yw cyfarwyddyd ysgrifenedig Gweinidogion Cymru ynghylch yr wybodaeth y mae’n rhaid ei darparu yn y datganiad amgylcheddol;
ystyr “cyfarwyddyd sgrinio” (“screening direction”) yw cyfarwyddyd a wneir gan Weinidogion Cymru ynghylch pa un a yw datblygiad yn ddatblygiad AEA;
ystyr “datblygiad AEA” (“EIA development”) yw datblygiad sydd naill ai—
(a)
yn ddatblygiad Atodlen 1; neu
(b)
yn ddatblygiad Atodlen 2 sy’n debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd yn rhinwedd ffactorau fel ei natur, ei faint neu ei leoliad;
ystyr “datblygiad Atodlen 1” (“Schedule 1development”) yw datblygiad, heblaw datblygiad esempt, o ddisgrifiad a grybwyllir yn Atodlen 1;
ystyr “datblygiad Atodlen 2” (“Schedule 2 development”) yw datblygiad, heblaw datblygiad esempt, o ddisgrifiad a grybwyllir yng Ngholofn 1 y tabl yn Atodlen 2—
(a)
pan fo’n rhaid cyflawni unrhyw ran o’r datblygiad hwnnw mewn ardal sensitif; neu
(b)
pan fodlonir neu y rhagorir ar unrhyw drothwy neu faen prawf cymwys yn rhan gyfatebol Colofn 2 o’r tabl hwnnw mewn perthynas â’r datblygiad hwnnw;
ystyr “datblygiad esempt” (“exempt development”) yw datblygiad y mae Gweinidogion Cymru wedi gwneud cyfarwyddyd mewn cysylltiad ag ef o dan reoliad 4(4);
ystyr “datganiad amgylcheddol” (“environmental statement”) yw datganiad—
(a)
sy’n cynnwys cymaint o’r wybodaeth y cyfeirir ati yn Rhan 1 o Atodlen 4 ag sydd yn rhesymol yn ofynnol er mwyn asesu effeithiau amgylcheddol y datblygiad ac y gellir yn rhesymol ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd neu’r corff cychwyn ei gasglu, gan roi ystyriaeth benodol i wybodaeth a dulliau presennol o asesu, ond
(b)
sy’n cynnwys o leiaf yr wybodaeth y cyfeirir ati yn Rhan 2 o Atodlen 4;
ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;
ystyr “Deddf 1991” (“the 1991 Act”) yw Deddf Cynllunio a Digolledu 1991();
ystyr “Deddf 1995” (“the 1995 Act”) yw Deddf yr Amgylchedd 1995();
ystyr “drwy hysbyseb lleol” (“by local advertisement”), mewn perthynas â hysbysiad, yw—
(a)
drwy gyhoeddi’r hysbysiad mewn papur newydd sy’n cylchredeg yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli; a
(b)
pan fo’r awdurdod cynllunio perthnasol yn cynnal gwefan at ddiben hysbysebu ceisiadau, drwy gyhoeddi’r hysbysiad ar y wefan;
ystyr “dyddiad cychwyn” (“commencement date”) yw 1 Mawrth 2016;
ystyr “Gorchymyn 2012” (“the 2012 Order”) yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012();
ystyr “Gorchymyn 2016” (“the 2016 Order”) yw Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016();
ystyr “gorchymyn datblygu lleol” (“local development order”) yw gorchymyn datblygu lleol a wneir yn unol ag adran 61A o Ddeddf 1990();
ystyr “gwybodaeth amgylcheddol” (“environmental information”) yw’r datganiad amgylcheddol, gan gynnwys unrhyw wybodaeth bellach ac unrhyw wybodaeth arall, unrhyw sylwadau a wneir gan unrhyw ymgynghorai ac unrhyw sylwadau a wneir yn briodol gan unrhyw berson arall ynghylch effeithiau amgylcheddol y datblygiad;
mae i “gwybodaeth bellach” (“further information”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 22(1);
ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb 2011/92/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor ar yr asesiad o effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd, fel y’i mabwysiadwyd ar 13 Rhagfyr 2011;
