RHAN 5Cyhoeddusrwydd a Gweithdrefnau ar Gyflwyno Datganiadau Amgylcheddol

Argaeledd copïau o ddatganiadau amgylcheddol20

Rhaid i geisydd neu apelydd sy’n cyflwyno datganiad amgylcheddol mewn cysylltiad â chais neu apêl, sicrhau bod nifer rhesymol o gopïau o’r datganiad ar gael yn y cyfeiriad a enwir yn yr hysbysiadau a gyhoeddir neu a osodir yn unol ag erthygl 12 o Orchymyn 2012 neu reoliad 17(2)(f) fel y cyfeiriad lle y gellir cael copïau o’r fath.