Rhagolygol
Dyletswyddau i hysbysu’r cyhoedd a Gweinidogion Cymru am y penderfyniadau terfynolLL+C
24.—(1) Pan fo cais AEA yn cael ei benderfynu gan awdurdod cynllunio lleol, rhaid i’r awdurdod—
(a)hysbysu Gweinidogion Cymru o’r penderfyniad;
(b)hysbysu’r cyhoedd o’r penderfyniad, drwy hysbyseb lleol, neu drwy unrhyw ddull arall sy’n rhesymol dan yr amgylchiadau; ac
(c)sicrhau bod datganiad yn cael ei roi ar gael i’r cyhoedd edrych arno yn y lle y cedwir y gofrestr briodol (neu adran berthnasol o’r gofrestr honno), sydd yn cynnwys—
(i)cynnwys y penderfyniad ac unrhyw amodau sy’n gysylltiedig ag ef;
(ii)y prif resymau ac ystyriaethau y mae’r penderfyniad wedi ei seilio arnynt gan gynnwys, os yn berthnasol, gwybodaeth am gyfranogiad y cyhoedd;
(iii)disgrifiad, pan fo angen, o’r prif gamau ar gyfer osgoi, lleihau ac, os yn bosibl, gwrthbwyso prif effeithiau andwyol y datblygiad; a
(iv)gwybodaeth ynghylch yr hawl i herio dilysrwydd y penderfyniad a’r gweithdrefnau ar gyfer gwneud hynny.
(2) Pan fo cais AEA yn cael ei benderfynu gan Weinidogion Cymru neu arolygydd, rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)hysbysu’r awdurdod cynllunio perthnasol o’r penderfyniad; a
(b)darparu datganiad o’r math a grybwyllir ym mharagraff (1)(c) i’r awdurdod.
(3) Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael hysbysiad o dan baragraff (2)(a), rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol gydymffurfio ag is-baragraffau (b) ac (c) o baragraff (1) mewn perthynas â’r penderfyniad yr hysbyswyd amdano yn y modd hwn fel pe bai’n benderfyniad yr awdurdod.