RHAN 8Ceisiadau am ganiatâd cynllunio a wneir i Weinidogion Cymru
Ceisiadau a wneir heb ddatganiad amgylcheddol29
1
Pan wneir cais ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru—
a
ei fod yn gais AEA; a
b
nad oes datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol yn mynd ynghyd â’r cais, at ddibenion y Rheoliadau hyn,
rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd bod cyflwyno datganiad amgylcheddol yn ofynnol a rhaid iddynt anfon copi o’r hysbysiad hwnnw i’r awdurdod cynllunio perthnasol.
2
Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd yn unol â pharagraff (1) o fewn 28 diwrnod sy’n dechrau gyda’r diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn cael y cais neu pa bynnag gyfnod hwy a bennir gan Weinidogion Cymru.
3
Caiff ceisydd sy’n cael hysbysiad o dan baragraff (1) gadarnhau i Weinidogion Cymru, o fewn 21 diwrnod yn dechrau gyda dyddiad yr hysbysiad, y bydd datganiad amgylcheddol yn cael ei ddarparu.
4
Pan fo Gweinidogion Cymru yn ymwybodol bod unrhyw berson penodol yn cael ei effeithio neu yn debygol o gael ei effeithio gan y cais, neu â diddordeb yn y cais, ac sy’n annhebygol o ddod yn ymwybodol ohono drwy gyfrwng cyhoeddiad electronig, hysbysiad ar y safle neu drwy hysbyseb lleol, rhaid i Weinidogion Cymru roi gwybod i’r ceisydd am unrhyw berson o’r fath.
5
Os nad yw’r ceisydd yn cadarnhau yn unol â pharagraff (4), nid oes gan Weinidogion Cymru unrhyw ddyletswydd i ymdrin â’r cais ac ar ddiwedd y cyfnod o 21 diwrnod rhaid iddynt hysbysu’r ceisydd nad oes unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd ynglŷn â’r cais.
6
Pan—
a
fo hysbysiad wedi ei roi o dan baragraff (1); a
b
nad yw’r ceisydd yn cyflwyno datganiad amgylcheddol ac yn cydymffurfio â rheoliad 17 (cyhoeddusrwydd pan fo datganiad amgylcheddol yn cael ei gyflwyno ar ôl y cais cynllunio),
rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu ar y cais dim ond drwy wrthod caniatâd cynllunio.