mae i “prif gyngor” yr ystyr a roddir i “principal council” gan adran 270(1) (darpariaethau cyffredinol ynghylch dehongli) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972();
ystyr “y Rheoliadau Cyffredinol” (“the General Regulations”) yw Rheoliadau Cyffredinol Cynllunio Gwlad a Thref 1992();
ystyr “y tir” (“the land”) yw’r tir y byddai’r datblygiad yn digwydd arno neu, mewn perthynas â datblygiad sydd wedi digwydd yn barod, y tir y mae’r datblygiad wedi digwydd arno;
ystyr “tŷ annedd” (“dwellinghouse”) yw adeilad neu ran o adeilad sy’n cael ei ddefnyddio fel annedd preifat sengl ac i ddim diben arall;
mae “unrhyw berson penodol” (“any particular person”) yn cynnwys unrhyw sefydliad anllywodraethol sy’n hyrwyddo diogelu’r amgylchedd;
ystyr “unrhyw wybodaeth arall” (“any other information”) yw unrhyw wybodaeth arall o sylwedd sy’n ymwneud â’r datganiad amgylcheddol ac a ddarparwyd gan y ceisydd neu’r apelydd yn ôl y digwydd;
ystyr “yr ymgynghoreion” (“the consultees”) yw—
(a)
mewn cysylltiad â chais am ganiatâd cynllunio a wneir i Weinidogion Cymru, unrhyw awdurdod, corff neu berson y mae’n ofynnol iddynt ymgynghori ag ef yn rhinwedd erthygl 22 o Orchymyn 2016 a’r cyrff y cyfeirir atynt yn is-baragraff (c) os na chyfeiriwyd atynt yn barod yn yr is-baragraff hwn;
(b)
unrhyw gorff y mae’n ofynnol i’r awdurdod cynllunio perthnasol ymgynghori ag ef, neu y byddai’n ofynnol iddo ymgynghori ag ef, pe byddai cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad dan sylw ger ei fron, yn rhinwedd erthygl 14 o Orchymyn 2012 (ymgynghoriadau cyn rhoi caniatâd) neu o unrhyw gyfarwyddyd o dan yr erthygl honno a’r cyrff y cyfeirir atynt yn is-baragraff (c) os na chyfeirir atynt yn barod yn yr is-baragraff hwn;
(c)
y cyrff canlynol—
(i)
unrhyw brif gyngor ar gyfer yr ardal lle mae’r tir wedi ei leoli, os nad yr awdurdod cynllunio perthnasol;
(ii)
Corff Adnoddau Naturiol Cymru();
(iii)
cyrff eraill a ddynodir gan ddarpariaeth statudol fel cyrff sydd â chyfrifoldebau amgylcheddol penodol ac y mae’r awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru, yn ôl y digwydd, yn ystyried ei bod yn debygol y bydd ganddynt ddiddordeb yn y cais.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), yr un ystyr sydd i’r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Neddf 1990 at ddibenion y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt at ddibenion Deddf 1990.
(3) Yr un ystyr sydd i’r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn y Gyfarwyddeb at ddibenion y Rheoliadau hyn (pa un a ydynt yn cael eu defnyddio yn Neddf 1990 ai peidio) ag sydd iddynt at ddibenion y Gyfarwyddeb.
(4) Yn y Rheoliadau hyn, rhaid peidio â dehongli cyfeiriadau at Weinidogion Cymru fel cyfeiriadau at arolygydd.
(5) Pan ganiateir i gorff, neu pan fo’n ofynnol i gorff nodi, rhoi gwybod, gofyn, cadarnhau, hysbysu neu gyflwyno sylwadau, rhaid i’r corff hwnnw wneud hynny’n ysgrifenedig.
(6) Caniateir cyflwyno neu roi unrhyw hysbysiad neu ddogfen arall y mae’n rhaid eu hanfon, eu cyflwyno neu eu rhoi o dan y Rheoliadau hyn mewn modd a bennir yn adran 329 o Ddeddf 1990 (cyflwyno hysbysiadau)().