- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Mae’r fersiwn hon o'r ddarpariaeth hon yn rhagolygol.
Defnyddir y term darpariaeth i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – megis Rhan, Pennod neu adran. Mae fersiwn o ddarpariaeth yn rhagolygol naill ai:
Gall Gorchmynion Cychwyn a restrir yn y blwch 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' fel rhai sydd heb eu gwneud eto ddod â'r fersiwn ragolygol hon i rym.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2016. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):
Rhagolygol
22.—(1) Os yw awdurdod cynllunio perthnasol, Gweinidogion Cymru neu’r arolygydd sy’n ymdrin â chais neu apêl y mae’r ceisydd neu’r apelydd wedi cyflwyno datganiad amgylcheddol mewn perthynas ag ef, o’r farn y dylai’r datganiad gynnwys gwybodaeth ychwanegol er mwyn bod yn ddatganiad amgylcheddol, rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol, Gweinidogion Cymru neu’r arolygydd hysbysu’r ceisydd neu’r apelydd yn unol â hynny a rhaid i’r ceisydd neu’r apelydd ddarparu’r wybodaeth ychwanegol honno; a chyfeirir at wybodaeth ychwanegol o’r fath yn y Rheoliadau hyn fel “gwybodaeth bellach” (“further information”).
(2) Mae paragraffau (3) i (9) yn gymwys mewn perthynas â gwybodaeth bellach ac unrhyw wybodaeth arall ac eithrio i’r graddau—
(a)y mae’r wybodaeth bellach ac unrhyw wybodaeth arall yn cael ei darparu at ddiben ymholiad neu wrandawiad a gynhelir o dan Ddeddf 1990; a
(b)bod y cais am yr wybodaeth bellach a wnaed yn unol â pharagraff (1) yn nodi ei bod i’w darparu at ddibenion o’r fath.
(3) Rhaid i dderbynnydd gwybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall gyhoeddi hysbysiad mewn papur newydd lleol sy’n cylchredeg yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli sy’n nodi—
(a)enw’r ceisydd am ganiatâd cynllunio neu am ganiatâd dilynol, neu’r apelydd (yn ôl y digwydd), ac enw a chyfeiriad yr awdurdod cynllunio perthnasol;
(b)y dyddiad y gwnaed y cais a’r dyddiad yr atgyfeiriwyd y cais i Weinidogion Cymru, os gwnaed hynny, er mwyn penderfynu arno neu ei fod yn destun apêl i Weinidogion Cymru;
(c)yn achos cais dilynol, digon o wybodaeth i alluogi adnabod y caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad;
(d)cyfeiriad neu leoliad a natur y datblygiad arfaethedig;
(e)bod gwybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall ar gael mewn perthynas â datganiad amgylcheddol sydd wedi ei ddarparu eisoes;
(f)y caiff aelodau’r cyhoedd edrych ar gopi o’r wybodaeth bellach neu o unrhyw wybodaeth arall ac unrhyw ddatganiad amgylcheddol sy’n ymwneud ag unrhyw ganiatâd cynllunio neu gais dilynol ar bob adeg resymol;
(g)cyfeiriad yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli lle caiff y cyhoedd edrych ar yr wybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall a’r dyddiad olaf y bydd ar gael i’w gweld (sydd yn ddyddiad nad yw’n llai na 21 diwrnod yn ddiweddarach na’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);
(h)cyfeiriad yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli (pa un a yw yr un cyfeiriad a roddir yn unol ag is-baragraff (g) ai peidio) lle gellir cael copïau o’r wybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall;
(i)y gellir cael copïau yno cyhyd â bod rhai yn dal ar gael;
(j)swm y tâl, os bydd tâl yn cael ei godi am gopi;
(k)y dylai unrhyw berson sy’n dymuno cyflwyno sylwadau am yr wybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall eu cyflwyno i’r awdurdod cynllunio perthnasol, Gweinidogion Cymru neu’r arolygydd (yn ôl y digwydd) cyn y dyddiad a nodir yn unol ag is-baragraff (g); ac
(l)y cyfeiriad y dylid anfon sylwadau iddo.
(4) Rhaid i’r sawl sy’n derbyn gwybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall anfon copi ohoni i bob un o’r personau yr anfonwyd atynt y datganiad sy’n ymwneud â hi, yn unol â’r Rheoliadau hyn.
(5) Pan mai’r awdurdod cynllunio lleol yw’r sawl sy’n derbyn yr wybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall, rhaid iddo anfon un copi o’r wybodaeth bellach i Weinidogion Cymru.
(6) Caiff y sawl sy’n derbyn yr wybodaeth bellach ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd neu’r apelydd drwy hysbysiad i ddarparu’r cyfryw nifer o gopïau o’r wybodaeth bellach neu’r wybodaeth arall a bennir yn yr hysbysiad (sef y nifer sy’n ofynnol at ddibenion paragraff (4) neu (5)).
(7) Pan ofynnir am wybodaeth o dan baragraff (1) neu pan ddarperir unrhyw wybodaeth arall, rhaid i Weinidogion Cymru neu’r arolygydd, yn ôl y digwydd,—
(a)atal y penderfyniad ar y cais neu’r apêl dros dro; a
(b)peidio â phenderfynu arno cyn—
(i)diwedd 21 diwrnod ar ôl y dyddiad yr anfonwyd yr wybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall i bob person yr anfonwyd atynt y datganiad sy’n ymwneud â hi, neu
(ii)diwedd 21 diwrnod ar ôl y dyddiad y cyhoeddwyd hysbysiad ohoni mewn papur newydd lleol,
pa bynnag un yw’r diweddaraf.
(8) Rhaid i’r ceisydd neu’r apelydd sy’n darparu gwybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall, yn unol â pharagraff (1) sicrhau bod nifer rhesymol o gopïau o’r wybodaeth ar gael yn y cyfeiriad a enwir yn yr hysbysiad a gyhoeddwyd yn unol â pharagraff (3)(h) fel y cyfeiriad lle gellir cael copïau o’r fath.
(9) Caniateir codi tâl rhesymol sy’n adlewyrchu costau argraffu a dosbarthu ar aelod o’r cyhoedd am gopi o’r wybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall, a roddir ar gael yn unol â pharagraff (8).
(10) Caiff yr awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru neu arolygydd ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd neu’r apelydd ddangos pa bynnag dystiolaeth y gallant ofyn amdani yn rhesymol i wirio unrhyw wybodaeth yn y datganiad amgylcheddol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 22 mewn grym ar 1.3.2016, gweler rhl. 1(2)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: